Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Materion Ffyniant a Datblygu'r adroddiad, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i newid ffocws grantiau busnes y Cyngor sy'n cael eu darparu gan y Gwasanaeth Adfywio, a sefydlu tri chynllun pellach, Grant Adfer Canol Trefi Covid-19, Cronfa Buddsoddi mewn Prosiectau Mawr a'r Grant Gwrthsefyll Llifogydd. Esboniodd y Cyfarwyddwr y byddai'r cynlluniau grant yn galluogi'r Cyngor i ddarparu portffolio o fuddsoddi ariannol i gefnogi busnesau wrth ymateb i'r heriau economaidd, gan eu helpu i ddatblygu cydnerthedd, cefnogi twf economaidd ac arallgyfeirio gyda'r bwriad o ysgogi buddsoddiad gan y sector preifat.
Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai o blaid y cynigion a manteisiodd ar y cyfle i ddiolch i'r swyddogion am weithio trwy gydol y cyfnod heriol yma i sefydlu'r cynlluniau er mwyn cefnogi'r busnesau. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ei fod yn hanfodol bod busnesau yn cael eu cefnogi yn dilyn effaith Covid-19 a Storm Dennis. Roedd o'r farn y byddai monitro effeithlonrwydd y cynlluniau wrth symud ymlaen yn allweddol.
Adleisiodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau'r Aelod o'r Cabinet a siaradodd am bwysigrwydd cefnogi canol trefi, ynghyd â hyrwyddo mesurau cadw pellter cymdeithasol.
Siaradodd yr Arweinydd am y Grant Gwrthsefyll Llifogydd, gan nodi pwysigrwydd y grant i fusnesau ac yn enwedig y rheiny sydd efallai heb hawl i yswiriant.
PENDERFYNODD y Cabinet:
1. Newid ffocws pwrpas y Gronfa Buddsoddi Busnesau a'r Grant Cynnal Canol y Dref er mwyn cynnwys camau gweithredu, fel sydd wedi'u nodi ym mharagraff 5.1.3 a 5.2.3 yr adroddiad, er mwyn cefnogi gwaith adfer busnesau yn dilyn COVID-19;
2. Sefydlu Grant Adfer Canol Trefi COVID-19 RhCT newydd i gyflawni Grant Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru gwerth £350,000;
3. Sefydlu Cronfa Buddsoddi mewn Prosiectau Mawr i ddarparu buddsoddiad ar gyfer prosiectau wedi'i dargedu ac wedi'i arwain gan sefydliadau allanol, fydd yn sicrhau manteision economaidd sylweddol; a
4. Sefydlu Grant Gwrthsefyll Llifogydd i ddarparu cymorth wedi'i dargedu i fusnesau Canol Tref sydd wedi cael eu heffeithio'n sylweddol gan y llifogydd mawr yn dilyn Storm Dennis.
Dyddiad cyhoeddi: 06/10/2020
Dyddiad y penderfyniad: 24/09/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/09/2020 - Cabinet
Effective from: 01/10/2020
Dogfennau Cysylltiedig: