Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Ariannol adroddiad i'r Cabinet, sy'n nodi'r adolygiadau arfaethedig i ffioedd a thaliadau'r Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol, 2019/20, pob un i'w gweithredu o 1 Ebrill 2019 neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol wedi hynny.

 

Adroddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Ariannol ar ganlyniadau'r adolygiad a gafodd ei gynnal gan y Cabinet mewn perthynas â ffioedd a thaliadau arfaethedig y Cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2019/20. Tynnodd sylw at amcan yr adolygiad o barhau i ddarparu ystod gynhwysfawr o wasanaethau o safon uchel am brisiau rhesymol.

 

Cafodd yr Aelodau eu hysbysu mai canlyniad yr adolygiad oedd cynnydd safonol arfaethedig o 2.90% mewn ffioedd a thaliadau (gan ganiatáu addasiadau talgrynnu fel sy'n briodol) ac eithrio nifer o feysydd sydd wedi cael eu cynnig i fod yn destun triniaeth benodol. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau at dabl 1 yn adran 5 o'i adroddiad sy'n rhoi Crynodeb o'r ffioedd a thaliadau arfaethedig sydd ddim yn destun y cynnydd safonol arfaethedig.

 

Cafodd yr Aelodau wybod am y manylion mewn perthynas â Pryd-ar-glud, Prydau Canolfannau Dydd a Thai Amlfeddiannaeth.  Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'r incwm amcangyfrifedig sy'n cael ei greu gan y cynigion sydd wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad yn £42 mil mewn blwyddyn lawn.  Cyn dod i ddiwedd ei adroddiad, cyfeiriodd y Cyfarwyddwr hefyd at benderfyniadau eraill gan y Cabinet mewn perthynas â ffioedd a thaliadau a gafodd eu cymeradwyo yn ystod y flwyddyn ariannol 2018/19 a fyddai'n cael eu cynnwys yn Strategaeth Gyllideb arfaethedig 2019/20. 

 

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i'r Swyddogion am yr adroddiad a chyflwynodd sylwadau ar y cynnydd safonol arfaethedig o 2.90% i ffioedd a thaliadau, a dywedodd ei fod yn swm rhesymol.  Gwnaeth yr Arweinydd sylw am y broses rhewi costau a nodwyd yn yr adroddiad, yn dilyn trafodaeth am yr adborth o'r broses bennu cyllideb.

 

Croesawodd y Dirprwy Arweinydd y ffaith fod costau prydau ysgol wedi rhewi a chyfeiriodd at y rhesymeg dros y rhestr ffioedd arfaethedig mewn perthynas â Thai Amlfeddiannaeth. Nododd y cynlluniau rheoleiddio a gorfodi sydd angen i'r Awdurdod Lleol eu rhoi ar waith mewn perthynas â Thai Amlfeddiannaeth.

 

Gwnaeth yr Aelodau eraill sylwadau cadarnhaol yngl?n â'r newidiadau arfaethedig ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth, gan nodi bod angen sicrhau bod pobl ifainc o fewn y Fwrdeistref Sirol yn cael llety o'r radd flaenaf, gyda'r Cyngor yn sicrhau bod landlordiaid yn gofalu am iechyd, diogelwch a lles y myfyrwyr.  Cyfeiriwyd hefyd at Gynllun Achredu Eiddo Trefforest, lle byddai eiddo o fewn ardal yr achrediad yn cael gostyngiad o 10%.

 

Ar ôl trafod PENDERFYNWYD:

 

 

1.    Cymeradwyo'r lefelau diwygiedig arfaethedig ar gyfer pob maes o ffioedd a thaliadau'r Cyngor fel sy'n cael eu gosod allan yn adran 5 o'r adroddiad ac sy'n cael eu manylu yn Atodiad 1 o'r adroddiad. 

 

2.    Adeiladu'r effaith gyllidebol net (£42 mil ar gyfer 2019/20) i gynigion strategaeth gyllideb i'w hystyried gan y Cabinet a'r Cyngor fel y bo'n briodol.

 

3.    Nodi'r ffioedd a'r taliadau sydd wedi'u cymeradwyo eisoes ac wedi'u cynnwys yn strategaeth gyllideb arfaethedig 2019/20 (fel sydd wedi'i amlinellu ym mharagraff 5.5 o'r adroddiad)

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 12/03/2019

Dyddiad y penderfyniad: 14/02/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/02/2019 - Cabinet

Effective from: 21/02/2019

Dogfennau Cysylltiedig: