Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Darparodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant wybodaeth i'r Aelodau am ganlyniadau'r ymgynghoriad diweddar yngl?n â'r cynnig i aildrefnu darpariaeth Dosbarthiadau Cymorth Dysgu (DCD) prif ffrwd yn Rhondda Cynon Taf (RhCT). Eglurwyd fod argyfwng Covid-19 wedi cael effaith andwyol ar allu'r Cyngor i gynnal ymgynghoriad ar y mater dan sylw, ac felly, cafodd dull gweithredu mwy hyblyg ei gynnig. Cynigiodd y Cyfarwyddwr y dylid arallgyfeirio'r cyllid er mwyn sefydlu darpariaeth amgen mewn pedair ysgol wahanol, a hynny er mwyn diwallu anghenion y disgyblion sydd fwyaf agored i niwed o'r gymuned leol.
Roedd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant yn falch o gefnogi'r cynnig o ystyried y sefyllfa sydd ohoni, a nododd y byddai'n cefnogi dysgwyr agored i niwed mewn ysgolion prif ffrwd. Roedd yr Aelod o'r Cabinet hefyd yn falch o nodi y byddai'r cynnig yn sicrhau bod darpariaeth ym mhob ardal yn RhCT tra hefyd yn rhoi cyfle i bob ysgol wneud cais. Aeth yr Aelod o'r Cabinet ymlaen i nodi yr hoffai hi weld ysgolion yn cyflwyno ceisiadau ar y cyd, a fyddai'n golygu bod modd ymestyn y cyllid yma, sydd er budd disgyblion agored i niwed, ymhellach.
Yn dilyn cwestiwn yngl?n â pha gymorth a gaiff ysgolion wrth wneud cais, eglurodd y Cyfarwyddwr fod proses drylwyr ar waith eisoes, a bydd hon yn destun gwaith pellach. Eglurwyd y byddai angen i ysgolion gyflwyno achos busnes manwl, gydag elfen o gyllid cyfatebol, ac y byddai hwn yn cael ei adolygu er mwyn sicrhau ei fod e'n bodloni'r meini prawf.
PENDERFYNODD y Cabinet:
1. Nodi'r wybodaeth oedd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad;
2. Anwybyddu'r broses ymgynghori wreiddiol o ganlyniad i gyfyngiadau Covid-19 a'r effaith ar ddarpariaeth addysgol statudol ar gyfer y dyfodol rhagweladwy;
3. Bwrw ymlaen â chynllun i ddarparu cyllid am ddwy flynedd i dair ysgol uwchradd Saesneg er mwyn sefydlu darpariaeth i ddysgwyr sydd ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol yn Ysgol Bryncelynnog, Ysgol Gymuned Glynrhedynog ac Ysgol Aberpennar;
4. Bwrw ymlaen â chynnig diwygiedig i ddarparu cyllid am ddwy flynedd er mwyn sefydlu darpariaeth uwchradd Cymraeg ar gyfer dysgwyr sydd ag anghenion cymhleth, gan gynnwys Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol yn Ysgol Gartholwg.
Dyddiad cyhoeddi: 25/06/2020
Dyddiad y penderfyniad: 25/06/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/06/2020 - Cabinet
Effective from: 03/07/2020
Dogfennau Cysylltiedig: