Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned, sy'n amlinellu'r rheoliadau cyfreithiol cyfredol o ran gwerthu a defnyddio tân gwyllt, a thrafod sut y mae modd i'r Awdurdod Lleol gefnogi'r Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd i'r Cyngor ar 27 Tachwedd 2019, yn ogystal ag ymgyrch yr RSPCA sy'n galw am ragor o fesurau rheoli.
Mae adran 5 o'r adroddiad yn nodi gwybodaeth fanwl am y rheoliadau sy'n ymwneud â gwerthu a storio tân gwyllt; y safonau sydd ar waith mewn perthynas â s?n a diogelwch tân gwyllt; a mesurau rheoli mewn perthynas â gwerthu tân gwyllt i bobl dan oed. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod bod unrhyw achlysuron wedi'u trefnu yn y Fwrdeistref yn cael eu trafod gan Gr?p Cynghori ar Ddiogelwch Achlysuron y Cyngor, sy'n sicrhau bod pob achlysur yn cydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol ac yn cael eu cynnal mewn modd diogel.
Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad, gan nodi bod yr argymhellion yn synhwyrol ac yn ceisio ehangu'r ddarpariaeth sydd eisoes ar waith. Siaradodd y Dirprwy Arweinydd am effaith tân gwyllt ar anifeiliaid anwes, yn ogystal ag anifeiliaid yn y caeau. Roedd y Dirprwy Arweinydd hefyd wedi cydnabod bod nifer o bobl yn cael eu heffeithio gan y tân gwyllt a siaradodd am effaith 5 Tachwedd ar y cyn-filwyr hynny sy'n dioddef ag Anhwylder Straen wedi Trawma (PTSD). Esboniwyd bod yr Awdurdod Lleol wedi cynnal achlysur llwyddiannus yn Theatr y Parc a'r Dâr ar gyfer cyn-filwyr y llynedd.
Nododd Aelodau'r Cabinet y byddai'r adroddiad yn cael ei drafod yn ystod cyfarfod y Cyngor ar 21 Hydref 2020.
PENDERFYNODD y Cabinet:
1. Nodi'r mesurau rheoli cyfredol sydd ar gael yn rhan o Gyfraith y DU o ran rheoli gwerthu tân gwyllt a sut maen nhw'n cael eu defnyddio mewn mannau cyhoeddus;
2. Bod y Cyfarwyddwr Eiddo Corfforaethol yn adolygu ac yn gosod rhagor o gyfyngiadau ar ddefnyddio tir y Cyngor at ddibenion arddangosfeydd tân gwyllt cyhoeddus lle bo angen; a
3. Chefnogi ymgyrch hyrwyddo ar gyfer 2021 (os yw cyfyngiadau coronafeirws yn caniatáu hynny) sy'n annog defnydd cyfrifol o dân gwyllt a rhoi gwybod i'r cyhoedd yn gynnar am achlysuron a gynlluniwyd yn y gymuned.
Dyddiad cyhoeddi: 06/11/2020
Dyddiad y penderfyniad: 13/10/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/10/2020 - Cabinet
Dogfennau Cysylltiedig: