Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniadau:

Rhoddodd y Pennaeth Cyflawni – Materion Caffael ddiweddariad i'r Cabinet am y gwaith sydd ar y gweill ym mhob rhan o'r Cyngor er mwyn  paratoi ar gyfer Brexit, a nododd y meysydd a nodwyd lle bydd y risg/effaith uchaf, o bosibl.

 

Esboniodd y swyddog fod y Cyngor ar hyn o bryd yn wynebu ansicrwydd ynghylch y fargen rhwng y DU a'r UE, a phwysleisiodd bod angen i gynlluniau wrth gefn fod ar waith ar gyfer gwasanaethau rheng flaen hanfodol, gyda'r bwriad o darfu cyn lleied ag sy'n ymarferol bosibl arnyn nhw, yn enwedig ym maes cyflenwi bwyd a nwyddau hanfodol fel cynnyrch glanhau a gofal personol.

 

Diolchodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol am y diweddariad a dywedodd ei fod yn darparu rhywfaint o gefnogaeth i fusnesau, preswylwyr a'r rhai sy'n agored i niwed yn y gymuned yn ystod y cyfnod anodd yma, nododd ei fod e'n gwneud hyn drwy nodi risgiau i gadwyni cyflenwi a chaffael ac yn eu lliniaru.

 

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant at Adran 4.1 yr adroddiad a holodd sut mae'r Cyngor yn cyfleu'r wybodaeth yma i'r preswylwyr. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y byddai ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol yn cychwyn ar ddiwedd yr wythnos ac y byddai'n dilyn dull tebyg i'r llynedd.

 

Holodd y Dirprwy Arweinydd pa mor barod oedd yr Awdurdod Lleol ar gyfer unrhyw effaith ar argaeledd banciau bwyd i breswylwyr pe bai prinder cyflenwadau bwyd a galw cynyddol. Dywedodd y swyddog fod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda banciau bwyd i nodi eu hanghenion ac i roi cymaint o gymorth â phosibl iddyn nhw.

 

Gofynnodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai am ddiweddariad am y Gronfa Ffyniant a Rennir. Dywedodd yr Arweinydd wrth yr Aelod o'r Cabinet am ei drafodaeth gyda'r Ysgrifennydd Gwladol, lle credwyd mai'r bwriad oedd i'r Canghellor amlinellu'r Gronfa Ffyniant a Rennir yn ystod yr wythnos i ddod.  Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd wedi nodi mai’r bwriad oedd anrhydeddu’r ymrwymiad 'nid ceiniog yn llai' a’i bod yn ymddangos y byddai'r cyllid yn mynd yn uniongyrchol drwy'r Awdurdodau Lleol, gyda model rhanbarthol a ffefrir.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.      Derbyn sicrwydd bod y Cyngor yn cynllunio ar gyfer Brexit yn y ffordd orau bosibl;

2.      Nodi unrhyw feysydd eraill sydd angen cymorth pellach yn eu barn nhw; ac

3.      Adolygu'r meysydd risg uchaf (adran 1.2 uchod), a thrafod p'un a ddylid tynnu sylw at unrhyw rai eraill.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 23/11/2020

Dyddiad y penderfyniad: 17/11/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/11/2020 - Cabinet

Dogfennau Cysylltiedig: