Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant fanylion i'r Aelodau am yr arian grant cyfalaf cynnal a chadw ychwanegol a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20.
Cafodd yr Aelodau wybod am gefndir y cyllid, a bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £40 miliwn i gefnogi awdurdodau lleol wrth fynd i'r afael â heriau ym maes cynnal a chadw cyfalaf. Roedd yr arian wedi cael ei ddyfarnu i liniaru'r pwysau ariannol y mae awdurdodau lleol yn eu profi a chefnogi Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, un o'i phrif flaenoriaethau wrth fynd i'r afael â chyflwr gwael ysgolion.
Aeth y Cyfarwyddwr yn ei blaen trwy roi gwybod bod y Cyngor wedi llwyddo i dderbyn dyraniad o £3.185 miliwn - roedd hyn wedi'i ariannu 100% gan gyllid grant, a doedd dim angen i'r Cyngor gyfrannu arian ychwanegol neu gyfatebol. Mae'r cyllid wedi'i ddyfarnu ar gyfer 2019/2020 a bydd modd cyflawni'r gwaith adeiladu erbyn diwedd mis Mawrth 2020. Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at adran 5.1 yr adroddiad a oedd yn nodi manylion y prosiectau arfaethedig i'w hariannu gan y rhaglen cadw a chynnal cyfalaf ychwanegol sydd wedi'i gynllunio.
Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes y cyllid ychwanegol, gan ddweud y byddai hefyd yn helpu ysgolion i leihau eu cyllidebau cynnal a chadw. Croesawodd y gwaith a fyddai'n cael ei gwblhau trwy'r prosiectau arfaethedig sydd wedi'u rhestru yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
1. Nodi derbyn £3.185 miliwn o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru.
2. Cymeradwyo'r prosiectau a amlinellwyd yn yr adroddiad a'u dynodi'n flaenoriaeth ar gyfer 2019/20 a chymeradwyo cychwyn y cynllun.
Dyddiad cyhoeddi: 11/06/2019
Dyddiad y penderfyniad: 08/05/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/05/2019 - Cabinet
Effective from: 15/05/2019
Dogfennau Cysylltiedig: