Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu ganfyddiadau ac argymhellion y Gweithgor Craffu ar y Gofrestr Bwyd, a sefydlwyd i ddelio â 'Chofrestr Bwyd yn RhCT' yn dilyn yr Hysbysiad o Gynnig a ystyriwyd gan y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 24 Hydref 2018.
Manteisiodd y Dirprwy Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid a Pherfformiad am y darn cynhwysfawr o waith a PHENDERFYNWYD:
1. Nodi gwaith y Gweithgor Craffu;
2. Cytuno ar 5 egwyddor y Gweithgor yn amodol ar ystyriaeth bellach gan ddeiliaid Portffolio'r Cabinet ar gyfer y maes. Rhoddir ymateb manwl i'r Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad ar ôl hynny:
i. Bod cyfeirlyfr pwrpasol o gynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd ar gael ar-lein i'w ddefnyddio gan fusnesau a defnyddwyr i nodi cynhyrchwyr bwyd lleol a dod o hyd i gynhyrchion bwyd o fewn RhCT;
ii. Bod adnoddau ychwanegol yn cael eu darparu o fewn y Gwasanaeth Adfywio mewn perthynas ag ymgysylltu â busnesau i sicrhau y byddai'r cyfeirlyfr yn diwallu ac yn gwella anghenion busnes, yn ogystal â chynnal y cyfeiriadur yn barhaus;
iii. Bod Carfan Ddatblygu'r Wefan yn nodi tudalen lanio addas ar gyfer y cyfeiriadur a gwybodaeth gysylltiedig ac yn datblygu model priodol;
iv. Bod ymgyrch farchnata a chyhoeddusrwydd benodol yn cael ei chyflwyno i gefnogi'r cyfeirlyfr er mwyn annog cyfranogiad; ac,
v. Bod rheolaethau penodol yn cael eu hymgorffori yn y cyfeirlyfr er mwyn caniatáu cyfranogiad gan fusnesau sy'n cydymffurfio yn unig, megis busnesau sydd wedi cyrraedd o leiaf tri mewn perthynas â sgôr hylendid bwyd, fel y cyfeirir ato ym mharagraff 3.13 o'r adroddiad;
3. Bod adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o'r Cyngor.
Dyddiad cyhoeddi: 17/10/2019
Dyddiad y penderfyniad: 17/10/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/10/2019 - Cabinet
Effective from: 24/10/2019
Dogfennau Cysylltiedig: