Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol y Rhaglen Gyfalaf tair blynedd arfaethedig ar gyfer 2020/21 i 2022/23 i'r Cabinet.
Dywedodd y Cyfarwyddwr bod y rhaglen tair blynedd arfaethedig yn cynrychioli buddsoddiad o £131.772 miliwn ar y cyfan ac mae'n cynnwys:
· Rhaglen graidd o £42.300 miliwn dros y tair blynedd nesaf;
· Benthyca darbodus ar gyfer swm o £20.249 miliwn i gefnogi Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, Datblygiad Llys Cadwyn a gwelliannau i'r priffyrdd;
· £16.819 miliwn o grantiau penodol;
· £29.223 miliwn o gronfeydd wrth gefn a chyfraniadau cyllid wedi'u clustnodi a oedd wedi'u dyrannu i gynlluniau a blaenoriaethau buddsoddi;
· Derbyniadau cyfalaf, yn ychwanegol at y dyraniad craidd tair blynedd, o £10.283 miliwn; a
· Cronfeydd wrth gefn ychwanegol wedi'u clustnodi gwerth £1.658 miliwn a benthyca darbodus ychwanegol gwerth £7.500 miliwn i ariannu blaenoriaethau buddsoddi, ynghyd â cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru gwerth £2.692 miliwn.
O ran y cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi gwerth £1.658 miliwn, sy'n creu cyfanswm o £11.850 miliwn ynghyd â'r benthyca darbodus, soniodd y Cyfarwyddwr am y cyfleoedd buddsoddi amrywiol ar gyfer isadeiledd, a fyddai'n cefnogi blaenoriaethau newydd y Cynllun Corfforaethol.
Siaradodd yr aelodau'n gadarnhaol am yr adroddiad, gan wneud sylwadau ar fuddsoddiadau blaenorol RhCT a'r uchelgais ar gyfer buddsoddi pellach.
PENDERFYNODDy Cabinet:
1. Cynnig y rhaglen gyfalaf tair blynedd sy'n cael ei chynnwys yn Atodiad A o'r adroddiad i'r Cyngor ar 4 Mawrth 2020 sy'n cynnwys:
· Adolygiad a rhyddhau arfaethedig o gronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi fel sy'n cael eu manylu ym mharagraff 5.3 o'r adroddiad sydd ynghlwm;
· Blaenoriaethau buddsoddi arfaethedig fel ym mharagraff 6.2 yr adroddiad atodedig;
· Rhaglen gyfalaf graidd y Cyngor ;
· Cyfanswm rhaglen gyfalaf y Cyngor, gan gynnwys cyllid ychwanegol sydd ddim yn gyllid craidd.
2. Awdurdodi Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyllid a Digidol i ddiwygio lefel adnoddau'r Cyngor sydd ei hangen i ariannu'r Rhaglen Gyfalaf Graidd Tair Blynedd yn Atodiad 2, o ganlyniad i unrhyw newid yn lefelau adnoddau cyfalaf y Cyngor a gaiff ei ddatgan yn y Setliad Llywodraeth Leol terfynol
Dyddiad cyhoeddi: 20/02/2020
Dyddiad y penderfyniad: 20/02/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/02/2020 - Cabinet
Dogfennau Cysylltiedig: