Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Na
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Rhoddodd y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu yr adroddiad i'r Aelodau, a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i gynnwys Adroddiad Monitro Blynyddol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol gan gynnwys estyniad amser i'r gwariant strategol cymeradwy ar Ysgol Gynradd Ffynnon Taf, a diwygio'r Rhestr Rheoliad 123.
Hefyd, dywedodd y Cyfarwyddwr wrth yr Aelodau am y gwaith cyn-graffu a wnaed gan y Pwyllgor Craffu - Cyllid a Chyflawniad mewn perthynas â'r Ardoll Seilwaith Cymunedol.
Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i'r Pwyllgor Craffu am ei waith, gan nodi pa mor bwysig yw hi fod Cynghorau Cymunedol yn llunio Rhestr 123.
Adleisiodd Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai y sylwadau a wnaed gan y Dirprwy Arweinydd, gan nodi bod y Rhestr 123 yn gyfnewidiol ac yn destun newid cyson.
Gofynnodd yr Arweinydd am eglurhad mewn perthynas â balans incwm strategol Ardoll Seilwaith Cymunedol, a ph'un a oedd y £395,000 y cytunwyd arno ar gyfer Ysgol Gynradd Ffynnon Taf wedi'i gynnwys yn y £637,568.77, y cadarnhaodd y swyddog iddo.
PENDERFYNODD y Cabinet:
1. Cymeradwyo'r Adroddiad Monitro Blynyddol ynghylch yr Ardoll Seilwaith Cymunedol
2. Cymeradwyo'r Rhestr Rheoliad 123 wedi'i diwygio ar gyfer ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor am gyfnod o 28 o ddiwrnodau ar gyfer ymgynghori, fel y nodwyd ym mharagraff 5.9 yr adroddiad;
3. Cymeradwyo mabwysiadu'r Rhestr Rheoliad 123 ddiwygiedig wedi hynny os na dderbynnir sylwadau niweidiol.
Dyddiad cyhoeddi: 17/10/2019
Dyddiad y penderfyniad: 17/10/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/10/2019 - Cabinet
Effective from: 24/10/2019
Dogfennau Cysylltiedig: