Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Darparodd Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor y newyddion diweddaraf â'r Cabinet mewn perthynas â'r camau gweithredu sydd wedi'u cymryd i sicrhau bod modd agor adeiladau'r Cyngor, gan gynnwys ysgolion i Aelodau, staff, disgyblion a'r cyhoedd mewn modd diogel gan gynnal pellter cymdeithasol diogel a mesurau diogelwch addas eraill yn ystod pandemig cyfredol COVID 19.
Clywodd Aelodau'r Cabinet fod canllawiau cynhwysfawr a phosteri wedi'u llunio er mwyn cefnogi'r gwaith o ailagor ysgolion ac adeiladau cyhoeddus yn unol â'r rheoliadau, a bod staff wedi derbyn copïau mewn e-bost. Mae'r canllawiau a'r posteri yma hefyd ar gael ar wefan RCT Source.
Nododd y Cyfarwyddwr fod holl adeiladau'r Cyngor wedi bod yn destun arolwg er mwyn nodi'r nifer uchaf o bobl y mae modd iddyn nhw eu dal, ac mae pecynnau Covid-19 priodol, sy'n cynnwys arwyddion, tâp diogelwch, biniau, diheintydd a sgriniau diogelwch. Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i egluro bod offer gwirio tymheredd hefyd yn cael ei ddefnyddio yn rhai o adeiladau'r Cyngor, ac ysgolion, ar gyfnod prawf. Os yw'r cyfnod praw yma'n llwyddiannus, yna bydd hyn yn fesur ychwanegol a gaiff ei ddefnyddio i atal ymlediad y feirws.
Daeth y Cyfarwyddwr â'r sgwrs i ben drwy nodi bod RhCT mewn sefyllfa dda i ailagor ei adeiladau wrth i'r cyfyngiadau lacio. Serch hynny, nododd ei bod hi'n anochel y byddai angen i ysgolion a gwasanaethau unigol addasu'u canllawiau er mwyn diwallu'u hanghenion penodol nhw, yn dibynnu ar yr adeilad dan sylw.
Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol yn awyddus i ddiolch i'r garfan Eiddo Corfforaethol a'r athrawon am eu gwaith sylweddol wrth ymgyfarwyddo â'r drefn newydd yma. Ychwanegodd yr Aelod o'r Cabinet y byddai angen adolygu'r cynnydd o ran gweithio hyblyg a'i gynnwys yn rhan amlwg o gynlluniau'r Cyngor ar gyfer y dyfodol.
PENDERFYNODDy Cabinet:
1. Trafod yr wybodaeth a ddarparwyd a nodi'r camau a gymerwyd hyd yma o ran ymateb i bandemig COVID-19;
2. Y byddai'r Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor yn monitro'r sefyllfa'n rheolaidd er mwyn sicrhau bod yr ysgolion y gwasanaethau a'r swyddfeydd sy'n ailagor yn ddiogel ar gyfer staff, disgyblion a'r cyhoedd, a chyflwyno unrhyw fesurau ychwanegol/mesurau gorfodi ar y cyd â'r Aelodau perthnasol o'r Cabinet er mwyn atal ymlediad y Coronafeirws.
Dyddiad cyhoeddi: 25/06/2020
Dyddiad y penderfyniad: 25/06/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/06/2020 - Cabinet
Effective from: 03/07/2020
Dogfennau Cysylltiedig: