Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cyllid a Gwella, drosolwg o gyflawniad y Cyngor o ran materion ariannol a gweithredol ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020.
Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod sefyllfa'r Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn yn adlewyrchu'r pwysau sylweddol sydd ar y Cyngor o ganlyniad i Storm Dennis a Covid-19. Clywodd yr Aelodau fod cyflawniad cyllideb y refeniw yn orwariant o £289,000 yn erbyn cyllideb net o £483 miliwn, sy'n well na'r chwarter blaenorol.
O ran y Gyllideb Gyfalaf, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod buddsoddiadau cyfalaf sylweddol o £121 miliwn wedi'u gwneud yn ystod y flwyddyn.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod cynnydd cadarnhaol wedi'i wneud yn erbyn Blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor a Blaenoriaethau'r Cyngor o ran Buddsoddiadau; a bod 78% o'r mesurau a nodwyd yng nghanlyniadau Dangosydd y Cynllun Corfforaethol wedi bwrw'r targed.
Diolchodd yr Arweinydd i'r swyddog am yr adroddiad, gan nodi bod y gorwariant ar gyfer y flwyddyn yn ymylol o'i gymharu â nifer o Awdurdodau Lleol eraill, yn enwedig o gofio'r pwysau a wynebwyd. Gan gyfeirio at y costau sydd ynghlwm â Storm Dennis a amlinellir ar dudalen 199 yr adroddiad, dywedodd yr Arweinydd fod y gost ynghlwm â'r cymorth brys, a bod disgwyl i'r effaith hirdymor ar y Cyngor fod oddeutu £70 miliwn.
Aeth y Dirprwy Arweinydd ati i gydnabod y byddai pwysau sylweddol wrth edrych i'r dyfodol, a hynny o ganlyniad i Covid-19, Storm Dennis a'r llifogydd dilynol. Nododd y dylid ystyried cyflawniad ar sbectrwm ehangach o gofio'r digwyddiadau yma, nas gwelwyd eu math o'r blaen.
Ategodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol y sylwadau blaenorol mewn perthynas â'r pwysau parhaus y mae'r Cyngor yn ei wynebu, a nododd fod y gorwariant ar ddiwedd y flwyddyn yn fach o ystyried y sefyllfa sydd ohoni. Aeth yr Aelod o'r Cabinet ymlaen i gyfeirio at y prosiectau llwyddiannus sydd wedi'u hamlinellu yn y Rhaglen Gyfalaf, er enghraifft Llys Cadwyn a'r datblygiadau yng nghanol y trefi ac ar y priffyrddd.
PENDERFYNODD y Cabinet:
1. Nodi cyd-destun digynsail adroddiad diwedd blwyddyn 2019/20 mewn perthynas â Storm Dennis a dyfodiad pandemig COVID-19.
Refeniw
2. Nodi a chytuno ar sefyllfa refeniw Cronfa Gyffredinol y Cyngor ar 31 Mawrth 2020 (Adran 2 o'r Crynodeb Gweithredol) a nodi y caiff dyraniad cyllid unwaith ac am byth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ei ymgorffori er mwyn cefnogi mesurau gofal ar gyfer y gaeaf a gofal brys newydd ym mhob rhan o'r system iechyd a gofal cymdeithasol.
3. Nodi effaith ariannol Storm Dennis, sydd wedi'i ymgorffori yn y sefyllfa diwedd blwyddyn 2019/20.
Cyfalaf
4. Nodi sefyllfa alldro cyfalaf y Cyngor fel y mae ar 31 Mawrth 2020 (Adrannau 3a-e o'r Crynodeb Gweithredol).
5. Nodi manylion y Dangosyddion Materion Darbodusrwydd Cylch Rheoli’r Trysorlys fel y mae ar 31 Mawrth 2020 (Adran 3f o'r Crynodeb Gweithredol).
Blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol
6. Nodi'r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ynghylch y cynnydd mewn perthynas â'r Cynllun Corfforaethol cytûn (Adrannau 5a–d o'r Crynodeb Gweithredol), Mesurau Cenedlaethol Eraill (Adran 5e o'r Crynodeb Gweithredol) a chymharu targedau 2019/20 â'r flwyddyn flaenorol a gwybodaeth am gyfartaledd cyflawniad Cymru gyfan (Adran 5f o'r Crynodeb Gweithredol).
Dyddiad cyhoeddi: 19/08/2020
Dyddiad y penderfyniad: 28/07/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/07/2020 - Cabinet
Effective from: 05/08/2020
Dogfennau Cysylltiedig: