Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws Penderfyniad: Argymhellion wedi'u cymeradwyo
Is KeyPenderfyniad?: Ydy
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Ydy
Rhoddodd Pennaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif wybod i Aelodau am ganlyniad yr ymgynghoriad diweddar mewn perthynas â chynigion i sefydlu darpariaeth addysg gynradd newydd i wasanaethu'r datblygiad tai newydd yn Llanilid, Llanharan, yn dilyn penderfyniad y Cabinet ar 20 Medi, 2018. Cafodd Aelodau eu cyfeirio at yr ymatebion i'r ymgynghoriad a oedd wedi'u hamlinellu yn Atodiad B yr adroddiad, ond fe nodwyd hefyd fod yr ymateb i'r broses ymgynghori wedi bod yn gyfyngedig – dim ond 6 o ymatebion a dderbyniwyd. Rhoddodd Pennaeth Ysgolion yr 21ain Ganrif wybod i Aelodau nad oedd Estyn wedi gwrthwynebu'r cynnig o gwbl.
Gwnaeth yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes sylwadau ar y nifer siomedig o ymatebion a dderbyniwyd. Gan gyfeirio at y pryderon yngl?n â mynediad a pharcio, ychwanegodd yr Aelod o'r Cabinet y byddai swyddogion Addysg yn gweithio gyda'r datblygwyr i geisio lliniaru'r pryderon hyn yn y dyfodol.
Croesawodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a'r Gymraeg y cynigion a'r trafodaethau cynnar gyda'r datblygwyr mewn perthynas â mynediad a pharcio i'r ysgol gan nodi fod hyn eisoes yn broblem yn yr ardal.
Ar ôl trafod PENDERFYNWYD:
1. Nodi'r wybodaeth yn yr Adroddiad Ymgynghori (sy wedi'i atodi i'r adroddiad), sy'n cynnwys manylion yr ohebiaeth a dderbyniwyd yn ystod yr ymarfer ymgynghori a nodiadau o'r gwahanol gyfarfodydd a gafodd eu cynnal.
2. Yn dilyn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad sy wedi'u hamlinellu uchod i symud y cynigion yn eu blaen i gam nesaf y broses ymgynghori trwy gytuno i gyhoeddi'r Adroddiad Ymgynghori yn gyntaf, ac yn ail, gyhoeddi Hysbysiad Statudol priodol bythefnos ar ôl cyhoeddi'r Adroddiad Ymgynghori.
Dyddiad cyhoeddi: 24/01/2019
Dyddiad y penderfyniad: 24/01/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/01/2019 - Cabinet
Effective from: 31/01/2019
Dogfennau Cysylltiedig: