Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynhwysiant fanylion i Aelodau o ganlyniad cyhoeddi'r Hysbysiadau Statudol mewn perthynas â'r cynnig i alinio darpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu yn Rhondda Cynon Taf. Cafodd y rhesymeg dros y cynigion ei darparu hefyd.
Cafodd Aelodau wybod bod cyfanswm o 16 o wrthwynebiadau wedi'u derbyn mewn perthynas â'r hysbysiadau statudol a bod manylion y gwrthwynebiadau wedi'u hamlinellu yn atodiad yr adroddiad.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynhwysiant na fyddai unrhyw ddisgyblion yn cael eu heffeithio gan y cynigion ym mharagraffau 5.1.6 – 5.1.9, a byddai dau ddisgybl yn cael eu heffeithio gan y cynigion ym mharagraff 5.1.10. Ychwanegodd hefyd y byddai ymgynghori â rhieni yngl?n â darpariaeth addysgol. Byddai'r ddau ddisgybl hyn yn cael cynnig naill ai pecyn pwrpasol o gymorth er mwyn parhau â'u haddysg o fewn darpariaeth brif ffrwd Ysgol Gynradd Heol y Celyn neu le yn y Dosbarth Cynnal Dysgu yn Ysgol Gynradd Gwaunmeisgyn. Mewn perthynas â pharagraff 5.1.4 yr adroddiad, cafodd yr aelodau eu hatgoffa bod y Cabinet wedi cytuno y bydd y disgybl sydd ar hyn o bryd yn aelod o Ddosbarth Cynnal Dysgu'r Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Gynradd Pen-rhys yn cael cynnig pecyn cymorth er mwyn parhau â'i addysg o fewn darpariaeth brif ffrwd Ysgol Gynradd Pen-rhys.
Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Cynhwysiant fod awgrym y dylid diwygio un o'r cynigion gwreiddiol yn dilyn ystyried y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod cyfnod yr Hysbysiadau Statudol. Oherwydd nifer y disgyblion a fyddai o bosibl yn cael mynediad i ddarpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu Cyfnod Allweddol 2 (CA2), cynigiwyd parhau ag adleoli Dosbarth Cynnal Dysgu y Cyfnod Sylfaen i Ysgol Gynradd Cwmbach o 1 Medi 2019, ond i beidio â dod â'r ddarpariaeth CA2 yn Ysgol Gynradd Caradog i ben ar hyn o bryd. Byddai hyn yn darparu parhad mewn dysgu ar gyfer wyth o ddisgyblion CA2 yn yr ysgol yma sydd eisoes wedi profi nifer o newidiadau ysgol, wrth iddyn nhw gyrraedd camau olaf eu haddysg gynradd.
Gyda chytundeb y Cadeirydd siaradodd yr aelodau canlynol o'r cyhoedd ar yr eitem yma: Ms G. Smith, Ms R. Clark a Ms M. Love.
Gofynnodd yr Arweinydd i'r swyddogion ymateb i'r sylwadau a wnaed gan y siaradwyr cyhoeddus o ran capasiti a nifer yr unedau sydd ar gael a chadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod darpariaeth dosbarthiadau cynnal dysgu yn cael ei hadolygu'n gyson i sicrhau bod y ddarpariaeth yn y lle iawn ar yr adegau cywir. Soniodd y Cyfarwyddwr am amrywiaeth y ddarpariaeth arbenigol a oedd ar gael ac ychwanegodd fod dim ond modd i'r Cyngor edrych ar y galw cyfredol a'r niferoedd rhagamcanol, er bod lle i ehangu'r ddarpariaeth pe bai angen.
Diolchodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes i'r siaradwyr cyhoeddus am eu cyfraniad i'r cyfarfod. Ychwanegodd fod gan yr ysgolion sydd wedi'u rhestru nifer fawr o leoedd gwag ac ychwanegodd na fyddai unrhyw ddisgyblion yn cael eu heffeithio gan y mwyafrif o'r cynigion, gyda phecynnau pwrpasol ar gael i'r ddau y byddai hyn yn eu heffeithio. Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet y newid i'r cynnig mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Caradog. Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet hefyd am y gefnogaeth sy'n cael ei darparu trwy staffio a sicrhaodd y byddai darpariaeth o safon uchel yn parhau.
Ailadroddodd y Dirprwy Arweinydd yr angen i barhau i adolygu'r ddarpariaeth, a chadarnhaodd y byddai'r Cyngor yn sicrhau bod y cyfleusterau gorau posibl yn cael eu darparu i blant a phobl ifainc y Fwrdeistref Sirol.
O ran y cynigion diwygiedig ar gyfer Ysgol Caradog, awgrymodd yr Arweinydd y dylid adolygu'r ddarpariaeth mewn perthynas â'r galw.
Ar ôl trafod PENDERFYNWYD:
1. Ystyried yr wybodaeth yn yr adroddiad a'r Adroddiad Gwrthwynebiad yn Atodiad A, sy'n cynnwys manylion y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Statudol, a'r sylwadau a roddwyd mewn ymateb i'r gwrthwynebiadau.
2. Gweithredu'r cynigion fel y maen nhw wedi'u cyhoeddi yn yr Hysbysiadau Statudol, sef:
a) Agor Dosbarth Cynnal Dysgu – Cyfnod Allweddol 3/4 ar gyfer disgyblion sydd ag Anawsterau Dysgu Cymhleth yn Ysgol Gyfun Treorci ar 1 Medi 2019.
b) Agor Dosbarth Cynnal Dysgu – Cyfnod Allweddol 3/4 ar gyfer disgyblion sydd ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol yn Ysgol Nant-gwyn ar 1 Medi 2019.
c) Cau'r Dosbarth Cynnal Dysgu – Cyfnod Sylfaen ar gyfer disgyblion sydd ag Anawsterau Dysgu Cymhleth yn Ysgol Gynradd Caradog a'i symud i Ysgol Gynradd Cwm-bach. Bydd hyn yn creu darpariaeth ar draws cyfnodau allweddol o'r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 2 a fydd ar gael o 1 Medi 2019.
d) Cau'r Dosbarth Cynnal Dysgu – Cyfnod Sylfaen ar gyfer disgyblion sydd ag Anawsterau Dysgu Cymhleth yn Ysgol Gynradd Pen-rhys a'i symud i Ysgol Gynradd y Maerdy. Bydd hyn yn creu darpariaeth ar draws cyfnodau allweddol o'r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 2 a fydd ar gael o 1 Medi 2019.
e) Ail-bennu 1 Dosbarth Cynnal Dysgu – Cyfnod Sylfaen ar gyfer Anawsterau Dysgu Cymhleth yn Ysgol Gynradd Parc y Darren ac 1 Dosbarth Arsylwi ac Asesu – Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Gynradd Llantrisant i ddod yn 2 Ddosbarth Cynnal Dysgu Asesu ac Ymyriad y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer disgyblion o dan oedran ysgol statudol sy'n dangos anghenion sylweddol. Bydd y ddau ddosbarth yma'n weithredol o 1 Medi 2019.
f) Cau'r Dosbarth Cynnal Dysgu – Cyfnod Sylfaen ar gyfer disgyblion sydd ag Anawsterau Dysgu Cymhleth yn Ysgol Gynradd Heol y Celyn ar 31 Awst 2019 – fyddai dim disgyblion yn cael eu heffeithio gan y cynnig yma.
g) Cau'r Dosbarth Cynnal Dysgu – Cyfnod Sylfaen ar gyfer disgyblion sydd ag Anawsterau Dysgu Cymhleth yn Ysgol Gynradd Pen-rhys ar 31 Awst 2019 – fyddai dim disgyblion yn cael eu heffeithio gan y cynnig yma.
h) Cau'r Dosbarth Cynnal Dysgu – Cyfnod Sylfaen ar gyfer disgyblion sydd ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol yn Ysgol Gynradd Pen-y-waun ar 31 Awst 2019 – fyddai dim disgyblion yn cael eu heffeithio gan y cynnig yma.
i) Cau'r Dosbarth Cynnal Dysgu – Cyfnod Sylfaen ar gyfer disgyblion sydd ag Anawsterau Dysgu Cymhleth yn Ysgol Gynradd Pont-y-gwaith ar 31 Awst 2019 – fyddai dim disgyblion yn cael eu heffeithio gan y cynnig yma.
j) Cau'r Dosbarth Cynnal Dysgu – Cyfnod Allweddol 2 ar gyfer disgyblion sydd ag Anawsterau Dysgu Cymhleth yn Ysgol Gynradd Heol y Celyn ar 31 Awst – byddai dau ddisgybl yn cael eu heffeithio gan y cynnig yma.
k) Cytuno i ddiwygio cynnig mewn perthynas â chau'r Dosbarth Cynnal Dysgu – Cyfnod Allweddol 2 ar gyfer disgyblion ag Anawsterau Dysgu Cymhleth yn Ysgol Gynradd Caradog. Bydd y Dosbarth Cynnal Dysgu bellach yn cau ar 31 Awst 2023 ac nid 31 Awst 2019. Bydd hyn yn sicrhau na fydd y cynnig yma'n effeithio ar unrhyw ddisgybl. O hyn ymlaen, fydd dim plant yn cael eu rhoi yn y dosbarth yma. Fodd bynnag, bydd y penderfyniad yma yn cael ei adolygu'n seiliedig ar lefel y galw tan fis Awst 2023
3. Nodi cyhoeddi'r Hysbysiadau Penderfyniad perthnasol mewn perthynas â'r cynigion a ddatblygwyd fel sy'n ofynnol gan y Cod Trefniadaeth Ysgolion.
Dyddiad cyhoeddi: 29/04/2019
Dyddiad y penderfyniad: 09/04/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/04/2019 - Cabinet
Effective from: 16/04/2019
Dogfennau Cysylltiedig: