Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Cyfadran y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant ddiweddariad i'r Cabinet yngl?n â'r camau a gymerwyd gan y Cyngor o ganlyniad i argyfwng cenedlaethol COVID 19.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran y byddai'r Cyngor yn parhau i asesu risgiau er mwyn gwneud cynnydd araf a ddiogel, yn unol â rheoliadau Llywodraeth Cymru. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Cyfadran at Adran 5 yr adroddiad, lle mae rhestr o'r meysydd gwasanaeth arfaethedig y mae disgwyl iddyn nhw agor yn ystod y 6-8 wythnos nesaf.

 

Yna cyfeiriwyd yr Aelodau at Atodiad A yr adroddiad, a oedd yn cynnwys cynlluniau adfer gwasanaeth manwl ar gyfer pob un o Wasanaethau'r Cyngor. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod yr wybodaeth yn cael ei datblygu ymhellach er mwyn helpu i lunio cynlluniau gweithredu blaenoriaeth y Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2020/21 yn ogystal â sicrhau bod y Cyngor yn bodloni'r gofynion adrodd statudol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.

 

Manteisiodd y Cyfarwyddwr Cyfadran ar y cyfle i ddiolch i'r Cabinet am y gefnogaeth a roddwyd i'r sector Gofal Cymdeithasol yn ystod y pandemig.

 

Yn gyntaf, manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i holl staff y Cyngor, yn enwedig y rhai ar y rheng flaen, am eu gwaith trwy gydol y pandemig.

 

Nododd yr Arweinydd fod y mwyafrif helaeth o wasanaethau'r Cyngor wedi parhau i weithio trwy gydol y pandemig, ond eu bod wedi gwneud hynny mewn ffordd wahanol, megis hybiau gofal plant brys a grantiau busnes. Gan edrych i'r dyfodol, nododd yr Arweinydd y gallai llawer o wasanaethau'r Cyngor edrych yn wahanol, p'un a yw hynny dros dro oherwydd y firws, neu oherwydd bod y cyfnod wedi dangos bod modd i wasanaethau weithio'n wahanol.

 

Adleisiodd y Dirprwy Arweinydd sylwadau’r Arweinydd a diolchodd i staff y Cyngor am eu cyfraniad ar adeg mor ofnadwy. Gwnaeth y Dirprwy Arweinydd sylwadau yngl?n â'r angen i barhau i ddarparu cyngor i'r gymuned, yn enwedig ar faterion fel ymgasglu yn grwpiau bach. Soniodd y Dirprwy Arweinydd am y cynnig i gynyddu nifer y galarwyr mewn angladdau ac amlosgiadau, gan nodi y byddai'n hanfodol i deuluoedd. Wrth sôn am y gefnogaeth gymunedol sylweddol a ddangoswyd ar yr adegau anodd yma, ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd y byddai angen adeiladu arno wrth edrych i'r dyfodol.

 

Estynnodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant ei chanmoliaeth i bob adran yn ystod y pandemig a diolchodd i'r garfan addysg am y gwaith enfawr a wnaed i ddarparu arweiniad i ysgolion.

 

Estynnodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant ei diolch i'r swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol ac roedd yn falch o nodi y byddai'r gwasanaeth seibiant yn ailddechrau, gan nodi ei fod yn hanfodol o ran cadw teuluoedd gyda'i gilydd a chadw plant allan o wasanaethau statudol.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Trafod y Cynlluniau Adfer Gwasanaethau cryno a chymeradwyo'r ffordd arfaethedig ymlaen;

2.    Trafod y rhestr o wasanaethau mae'r Cyngor yn bwriadu eu hailagor, yn llawn neu'n rhannol, dros y 6 - 8 wythnos nesaf a chymeradwyo'r gwaith o godi'r cyfyngiadau; a

3.    Bod adroddiad pellach ar godi cyfyngiadau pellach yn cael ei gyflwyno i'r cyfarfod Cabinet canlynol.

 

Dyddiad cyhoeddi: 19/08/2020

Dyddiad y penderfyniad: 28/07/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/07/2020 - Cabinet

Effective from: 05/08/2020

Dogfennau Cysylltiedig: