App modern.gov ar gael
Gallwch weld dogfennau pwllgor cyhoeddus ar eich iPad
neu
Dyfais Android gyda’r app modern.gov am ddim.
Y Cyngor yw'r prif fforwm i'r 75 Aelod Lleol drafod materion polisi o bwys sylweddol i'r Cyngor a phobl Rhondda Cynon Taf.
Cafodd y Pwyllgorau Rheoleiddio eu penodi gan y Cyngor ac maen nhw'n cyflawni swyddogaethau penodol sydd wedi'u rhoi iddyn nhw o dan bwerau dirprwyedig.
Mae'r Cyngor wedi sefydlu 4 Pwyllgor Craffu allweddol, sy'n goruchwylio 8 portffolio'r Cabinet ac yn herio gwaith y Cabinet trwy adolygu agweddau ar gynnal gwasanaethau yn Rhondda Cynon Taf.
Mae trefniadau Craffu ar y Cyd hefyd wedi cael eu cyflwyno gydag Awdurdodau Lleol eraill mewn perthynas â chraffu ar Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf a Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae'r Cyngor wedi sefydlu nifer o Bwyllgorau i gyflawni rolau penodol yn yr Awdurdod Lleol wrth sicrhau ei fod yn cadw at safonau ymddygiad uchel.
Byrddau, Paneli a Fforymau wedi'u penodi gan Arweinydd y Cyngor i gynorthwyo â phroses benderfynu'r Cyngor.
Mae manylion y pwyllgorau sydd heb eu cynnwys yn Aelodaeth Pwyllgorau'r Cyngor neu Gynllun Dirprwyo'r Arweinydd ar gael yma.