Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybod i'r Cabinet am fanylion cyhoeddi Adroddiad Blynyddol a Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i Gyngor Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2018-2019.

 

Yn ogystal â hyn, rhoddwyd trosolwg byr i'r Aelodau o'r pwerau newydd sydd wedi'u priodoli i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru trwy Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, a oedd yn cynnwys caniatáu i'r Ombwdsmon gynnal ei ymchwiliadau ei hun yn ôl yr angen er budd y cyhoedd.

 

Wrth fynd trwy'r adroddiad blynyddol, rhoddwyd Summary cyffredinol i'r Aelodau o'r cwynion a dderbyniwyd ac y gweithredwyd arnynt gan yr Ombwdsmon cyn i'r Cyfarwyddwr roi gwybod am y sefyllfa mewn perthynas â RhCT.  Dysgodd yr aelodau fod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi derbyn 36 o gwynion yn ystod 2018-2019 (2017/2018 - 36 a 2016/2017 - 47) yn ymwneud â RhCT. O ystyried y boblogaeth, disgwylid i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru dderbyn 68 cwyn ar gyfer awdurdod lleol maint Rhondda Cynon Taf. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr bod y ffigwr yma'n cymharu'n ffafriol. Ni ymchwiliodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i unrhyw gwynion o'i gymharu â chyfartaledd o 2 g?yn ar draws Cymru gyfan (wedi'i addasu yn ôl y boblogaeth).

 

Siaradodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor yn gadarnhaol am yr adroddiad a'i ganfyddiadau mewn perthynas â Chyngor Rhondda Cynon Taf a chyfeiriodd hefyd at y pwerau newydd sydd ar gael i Swyddfa'r Ombwdsmon mewn perthynas â Deddf 2019 a sut y byddai'r rhain yn cael eu defnyddio wrth symud ymlaen.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi Adroddiad Blynyddol a Llythyr Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer 2018-2019.

 

Dyddiad cyhoeddi: 11/09/2019

Dyddiad y penderfyniad: 11/09/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/09/2019 - Cabinet

Effective from: 18/09/2019

Dogfennau Cysylltiedig: