Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant wybod i'r Aelodau am y grantiau cyfalaf sy wedi'u derbyn i gefnogi gweithredu Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn RhCT. 

 

Cafodd yr Aelodau wybod am wahoddiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cais am grant ac achos busnes ar gyfer prosiectau cyfalaf a fyddai'n cefnogi gweithredu elfen gofal plant Cynnig Gofal Plant RhCT.

 

Cafodd yr Aelodau wybod, yn ystod y broses gyflwyno, roedd swyddogion wedi cytuno y byddai'r cais am gyllid yn canolbwyntio ar gefnogi darpariaeth gofal plant cyn ac ar ôl ysgol sydd eisoes yn bodoli mewn ysgolion, neu ddatblygu lleoliadau newydd mewn ysgolion lle mae galw am y math yma o ofal wedi'i ariannu gan y Cynnig Gofal Plant.  Mae'r prosiectau yma yn cefnogi Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor trwy gynnig dull ar gyfer rhannu lleoliadau ar safleoedd ysgol.  Cyflwynwyd 11 o brosiectau i'w hystyried.

 

Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at adran 4.8 yr adroddiad a oedd yn amlinellu'r 11 prosiect a gyflwynwyd, a gofynnwyd hefyd am gais pellach am swydd Swyddog Prosiect benodol.  Ym mis Chwefror 2019, cafodd y Cyngor wybod ei fod wedi llwyddo i ennill cyllid ar gyfer 4 o'r 11 prosiect cyfalaf, yn ogystal â chyllid ar gyfer y cynllun grant cyfalaf bach a'r Swyddog Prosiect, sef:

 

·         Ysgol Gymuned Tonyrefail

·         Ysgol Gynradd Gwauncelyn

·         Ysgol Gynradd Cwmlai

·         Ysgol Gynradd Dolau

·         Cynllun grant cyfalaf bach

·         Swydd Swyddog Prosiect

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes y cyllid grant o £2,598,014, a soniodd am y pwyslais ar ofal cyn ac ar ôl ysgol er mwyn hwyluso a chefnogi trosglwyddo'n ddi-dor rhwng elfen HCB y Cynnig Gofal Plant a'r gofal plant ychwanegol wedi'i ariannu.  Siaradodd yr Aelod yn gadarnhaol am y prosiectau oedd wedi'u dewis a phwysigrwydd y Swyddog Prosiect wrth hwyluso'r prosiectau yn y dyfodol. 

 

Ailadroddodd yr Arweinydd ei ddiolch i'r swyddogion a oedd wedi cyfrannu at gyflwyno'r ceisiadau ar gyfer y prosiectau a chroesawodd y cyllid.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi'r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad.

 

2.    Nodi derbyn £2,598,014 o gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru.

 

3.    Cynnwys y prosiectau cyfalaf a ariennir gan grantiau yn y rhaglen gyfalaf.

 

4.    Cymeradwyo sefydlu swydd Swyddog Prosiect benodol wedi'i hariannu gan grant am gyfnod y rhaglen, sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2021.

 

Dyddiad cyhoeddi: 11/06/2019

Dyddiad y penderfyniad: 08/05/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/05/2019 - Cabinet

Effective from: 15/05/2019

Dogfennau Cysylltiedig: