Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned Ddatganiad o Bolisi Trwyddedu diwygiedig y Cyngor i'r Aelodau, yn ogystal â drafft o'r Datganiad o Bolisi (Alcohol, Adloniant a Lluniaeth Hwyr y Nos) 2020-2025 newydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'n rhaid i Bolisi newydd fod ar waith erbyn 7 Ionawr 2020 ond gellid ei ddiwygio ymhellach yn ystod y 5 mlynedd nesaf yn ôl yr amgylchiadau.

 

Adroddwyd manylion y newidiadau allweddol i'r Polisi Trwyddedu i'r Pwyllgor a thynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at y Datganiad Polisi Drafft ar gyfer 2020-2025, a atgynhyrchwyd yn Atodiad 1. Esboniwyd bod proses ymgynghori gyhoeddus wedi'i chynnal, gyda thri achlysur ymgysylltu wedi'u trefnu ym mhob un o'r bwrdeistrefi, Cwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf-elái. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Trwyddedu wedi'i gynnal ar 29 Gorffennaf 2019, lle cafodd y Pwyllgor gyfle i graffu ar y Polisi drafft, a bod eu barn wedi'i ymgorffori yn yr adroddiad gerbron yr Aelodau.

 

Pwysleisiodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol bwysigrwydd diogelu plant ac roedd yn falch o weld bod y bwriad o leihau'r risg y bydd plant yn dod i niwed trwy gyswllt ag alcohol wedi'i gynnwys yn amcanion allweddol y Polisi. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet hefyd am y Polisi gwella lleoedd cyhoeddus a chanol trefi.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.     Nodi argymhelliad y Pwyllgor Trwyddedu ar 10 Medi 2019 a chymeradwyo'r Datganiad o Bolisi Trwyddedu (Alcohol, Adloniant a Lluniaeth Hwyr y Nos) 2020-2025 drafft;

2.     Cymeradwyo'r Datganiad diwygiedig i'r Polisi Trwyddedu (Alcohol, Adloniant a Lluniaeth Hwyr y Nos) 2020-2025 i'r Cyngor i'w gymeradwyo, gyda'r bwriad o roi'r Datganiad newydd ar waith o 7 Ionawr 2020.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 17/10/2019

Dyddiad y penderfyniad: 17/10/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/10/2019 - Cabinet

Effective from: 24/10/2019

Dogfennau Cysylltiedig: