Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned wrth y Cabinet am ddyletswydd y Cyngor i gydymffurfio â'r gofyniad statudol i ddatblygu a chyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol, fel sy'n ofynnol yn ôl Rhan 8 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.

 

Cafodd yr Aelodau wybod bod strategaeth ddrafft wedi'i pharatoi a oedd yn cynnwys yr adborth yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn rhan o'r Asesiad o Angen a gynhaliwyd am bedair wythnos, gan ddechrau ym mis Hydref 2018. Mae'r strategaeth hefyd yn cynnwys adborth yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus statudol 12 wythnos ar y strategaeth ddrafft, a ddechreuodd ym mis Chwefror 2019.

 

Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Lles a Gwasanaethau Diwylliannol sylwadau ar yr ymgynghoriad manwl a gynhaliwyd mewn perthynas â'r eitem a siaradodd am fuddsoddiad mewn cyfleusterau cyhoeddus ar draws y Fwrdeistref Sirol gan yr Awdurdod.  Cafodd yr Aelodau wybod hefyd am y cyfleusterau sydd ar gael yn y Canolfannau Cymuned.  Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet hefyd at y cyfleusterau sydd ar gael drwy'r sector preifat a'r 3ydd sector.

 

Soniodd y Dirprwy Arweinydd, yn rhinwedd ei swydd yn Aelod o'r Cabinet ar faterion Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, am yr adborth gan drigolion wrth ymgymryd â'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol a'r pwyslais y mae preswylwyr yn ei roi ar ddarparu cyfleusterau cyhoeddus ar draws y Fwrdeistref Sirol a'i bwysigrwydd.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Cymeradwyo Strategaeth Toiledau Lleol 2019.

 

2.    Cymeradwyo cyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol 2019.

 

Dyddiad cyhoeddi: 10/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 18/06/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/06/2019 - Cabinet

Effective from: 25/06/2019

Dogfennau Cysylltiedig: