Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ganfyddiadau ac argymhellion y Gweithgor Craffu, a sefydlwyd i ddelio ag 'Ailgylchu mewn Ardaloedd Cymunedol' yn dilyn a cyflwyniad gan Cyfarwyddwr Cyfadran – Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen yn y cyfarfod ar 27 Medi 2018.
Soniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth am yr adolygiad 9 mis a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Cyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant a'r ymgysylltiad helaeth â nifer o randdeiliaid. Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ymlaen i siarad am yr ymchwil a arweiniodd at gyflwyno'r Diwrnod Ymgysylltu â'r Gymuned a gynhaliwyd yn Rhydfelen, mewn partneriaeth â'r Landlordiaid Tai Cymdeithasol a charfan Gwasanaethau Gofal Stryd y Cyngor ar ôl i'r ardal gael ei nodi'n ardal sydd â chyfradd ailgylchu gwael a lefelau uchel o wastraff bagiau du.
Manteisiodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth ar y cyfle i ddiolch i’r Pwyllgor Craffu, y swyddogion a’r Landlordiaid Cymdeithasol am y darn cadarn a chynhwysfawr o waith, a ddylai wella’r sefyllfa ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Anogwyd yr Aelod o'r Cabinet gan lwyddiant y Diwrnod Ymgysylltu â'r Gymuned yn Rhydfelen a'r ymgysylltiad â'r Landlordiaid Tai Cymdeithasol.
Roedd yr Arweinydd yn falch o gyhoeddi mai'r cofnod ailgylchu ar gyfer y chwarter cyfredol yw 67.18, sy'n torri tir newydd.
Roedd yr Aelodau'n falch o argymhellion y Pwyllgor Craffu ond roedden nhw'n yn teimlo y byddai angen bwrw ymlaen â thrafodaethau pellach mewn perthynas ag argymhelliad xvi.
PENDERFYNODD y Cabinet:
1. Nodi gwaith y Gweithgor Craffu;
2. Cytuno ar argymhellion i - xv a nodwyd yn yr adroddiad (ac a restrir isod) yn amodol ar ystyriaeth bellach gan ddeiliad Portffolio’r Cabinet, gydag ymateb manwl i’w ddarparu i’r Pwyllgor Craffu - Cynnal Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant;
3. Bod trafodaethau pellach yn cael eu dwyn ymlaen gyda'r Cyfarwyddwr Cyfadran - Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu - Cynnal Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymunedau a Ffyniant mewn perthynas ag argymhelliad xvi fel y mae wedi'i nodi yn yr adroddiad, gydag ymateb i'w ddarparu i'r Pwyllgor yn dilyn trafodaethau o'r fath.
i. Parhau i symud ymlaen gyda'r thema 'Achub Ailgylchu Rhyd' yn ardal Rhydfelen, lle mae preswylwyr yn cael eu hannog i fod eisiau cymryd perchnogaeth a newid eu harferion ailgylchu;
ii. Cyfarwyddo adran gyfreithiol y Cyngor i nodi addasrwydd rhannu data a/neu lunio Gytundebau Lefel Gwasanaeth ac i weithredu ar hynny fel sy'n briodol; ystyried llunio cytundeb ffurfiol rhwng swyddogion RhCT a Landlordiaid Tai Cymdeithasol i gwrdd yn ffurfiol yn rheolaidd;
iii. Bod y Gwasanaethau Gwastraff yn parhau i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau ar geisiadau cynllunio mawr, fel y bo'n briodol, a chaiff ymgynghoriadau â'r gwasanaeth eu cynnal cyn i unrhyw breswylwyr newydd symud i mewn i'r eiddo dan sylw;
iv. Ymchwilio ac adolygu unrhyw ddewisiadau amgen i gasglu eitemau swmpus er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon am dipio anghyfreithlon yn Rhydfelen;
v. Gwneud gwaith ymchwilio ac adolygu i weld a yw cyfranogiad ailgylchu yn gwella trwy ddosbarthu bagiau ailgylchu i bob preswylydd yn ardal y prawf, er enghraifft, dyraniad cytunedig o fagiau bob chwarter;
vi. Rhoi offer i landlordiaid cymdeithasol ar gyfer sesiynau croesawu, er enghraifft, biniau bwyd, bagiau ailgylchu a thaflenni, yn ôl yr angen;
vii. Adolygu'r lleoliadau ar gyfer y mannau casglu biniau cyfredol yn Rhydfelen a dosbarthu llythyrau i breswylwyr i'w hatgoffa o leoliad eu man casglu biniau, a beth fydd yn digwydd os fyddan nhw'n cael gwared ar eu sbwriel mewn mannau eraill, yn ogystal ag ystyried profion tebyg mewn ardaloedd eraill;
viii. Adolygu arwyddion a dyluniad mannau casglu biniau a math/maint y biniau sydd eu hangen;
ix. Defnyddio technoleg yn y cerbyd i nodi arferion a thueddiadau ailgylchu, megis 'WEBASPX' i nodi eiddo lle mae angen camau ymwybyddiaeth/gorfodaeth bellach;
x. Ystyried casgliadau â chymorth i breswylwyr sydd â phroblemau symudedd;
xi. Ystyried datblygu trefniant ffurfiol rhwng pob ysgol ledled y Fwrdeistref Sirol a Gwasanaethau Gwastraff i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd ailgylchu'n effeithlon a chael gwared ar wastraff yn briodol;
xii. Datblygu cynllun peilot priodol yn Rhydfelen, fel bagiau sbwriel lliw neu'r cynllun llythyrau 'Coch/Ambr/Gwyrdd' a defnyddio 'WEBASPX' i nodi eiddo/ardaloedd sy'n peri pryder; bydd cynllun prosiect yn cael ei ddatblygu i amlinellu'r amserlenni ar gyfer adnabod yr ardaloedd prawf, llinell amser cyfathrebu, dyddiad 'mynd yn fyw', a gwaith ymgynghori a monitro dilynol;
xiii. Ystyried symud ymlaen gyda'r 'prawf Bin Hacni' yn Rhydfelen ac, os bydd ansawdd ailgylchu yn gwella, ystyried ei gyflwyno i ardaloedd eraill ledled y Fwrdeistref Sirol;
xiv. Ymchwilio ymhellach i'r syniad o ddefnyddio teledu cylch cyfyng mewn mannau casglu biniau cymunedol fel dull o atal pobl rhag cael gwared ar ailgylchu halogedig, bagiau du gormodol ac eitemau swmpus;
xv. Hyrwyddo a chyhoeddi erlyniadau llwyddiannus mewn perthynas â'r preswylwyr hynny sy'n gwrthod ailgylchu yn barhaus trwy ddulliau priodol i atal preswylwyr eraill rhag gwneud yr un peth.
Dyddiad cyhoeddi: 17/10/2019
Dyddiad y penderfyniad: 17/10/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/10/2019 - Cabinet
Effective from: 24/10/2019
Dogfennau Cysylltiedig: