Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am ganlyniad yr ymarfer ymgynghori chwe wythnos o hyd ar ddyfodol y canolfannau oriau dydd mynediad agored sy'n weddill. Roedd hyn yn dilyn penderfyniad y Cabinet ar 21 Tachwedd 2018 i gynnal ymgynghoriad.

 

Atgoffwyd yr aelodau o'r rhesymeg dros yr ymgynghoriad mewn perthynas â'r canolfannau canlynol: Canolfan Oriau Dydd y Gilfach-goch; Canolfan Oriau Dydd Brynnar Jones, y Gelli; Canolfan Oriau Dydd T? Teifi, Maerdy; a Chanolfan Oriau Dydd Nazareth, Trewiliam.  Roedd y rhain yn cynnwys: pryderon ynghylch defnydd isel (mae pobl yn dewis peidio â mynychu); cost gynyddol cynnal canolfannau oriau dydd i'r Cyngor; y buddsoddiad cyfalaf sylweddol posibl sydd ei angen i gadw'r canolfannau, a'r pwysau ehangach ar gyllideb y Cyngor yn sgil anghenion cynyddol preswylwyr sydd angen gofal a chefnogaeth wedi'u hasesu.  Cyfeiriwyd yr aelodau at dabl 1 yn yr adroddiad a oedd yn darparu ffigyrau mewn perthynas â defnydd a chost net fesul pryd yn y canolfannau dydd.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r aelodau am y broses ymgynghori chwe wythnos a gynhaliwyd a dywedodd fod yr adborth yn dangos y byddai'n well gan y mwyafrif o ddefnyddwyr gwasanaethau fod y canolfannau'n aros ar agor, a bod prydau poeth a gweithgareddau ar gael o hyd. Mae hyn yn ddealladwy. Ychwanegodd fod defnyddwyr y gwasanaeth yn nodi bod posibilrwydd y bydd ynysu cymdeithasol yn cynyddu, a byddai colli prydau poeth yn un o effeithiau sylweddol cau'r canolfannau oriau dydd.

 

Fodd bynnag, parhaodd y Cyfarwyddwr drwy egluro ei bod yn bosibl dadlau'n rhesymol nad yw'r model presennol yn bodloni anghenion mwyafrif y bobl h?n yn ein cymunedau bellach, ar sail y dystiolaeth yngl?n â'r nifer fach iawn o bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Nid yw'r defnydd isel a'r gost barhaus i'r Cyngor yn gynaliadwy yn y tymor hir. Aeth y Cyfarwyddwr ymlaen i egluro'r cyfleoedd sydd ar gael drwy'r rhaglen Canolfannau Cymuned i ddatblygu gwasanaethau i'r gymuned gyfan, ar gyfer pob cenhedlaeth.

 

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Oedolion a'r Gymraeg at y strategaethau eraill yr oedd angen eu hystyried wrth drafod yr adroddiad, gan gyfeirio at y rhaglen Canolfannau Cymuned, Strategaeth Pobl H?n Cwm Taf a'r strategaeth Gofal Ychwanegol, gan ychwanegu bod y rhain i gyd yn cyfrannu at foderneiddio gwasanaethau i'r genhedlaeth h?n yn Rhondda Cynon Taf.  Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet at y defnydd isel o'r canolfannau oriau dydd presennol yn yr adroddiad, ond cyfeiriodd at waith caled ac ymroddiad y staff sydd yn y canolfannau oriau dydd ar hyn o bryd sy wedi'u hadlewyrchu yn sylwadau defnyddwyr y gwasanaethau yn ystod yr ymgynghoriad, a gwerth eu gwasanaeth.  Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet at dabl 1 yn yr adroddiad, gan fynegi ei bryder ynghylch y defnydd isel a lefel y gwariant.  Soniodd yr Aelod o'r Cabinet am y posibilrwydd o ddefnyddio'r rhaglen Canolfannau Cymuned i ddatblygu gwasanaethau yn y Gymuned ymhellach pe bai'r penderfyniad yn cael ei wneud i gau'r canolfannau oriau dydd.

 

Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau Cadarn, Llesiant a Gwasanaethau Diwylliannol am y cyfleoedd sydd ar gael drwy'r rhaglen Canolfannau Cymuned, gan ddarparu cyfleoedd i bob cenhedlaeth gymryd rhan yng ngweithgareddau cymdeithasol yn y gymuned.  Cyfeiriodd yr Aelod o'r Cabinet at enghreifftiau cadarnhaol diweddar o Ganolfannau Cymuned ar draws y Fwrdeistref Sirol

 

Gyda chaniatâd y Cadeirydd, siaradodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol J. Harries ac L. Jones ar yr eitem hon, a chyfeiriodd y Cynghorydd Jones at ddeiseb mewn perthynas â'r eitem.

 

Soniodd yr Arweinydd am yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'r cyfeiriad a wnaed gan yr Aelod lleol at y rhaglen 'Learning Curves', gan awgrymu bod y Cyngor yn darparu cludiant i ddefnyddwyr y rhaglen hon.  Adlewyrchodd yr Arweinydd hefyd yr angen i gynnal y ddarpariaeth gofal cymdeithasol, ond cytunodd y byddai hynny ar gael trwy'r Canolfannau Cymuned, yn ogystal â rhyngweithio cymdeithasol.

 

Soniodd y Dirprwy Arweinydd am yr angen i foderneiddio'r gwasanaeth sydd ar gael i'r genhedlaeth h?n bresennol ac i genedlaethau'r dyfodol, gan ychwanegu nad oedd y ddarpariaeth sydd ar gael ar hyn o bryd yn addas i'r diben.  Soniodd y Dirprwy Arweinydd am newidiadau a ddigwyddodd yn ei ward ei hun a'r ddarpariaeth amgen a oedd ar gael y mae pob defnyddiwr gwasanaeth yn ei mwynhau, gan wneud sylwadau yngl?n â pharhad rhyngweithio cymdeithasol.

 

Hefyd, rhoddodd y Cyfarwyddwr eglurder yngl?n â'r cyfarfod â'r Undebau Llafur a gynhaliwyd gyda staff. Cyfeiriwyd at hyn yn ystod y cyfarfod. Dywedodd mai cyfarfod safonol yn unig oedd hwn i roi gwybod i staff am yr adroddiad arfaethedig i'r Cabinet a phwysleisiodd na ddywedwyd wrth staff bod y penderfyniad eisoes wedi'i wneud.  Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr y broses a fyddai'n cael ei datblygu gyda staff pe bai'r penderfyniad yn mynd rhagddo.  Darparodd y Cyfarwyddwr hefyd wybodaeth mewn perthynas â phroses RhCT Gyda'n Gilydd a'r cyfleoedd posibl i weithio gyda'r 3ydd Sector i ddatblygu cyfleoedd gwasanaeth.

 

Gofynnod yr Arweinydd i'r Cyfarwyddwr am gadarnhad y byddai'r Cyngor yn ymgysylltu â'r defnyddwyr gwasanaeth presennol pe bai'r penderfyniad yn cael ei wneud. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr y byddai hynny'n digwydd.

 

Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Oedolion a'r Gymraeg i'r Aelodau a'r swyddogion am eu trafodaethau mewn perthynas â'r adroddiad a daeth i'r casgliad nad oedd y model presennol yn cynrychioli'r hyn yr oedd y genhedlaeth bresennol na'r dyfodol ei eisiau.  Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am y cyfleoedd sydd ar gael trwy ddarpariaeth Canolfannau Cymuned a fyddai o fudd i bob cenhedlaeth yn y gymuned a'r angen i foderneiddio'r gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Ar ôl trafodaeth fanwl, PENDERFYNWYD:

 

1.    Ystyried yr ymatebion i'r ymarfer ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd mewn perthynas â'r pedair canolfan oriau dydd mynediad agored sy'n weddill fel y nodwyd ym mharagraff 4.1 yr adroddiad;

 

2.    Cymeradwyo cau'r canolfannau oriau dydd mynediad agored, ac eithrio Canolfan Oriau Dydd y Gilfach-goch a fydd yn aros ar agor; a

 

3.    Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned i archwilio i ddarpariaeth amgen ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth presennol trwy fudiadau trydydd sector presennol yn y cymunedau dan sylw neu, lle bo'n briodol, trwy'r Canolfannau Cymuned sy'n cael eu datblygu.

 

D.S. ar ôl i'r eitem ddod i ben, gadawodd Cynghorwyr y Fwrdeistref Sirol D. Grehan, J. Harries ac L. Jones y cyfarfod.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 11/06/2019

Dyddiad y penderfyniad: 08/05/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/05/2019 - Cabinet

Effective from: 15/05/2019

Dogfennau Cysylltiedig: