Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Rhoddodd Pennaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif wybod i Aelodau am ganlyniad cyhoeddi Hysbysiad Statudol yn ddiweddar mewn perthynas â sefydlu darpariaeth addysg gynradd newydd i wasanaethu'r datblygiad tai newydd yn Llanilid, Llanharan. Rhoddodd wybod na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau.
Dywedodd y bydd y cwmni datblygu tai (Persimmon Homes) yn talu cost gyfalaf adeiladu'r ysgol newydd, trwy ei gyfrifoldebau Ardoll Seilwaith Cymunedol.
Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes y cynnig a chadarnhaodd y byddai'r Cyngor yn helpu i ddylunio'r ysgol er y byddai'r datblygwyr tai yn talu'r gost.
PENDERFYNWYD:
1. Nodi na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau, na sylwadau mewn ymateb i gyhoeddiad yr hysbysiad statudol i weithredu'r cynnig yma;
2. Gweithredu'r cynnig i gynyddu nifer y lleoedd ar gyfer disgyblion yn Ysgol Gynradd Dolau ac adeiladu estyniad newydd i'r adeilad ysgol presennol.
Dyddiad cyhoeddi: 29/04/2019
Dyddiad y penderfyniad: 09/04/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/04/2019 - Cabinet
Dogfennau Cysylltiedig: