Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wybod i'r Cabinet am y dull 'digidol' o ymgysylltu ac ymgynghori â thrigolion yngl?n â chyllideb 2021/22.

 

Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y cynigiwyd y byddai'r ymgynghoriad blynyddol mewn perthynas â chyllideb 2021/22 yn mabwysiadu 'dull digidol', o ganlyniad i sefyllfa pandemig Covid-19 a'i heriau. Bydd hyn wrth barhau i ystyried y grwpiau sy'n anodd eu cyrraedd, y rheiny sydd heb fynediad i'r Rhyngrwyd neu sydd heb gysylltiad digonol, a'r rheiny y mae'n well ganddynt ymgysylltu gan ddefnyddio dulliau traddodiadol.

Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod y dull yma wedi'i ddefnyddio yn yr ymgynghoriad diweddar mewn perthynas â'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus mewn perthynas â Baw C?n. Profwyd ei fod yn ffordd effeithiol o ymgysylltu ag ystod eang o drigolion a rhanddeiliaid.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd y byddai'n gweld eisiau'r rhyngweithio wyneb yn wyneb â'r cyhoedd ond roedd yn ddiolchgar bod y Cyngor wedi addasu i'r hinsawdd bresennol a'r dull rhithwir newydd. Pwysleisiodd y Dirprwy Arweinydd yr angen i estyn llaw i'r rheiny sydd heb ddarpariaeth TG ac roedd yn falch o nodi bod dulliau wedi'u nodi yn y cynigion.

Pan ofynnwyd iddo am lefel yr ymgysylltu â cholegau, cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai fforwm rhithwir penodol yn cael ei sefydlu i ymgysylltu â'r oedolion ifanc hynny.

Lleisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant ei chefnogaeth ar gyfer y cynigion gan siarad am bwysigrwydd ymgysylltu â'r Fforwm Ieuenctid, a oedd wedi cyflwyno rhai awgrymiadau diddorol ac arloesol yn ystod trafodaethau blaenorol.

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am y Cylch Trafod Materion Anabledd a’i gyfraniad gwerthfawr yn ystod ymgynghoriadau blaenorol a phwysigrwydd sicrhau nad yw’r gwaith pwysig yma'n cael ei golli.

Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a'r Gymraeg yn falch o roi gwybod bod y Gr?p Cynghori Pobl H?n wedi cyfarfod gan ddefnyddio 'Zoom' ers dechrau'r cyfyngiadau symud ac yn fwy hyderus wrth ddefnyddio'r rhaglen.

Siaradodd yr Arweinydd am ba mor bwysig yw hi bod Aelodau Etholedig yn defnyddio'u cyfryngau cymdeithasol i rannu gwybodaeth â phreswylwyr a phwysigrwydd addasu dulliau ymgynghori gyda grwpiau cymunedol i wella gwaith ymgysylltu.

(Nodwch: Gyda chytundeb y Cadeirydd, siaradodd y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol P. Jarman am yr eitem yma)

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Cefnogi'r dull 'digidol' a awgrymir ar gyfer ymgynghori ar gyllideb y Cyngor ar gyfer 2021/22, gan ddarparu dulliau amgen o ymgysylltu â'r rheiny sydd â llai neu sydd heb fynediad i'r Rhyngrwyd a'r rhai y mae'n well ganddynt ymgysylltu gan ddefnyddio dulliau traddodiadol;

2.    Cefnogi gofynion statudol y Cyngor parthed ymgynghori ar y Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor, a chaiff lefelau Treth y Cyngor eu bodloni trwy'r dull arfaethedig;

3.    Cefnogi'r broses ymgynghori ar y gyllideb sy'n digwydd yn ystod hydref 2020, gyda'r dyddiadau i'w cadarnhau yn dilyn eglurhad o amserlenni setliad cyllideb tebygol Llywodraeth Cymru;

4.    Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu i gynllunio'r llinell amser ymgysylltu angenrheidiol unwaith y bydd manylion y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro yn hysbys, a hynny drwy ymgynghori â'r Aelod Cabinet priodol a'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 06/11/2020

Dyddiad y penderfyniad: 13/10/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/10/2020 - Cabinet

Dogfennau Cysylltiedig: