Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu wybod i'r Aelodau bod angen adolygu Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf a cheisiodd gymeradwyaeth i swyddogion fwrw ymlaen â'r gwaith o baratoi Adroddiad Adolygu a Chytundeb Darparu ffurfiol. Byddai'r rhain wedyn yn cael eu hargymell i'r Cyngor er mwyn eu cymeradwyo. 

 

Dywedodd fod y cynnig i ddatblygu'r cynllun wedi'i baratoi ochr yn ochr â'r cynigion ar gyfer y Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer y rhanbarth. Cafodd yr Aelodau wybod bod y CDLl yn dod i ben yn 2021, sy'n golygu y bydd cyfnod posibl heb unrhyw CDLl.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu a Thai y cynnig gan ddweud bod angen i'r CDLl a'r CDS ategu ei gilydd a soniodd y byddai angen i'r CDLl barhau am gyfnod fel mesur dros dro.  Soniodd am bwysigrwydd dwyn ynghyd yr holl strategaethau a'r canllawiau atodol fel un datganiad polisi llawn yn y dyfodol.

 

Soniodd y Dirprwy Arweinydd am bryderon yr Aelod Lleol dros Drefforest mewn perthynas â Thai Amlfeddiannaeth a dywedodd fod adolygiad a  datblygiad y CDLl a'r CDS yn gyfle i roi strategaethau mwy cadarn ar waith mewn perthynas â'r mathau hyn o eiddo.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad yngl?n â'r angen i adolygu Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) RhCT a chytuno i swyddogion ddechrau gweithio ar baratoi Adroddiad Adolygu CDLl ffurfiol a Chytundeb Darparu.

 

2.    Ar ôl ei gwblhau, bydd yr Adroddiad Adolygu a'r Cytundeb Darparu yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet i'w hystyried. Yn dilyn hyn, caiff yr adroddiad ei argymell i'r Cyngor yn nhymor yr hydref 2019.

 

Dyddiad cyhoeddi: 10/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 18/06/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/06/2019 - Cabinet

Effective from: 25/06/2019

Dogfennau Cysylltiedig: