Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Na

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniad:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygiad drosolwg i'r Aelodau o'i adroddiad, a gyflwynodd gynnig ar gyfer cynllun datblygu strategol ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Cafodd yr Aelodau wybod bod Llywodraeth Cymru wedi gwahodd pob Awdurdod Cynllunio Lleol i gyflwyno cynigion ar gyfer Cynlluniau Datblygu Strategol. Datganodd y byddai'r gallu i gynllunio'n strategol i gefnogi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod deilliannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol allweddol yn cael eu cyflawni mewn dull cydlynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ar draws y rhanbarth ehangach.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr fod Cytundeb y Fargen Ddinesig yn ymrwymo i baratoi Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer y rhanbarth ac i weithio ar y cyd ar faterion trafnidiaeth strategol a chynllunio strategol. Ychwanegodd fod Cynllun Datblygu Strategol statudol yn rhoi sicrwydd i ddatblygwyr, buddsoddwyr a chymunedau bod penderfyniadau strategol allweddol yn ymwneud â darpariaeth tai, trafnidiaeth, cyflogaeth ac isadeiledd yn cael eu gwneud ar lefel ranbarthol briodol, tra ei fod yn parhau i ganiatáu i benderfyniadau allweddol ar gynigion cynllunio gael eu cymryd yn lleol trwy ddyraniadau a pholisïau'r Cynllun Datblygu Lleol ac wedi hynny mewn penderfyniadau rheoli datblygu.

 

Cafodd y Cabinet wybod mai dim ond Awdurdod Cyfrifol dynodedig a allai gyflwyno cynnig i fwrw ymlaen â Chynllun Datblygu Strategol ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR), unwaith y bydd pob Cyngor wedi rhoi cymeradwyaeth yn ffurfiol. Cafodd yr Aelodau wybod y byddai Bro Morgannwg yn dod yn 'Awdurdod Cyfrifol' a rhoddodd y cyfarwyddwr fanylion a sicrwydd i'r Aelodau o ran y trefniadau llywodraethu yn y dyfodol gan y Panel Cynllunio Strategol a'r cynrychiolwyr, gan gynnwys hawliau pleidleisio.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu a Thai fod angen i'r Cynllun Datblygu Strategol gael ei roi ar waith a soniodd am fanteision cynllun o'r fath i RCT a rhanbarth y Fargen Ddinesig.  Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am bwysigrwydd llywodraethu a chadarnhaodd na fyddai gan y Panel bwerau cais cynllunio dros Awdurdod Lleol.

 

Siaradodd yr Arweinydd am waith caled swyddogion ac Aelodau ym mhob un o'r 10 rhanbarth a arweiniodd at y sefyllfa bresennol a'r gwaith y mae angen bwrw ymlaen ag ef, gan roi sylwadau ar sefyllfa Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu'r Cynllun Datblygu Strategol.

 

Ar ôl trafod, PENDERFYNWYD:

 

1.    Bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cymeradwyo cynnwys yr adroddiad ac yn cytuno y dylid awdurdodi'r Awdurdod Cyfrifol i gyflwyno'r Cynnig ar gyfer Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i'r Gweinidog ar ran y 10 Awdurdod Cynllunio Lleol yn y rhanbarth.

 

2.    Bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cymeradwyo Cyngor Bro Morgannwg fel yr Awdurdod Cyfrifol ar gyfer Cynllun Datblygu Strategol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

3.    Bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cadarnhau y dylai'r ardal gynllunio strategol gynnwys y 10 ardal awdurdod cynllunio lleol o fewn Prifddinas-Ranbarth Caerdydd fel y dangosir ar y map yn Atodiad A yr adroddiad.

 

4.     Bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn awdurdodi swyddogion perthnasol i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru wrth ddrafftio Rheoliadau'r Cynllun Datblygu Strategol i sefydlu'r trefniadau llywodraethu ar gyfer y Cynllun a'r Panel Cynllunio Strategol fel y nodir ym mharagraffau 5.10 i 5.24 yr adroddiad.

 

5.    Bod Carfan Swyddogion Rhanbarthol y Cynllun Datblygu Strategol yn cael ei sefydlu i fwrw ymlaen â pharatoi'r Cynllun, i'w benodi gan gynrychiolwyr y Panel Cynllunio Strategol Dros Dro, gyda chymorth priodol gan adran adnoddau dynol yr Awdurdod Cyfrifol.

 

6.    Bod cost paratoi'r Cynllun Datblygu Strategol yn cael ei rhannu ar draws y 10 Awdurdod yn ôl cost gyfrannol yn seiliedig ar y gynrychiolaeth bleidleisio ar y Panel Cynllunio Strategol, i'w hadolygu'n flynyddol. Byddai hyn yn golygu cyfraniad cychwynnol o £6,520 gan Rondda Cynon Taf tuag at £50,005 ar y cyd i dalu am y costau cychwynnol sy'n debygol o ddigwydd yn y flwyddyn ariannol hon 2019/20. Nodir manylion y costau hyn a'r costau blynyddol pellach ym mharagraffau 5.30 i 5.40 yr adroddiad.

 

 

(D.S. Mae Cofnod Rhif 157 yn cyfeirio at y datganiad o fuddiant personol wnaeth Arweinydd y Cyngor mewn perthynas â'r eitem hon.)

 

Dyddiad cyhoeddi: 10/07/2019

Dyddiad y penderfyniad: 18/06/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/06/2019 - Cabinet

Effective from: 25/06/2019

Dogfennau Cysylltiedig: