Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Rhoddodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol wybodaeth i'r Aelodau am y Cynllun Rhyddhad Stryd Fawr a Manwerthu (Cymru) diweddaraf (“y cynllun”), sydd wedi'i ymestyn. Cafodd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru (LlC) a bydd yn weithredol o 1 Ebrill 2019. Bydd y cynllun yn darparu rhyddhad ardrethi i fusnesau.
Dywedodd y Cyfarwyddwr fod y cynllun ar gyfer 2018/19 yn cynnwys uchafswm dyfarniad o naill ai £250 (ar gyfer eiddo â gwerth ardrethol hyd at £12,000) neu £750 (ar gyfer eiddo â gwerth ardrethol o rhwng £12,000 a £50,000), gyda'r cynllun yn rhoi cyfanswm o £137,350 o ryddhad i 504 o drethdalwyr busnes yn Rhondda Cynon Taf yn 2018/19.
Aeth yn ei flaen gan ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn darparu hyd at £2,500 o ryddhad ardrethi busnes ar gyfer pob eiddo manwerthu sy'n cael ei ddefnyddio, lle bo'r gwerth ardrethol yn £50,000 neu'n is (yn amodol ar derfynau Cymorth Gwladwriaethol).
Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol i'r swyddog am yr adroddiad, yn enwedig oherwydd yr amserlenni byr yn dilyn manylion am gyhoeddi'r cynllun gan Lywodraeth Cymru. Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet y cynnydd fel sy wedi'i amlinellu yn yr adroddiad.
Siaradodd yr Arweinydd yn gadarnhaol hefyd am y cynllun a siaradodd am yr angen i gyfuno'r cynlluniau niferus sydd ar gael er budd staff swyddfa a masnachwyr ac i symleiddio prosesau.
PENDERFYNWYD:
1. Nodi manylion y cynllun sy'n cael ei drafod yn yr adroddiad hwn; ac
2. Y bydd 'Y Cynllun' ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20 yn berthnasol i'r mathau o eiddo a ddisgrifir yn yr adroddiad yma, ac y dylai Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyllid a Digidol gael awdurdod i gymhwyso'r rhyddhad i drethdalwyr cymwys.
Dyddiad cyhoeddi: 29/04/2019
Dyddiad y penderfyniad: 09/04/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/04/2019 - Cabinet
Effective from: 16/04/2019
Dogfennau Cysylltiedig: