Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Rhoddodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor drosolwg o'i adroddiad i'r Aelodau a oedd yn cynnwys gwybodaeth eithriedig.
Ar ôl trafod yr adroddiad, PENDERFYNWYD:
1. Caffael budd rhydd-ddaliadol adeilad yr hen Neuadd Bingo a Chlwb Nos Angharad's ar Stryd Fawr, Pontypridd, ar bris cytunedig ynghyd â TAW, ffïoedd a Threth Trafodiadau Tir;
2. Nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig £1.540 miliwn o gyllid Buddsoddi Adfywio wedi'i Dargedu (TRI) tuag at gyfanswm y costau. Mae telerau ac amodau manwl y cyllid hwn yn cael eu cadarnhau ar hyn o bryd gyda Llywodraeth Cymru;
3. Derbyn y cynnig o £1.540 miliwn o gyllid Buddsoddi Adfywio wedi'i Dargedu gan Llywodraeth Cymru tuag at gaffael, ffioedd cysylltiedig a chostau dymchwel adeilad yr hen Neuadd Bingo a Chlwb Nos Angharad's ar Stryd Fawr, Pontypridd.
4. Derbyn adroddiad ar y cyd pellach gan Gyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor a'r Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu ar ddymchwel ac ailddatblygu'r safle.
Dyddiad cyhoeddi: 20/02/2020
Dyddiad y penderfyniad: 20/02/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/02/2020 - Cabinet
Dogfennau Cysylltiedig: