Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Rhoddodd Swyddog Ysgolion yr 21ain Ganrif fanylion i'r Aelodau am gais y Cyngor am gyllid yn rhan o gynllun Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru – Cynllun Grant Cyfalaf Canolfannau Cymuned.
Cafodd yr Aelodau wybod am Gynllun Grant Cyfalaf Canolfannau Cymuned Llywodraeth Cymru a'r pum prosiect mae'r cyngor wedi cyflwyno cais mewn perthynas â nhw, sef: Canolfan Cymuned Ffynnon Taf, Canolfan i'r Teulu Seren Fach, Trac Athletau Brenin Siôr V, Cwm Clydach, Cae 3G Treorci, Parc Ystradfechan a Chanolfan Cymuned Plaza'r Porth. Dywedodd y Swyddog fod y 5 prosiect wedi llwyddo i ennill cyllid ac aeth yn ei flaen i roi manylion pellach am y prosiectau.
Cadarnhaodd y Swyddog fod y £1,060,000 oedd wedi'i ddyrannu wedi'i gyllido 100% gan grant, a doedd dim angen i'r Cyngor gyfrannu arian ychwanegol neu gyfatebol.
Daeth y Swyddog a'i sylwadau i ben trwy nodi fod y cyllid sydd wedi'i ddyrannu er mwyn datblygu'r canolfannau cymuned yn ddatblygiad cadarnhaol a bydd yn sicrhau bod gan breswylwyr o bob oed yn Rhondda Cynon Taf fynediad i leoliad a chyfleusterau o'r safon uchaf, lle mae ystod o wasanaethau ar gael i fodloni eu hanghenion.
Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes yr adroddiad a'r gwaith oedd wedi'i wneud gan ystod o swyddogion o wahanol wasanaethau i sicrhau'r cyllid. Cymerodd yr Aelod o'r Cabinet y cyfle i fynegi un pryder yngl?n â symud carfan Cymunedau am Waith i drydydd llawr Plaza'r Porth a mynegodd bryderon mewn perthynas â natur sensitif derbyn talebau banc bwyd. Gofynnodd fod y sefyllfa'n cael ei monitro i sicrhau nad oedd unrhyw effeithiau andwyol oherwydd y symudiad yma.
Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn yn gadarnhaol am y cyllid hefyd a'r datblygiadau gyda'r canolfannau cymunedol ac unwaith eto, diolchodd eto i bawb a fu'n gweithio i sicrhau'r cyllid.
Ar ôl trafod PENDERFYNWYD:
1. Nodi'r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad.
2. Derbyn £1.06 miliwn o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru.
3. Cynnwys y prosiectau wedi'u hariannu sydd wedi'u nodi yn adrannau 5 a 6 yr adroddiad yn y rhaglen gyfalaf.
Dyddiad cyhoeddi: 11/06/2019
Dyddiad y penderfyniad: 08/05/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/05/2019 - Cabinet
Effective from: 15/05/2019
Dogfennau Cysylltiedig: