Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo

Is KeyPenderfyniad?: Ydy

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy

Penderfyniadau:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio, adborth i Aelodau a ddaeth i law o'r ymarfer ymgynghori cyhoeddus a gafodd ei gynnal ar Strategaeth ddrafft Canol Tref Porth; a'r ymgynghoriad a oedd yn canolbwyntio ar ddefnyddwyr y gwasanaeth ar y cynigion penodol i adleoli'r gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd yng Nghanolfan Oriau Dydd Alec Jones i'r Ganolfan Gymuned newydd ar Blaza'r Porth.

 

Cafodd yr aelodau eu hatgoffa am y strategaeth, sy'n amlinellu dull holistig, cydgysylltiedig ac integredig tuag at adfywio canol trefi sy'n ystyried y rôl nodedig sydd gan ganol tref y Porth wrth galon y gymuned a'i lleoliad pwysig ar gyfer gwasanaethau, gwaith, tai a thrafnidiaeth.

 

Cafodd Aelodau wybod am yr adborth a oedd wedi cael ei dderbyn mewn perthynas â'r ddau ymgynghoriad 6 wythnos a gynhaliwyd. Nodwyd bod adborth wyneb yn wyneb cadarnhaol wedi'i dderbyn a bod 80% o ymatebwyr i holiadur Strategaeth Canol Tref y Porth wedi ymateb gan gytuno y byddai'r amcanion strategol sy wedi'u hamlinellu yn y cynigion yn gwella Canol Tref y Porth. Serch hynny, roedd rhai yn pryderu ynghylch trafferthion parcio cynyddol a'r ffaith y gallai'r amserlen ar gyfer y prosiect darfu ar fywyd yn yr ardal.  O safbwynt yr ymgynghoriad a gafodd ei gynnal yn benodol gyda Chanolfan Oriau Dydd Alec Jones, roedd 92% o ddefnyddwyr y gwasanaeth wedi ymateb i'r cwestiwn yma trwy ddweud y byddan nhw'n mynd i'r Ganolfan Gymuned newydd, ac ni ddywedodd unrhyw un na fyddan nhw'n mynd i'r gweithgareddau mwyach. Roedd busnesau lleol wedi nodi pryderon am y ffaith y byddai'r Ganolfan Gymuned yn darparu prydau poeth ac effaith bosibl hyn ar fusnesau'r Stryd Fawr.  Dywedodd y swyddogion wrth Aelodau y byddai angen archwilio opsiynau amgen ar gyfer darparu prydau poeth, yn dilyn y pryderon hyn, ceisiadau defnyddwyr gwasanaeth presennol y ganolfan oriau dydd a'r cyfyngiadau o ganlyniad i ddyluniad Plaza'r Porth.

 

Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai yr ymatebion cadarnhaol a oedd wedi cael eu derbyn mewn perthynas â'r ddau ymgynghoriad, gan roi sylwadau ar y nifer fach o bryderon a oedd wedi'u nodi.  Siaradodd yr Aelod o'r Cabinet am y cyfleoedd ar gyfer datblygu ymhellach yng Nghwm Rhondda gan dynnu sylw at ganolfannau cludiant o ganlyniad i'r metro a chyfleoedd ehangach ar gyfer adfywio.

 

Gwnaeth yr Arweinydd sylwadau hefyd am yr ymatebion cadarnhaol a oedd wedi cael eu derbyn gan y ddau ymgynghoriad, a chroesawodd y gwaith pellach y byddai'r swyddogion a'r gymuned leol yn ymgymryd ag ef o safbwynt gwerthu bwyd ar y safle.  Soniodd yr Arweinydd am y trafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda gweithredwyr bysiau a Thrafnidiaeth Cymru yngl?n â chyfleoedd o ran amserlennu a thocynnau ar y cyd yn y dyfodol.

 

Ar ôl trafod PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi'r ymatebion i'r ymarfer ymgynghori cyhoeddus a gynhaliwyd mewn perthynas â Strategaeth Canol Tref y Porth a phenderfynwyd hefyd nad oedd angen diwygio'r cynigion mewn unrhyw ffordd.

 

2.    Nodi'r ymatebion i'r ymgynghoriad a oedd yn canolbwyntio ar ddefnyddwyr y gwasanaeth – roedd hyn mewn perthynas â'r cynigion penodol i adleoli'r gweithgareddau sydd ar gael ar hyn o bryd yng Nghanolfan Oriau Dydd Alec Jones i'r Ganolfan Gymuned newydd ar Blaza'r Porth a phenderfynwyd hefyd nad oedd angen diwygio'r cynigion mewn unrhyw ffordd.

 

3.    Mewn ymateb i'r adborth a dderbyniwyd trwy'r ymgynghoriad fel sy wedi'i nodi ym mharagraffau 7.4 a 7.8 yr adroddiad, rhoi awdurdod i Gyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned i ymgymryd ag ymarfer ymgysylltu pellach gyda defnyddwyr y gwasanaeth yng Nghanolfan Oriau Dydd Alec Jones i nodi'r trefniadau angenrheidiol ar gyfer darparu prydau poeth mewn ffordd amgen, a rhoi'r trefniadau hynny ar waith.

 

4.    Cymeradwyo Strategaeth Canol Tref Porth (yn amodol ar unrhyw newidiadau o ganlyniad i'r broses ymgysylltu sy wedi'i hamlinellu uchod) a datblygu a chyflwyno cynlluniau pellach fel y maen nhw wedi'u nodi yn y ddogfen.

 

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 24/01/2019

Dyddiad y penderfyniad: 24/01/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/01/2019 - Cabinet

Effective from: 31/01/2019

Dogfennau Cysylltiedig: