Agenda item

T? ar wahân gyda garej ddwbl.

HEN SAFLE GLEN TRANSPORT, HEOL PENYCOEDCAE, PENYCOEDCAE, PONTYPRIDD

 

Cofnodion:

T? ar wahân gyda garej ddwbl integredig. HEN SAFLE GLEN TRANSPORT, HEOL PENYCOEDCAE, PENYCOEDCAE, PONTYPRIDD

 

Cyflwynodd Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi y cais, a gafodd ei gyflwyno'n wreiddiol i'r Pwyllgor ar 2 Medi 2021, pan gymeradwyodd yr Aelodau'r cais yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio (Cofnod 57).

 

Adroddodd Pennaeth Datblygu Mawr a Buddsoddi ar lafar am gywiriad i amod 6 yr adroddiad ar dudalen 84, i ddileu'r gair 'not' fel ei fod yn darllen fel a ganlyn:

 

6. No dwelling, hereby permitted, shall be occupied until the measures approved in the scheme (referred to in Condition 5) have been implemented and a suitable validation report of the proposed scheme has been submitted to and approved in writing by the Local Planning Authority.

Rheswm: Er budd iechyd a diogelwch ac amwynder amgylcheddol yn unol â Pholisi AW10 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.

 

Trafododd yr Aelodau yr adroddiad pellach, a oedd yn tynnu sylw at y cryfderau a'r gwendidau posibl o ran cymeradwyo cais yn groes i argymhelliad swyddogion, ac yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais, yn groes i argymhelliad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Materion Cynllunio gan fod yr Aelodau o'r farn fod y safle'n dderbyniol o ran yr effaith bosibl ar gymeriad a golwg yr ardal, amwynder preswylwyr cyfagos a diogelwch ar y briffordd, yn amodol ar y canlynol:

 

1.    Bydd y datblygiad sy'n cael ei ganiatáu drwy hyn yn dechrau cyn diwedd pum mlynedd i ddyddiad y caniatâd yma.

Rheswm: Cydymffurfio ag Adrannau 91 a 93 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

 

2.    Bydd y datblygiad sy'n cael ei ganiatáu drwy hyn yn cael ei gyflawni yn unol â'r cynlluniau wedi eu cymeradwyo:

·Rhif y Darlun 2013 PL-01 Cynllun y lleoliad

·Rhif y Darlun 2013 PL-02 Cynllun safle arfaethedig

·Rhif y Darlun 2013 PL-03 A Cynlluniau llawr gwaelod a llawr cyntaf

·Rhif y Darlun 2013 PL-04 Cynllun to arfaethedig

·Rhif y Darlun 2013 PL-05 A Drychiadau arfaethedig i'r gorllewin a'r de

·Rhif y Darlun 2013 PL-06 Drychiadau arfaethedig i'r dwyrain a'r gogledd, a'r dogfennau a ddaeth i law'r Awdurdod Cynllunio Lleol ar 18/01/21, 08/02/21 a 15/02/21, oni bai eu bod nhw wedi eu cymeradwyo a'u disodli gan fanylion sy'n ofynnol yn unol ag unrhyw amod arall wedi ei atodi i'r gymeradwyaeth hon. Rheswm: Sicrhau cydymffurfio â'r cynlluniau a'r dogfennau wedi eu cymeradwyo a diffinio ffiniau'r caniatâd yn glir.

 

3.    Bydd y dreif arfaethedig ar ddarlun rhif "2013.PL-02" yn cael ei adeiladu gan ddefnyddio deunyddiau parhaus, ac ynghyd â'r garej integredig arfaethedig, bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer parcio cerbydau yn unig.

Rheswm: Sicrhau bod cerbydau yn cael eu parcio oddi ar y briffordd, er budd diogelwch ar y ffordd.

 

4.    Ni chaiff unrhyw ddatblygu ddigwydd, gan gynnwys gwaith i glirio'r safle, nes bod Datganiad o Ddull Adeiladu yn cael ei gyflwyno a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol, er mwyn darparu ar gyfer; a) mynediad i'r safle i'r holl draffig adeiladu, b) mannau pacio ar gyfer gweithwyr y safle ac ymwelwyr, c) mesurau rheoli traffig cerbydau a cherddwyr, ch) llwytho a dadlwytho offer a deunyddiau, d) storio offer a deunyddiau i'w defnyddio wrth adeiladu'r datblygiad, dd) cyfleuster glanhau olwynion, e) gorchuddio lorïau sy'n gadael y safle.

Rheswm: Rhaid cadw at y Datganiad Dull Adeiladu cymeradwy trwy gydol y broses ddatblygu oni chytunir fel arall yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

 

5.    Ni chaiff y datblygiad a ganiateir drwy hyn ddechrau nes bod cynllun i ymdrin â deunydd halogedig ar y safle wedi ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'i gymeradwyo ganddo yn ysgrifenedig. Bydd y cynllun yn cynnwys yr holl fesurau a ganlyn oni chytunir yn wahanol yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol: 1. Astudiaeth ddesg i nodi a gwerthuso holl ffynonellau halogi posibl sy'n berthnasol i'r safle a'u heffaith. Dylai'r astudiaeth ddesg gynnwys model cysyniadol o'r safle 2. Rhaid cynnal ymchwiliad safle er mwyn nodi'n llawn ac yn effeithiol natur a hyd a lled unrhyw halogiad a'i oblygiadau. Ni fydd yr ymchwiliad safle'n dechrau nes y bydd astudiaeth ddesg wedi'i chytuno'n ysgrifenedig gyda'r Awdurdod Cynllunio Lleol. 3. Datganiad ysgrifenedig o'r dull ar gyfer adfer y safle o ran unrhyw ddeunydd halogedig sy'n effeithio arno.

Rheswm: Er budd iechyd a diogelwch ac amwynder amgylcheddol yn unol â Pholisi AW10 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.

 

6.    Ni chaiff unrhyw eiddo a ganiateir drwy hyn ei feddiannu nes bod y mesurau sydd wedi'u cymeradwyo yn y cynllun (gweler amod 5) wedi'u rhoi ar waith a bod adroddiad dilysu priodol ar gyfer y cynllun arfaethedig wedi'i gyflwyno a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

Rheswm: Er budd iechyd a diogelwch ac amwynder amgylcheddol yn unol â Pholisi AW10 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.

 

7.    Os caiff unrhyw halogiad ei ddarganfod yn ystod y gwaith datblygu nad oedd wedi'i ei nodi'n flaenorol, a'i fod yn deillio o ffynhonnell wahanol a/neu'n fath gwahanol i'r rheiny sydd wedi'u cynnwys yn y cynigion halogiad, yna bydd y gwaith yn dod i ben a bydd cynigion halogiad diwygiedig yn cael eu cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol. Ni fydd y datblygiad yn ail-ddechrau nes bydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi cytuno'n ysgrifenedig ar y cynigion ychwanegol.

Rheswm: Er budd iechyd a diogelwch ac amwynder amgylcheddol yn unol â Pholisi AW10 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.

 

8.    Rhaid i unrhyw uwchbridd [naturiol neu wedi'i weithgynhyrchu], neu isbridd, i'w fewnforio gael ei asesu gan berson cymwys ar gyfer halogion cemegol neu halogion eraill posibl yn unol â chynllun ymchwilio a fydd yn cael ei gyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig ymlaen llaw, cyn i'r pridd gael ei fewnforio. Yn amodol ar gymeradwyo'r cynllun archwilio, bydd samplu'r deunydd sy'n cael ei dderbyn ar safle'r datblygiad yn digwydd i gadarnhau fod y pridd wedi'i fewnforio'n rhydd o halogion. Cynhelir y samplu gan berson cymwys yn unol â chynllun ac amserlen i'w cytuno'n ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Dim ond deunydd sydd wedi'i gymeradwyo gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol gaiff ei fewnforio

Rheswm: Er budd iechyd a diogelwch ac amwynder amgylcheddol yn unol â Pholisi AW10 Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.

 

9.    Ni fydd y gwaith adeiladu yn dechrau nes bod manylion/samplau o'r deunyddiau adeiladu i'w defnyddio wedi eu cyflwyno i'r Awdurdod Cynllunio Lleol, a'u cymeradwyo mewn ysgrifen, a bydd yr holl ddeunyddiau sy'n cael eu defnyddio yn cydymffurfio â'r samplau wedi eu cymeradwyo.

Rheswm: Sicrhau bydd golwg allanol y datblygiad arfaethedig yn gweddu i gymeriad yr ardal a'r adeiladau cyfagos er mwyn amwynder gweledol yn unol â Pholisïau AW5 ac AW6, Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.

 

10. Ni fydd unrhyw ddatblygiad yn digwydd nes bod cynllun sy'n nodi'r safleoedd, dyluniad, deunyddiau a'r math o driniaeth ffiniau sydd i'w godi yn cael ei gyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol a'i gymeradwyo'n ysgrifenedig. Rhaid cwblhau'r driniaeth ffiniau cyn meddiannu'r adeilad. Bydd y datblygiad yn cael ei gyflawni yn unol â'r manylion sydd wedi'u cymeradwyo.

Rheswm: Sicrhau bydd y datblygiad newydd yn ddeniadol yn weledol o ran amwynder yn unol â Pholisïau AW5 a AW6, Cynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf.

 

Dogfennau ategol: