Agenda item

Derbyn cwestiynau'r Aelodau yn unol â Rheol 9.2 o Weithdrefn y Cyngor.

 

(Nodwch: Caniateir hyd at 20 munud ar gyfer cwestiynau.)

 

Cofnodion:

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Caple i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“All Arweinydd y Cyngor roi diweddariad ar gynnydd cynllun Cyfnewidfa'r Porth?”

 

Ymatebodd yr Arweinydd drwy nodi fod Carfan Prosiectau'r Cyngor wedi parhau i wneud cynnydd o ran Hwb Trafnidiaeth Porth. Bydd cyfnewidfa bysiau a rheilffyrdd yn cael ei chreu ar safle'r orsaf bresennol a bydd y datblygiad hefyd yn cynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan a gwelliannau pellach ar gyfer y rhwydwaith teithio Llesol.

 

Mae'r safle datblygu eisoes wedi'i glirio a'i baratoi'n ar gyfer y gwaith adeiladu ac yn ddiweddar derbyniodd y Cyngor ganiatâd cynllunio. Mae dyluniad manwl ar gyfer yr Hwb Trafnidiaeth wedi'i gwblhau hefyd. Mae hyn wedi cael ei adolygu a'i gymeradwyo gan gwmni Trafnidiaeth Cymru, sef partner darparu gwasanaethau allweddol y Cyngor, ac mae'r cyfnod tendro ar gyfer adeiladu'r datblygiad wedi dod i ben yn ddiweddar.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor bellach yn cynnal trafodaethau gyda'r contractwr sydd wedi'i ddewis i ddyfarnu'r contract cyn dechrau ar y gwaith adeiladu. Mae dros £5.3miliwn wedi'i ddyrannu ar gyfer y cynllun yn rhan o Gronfa Buddsoddi Ehangach Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Er mwyn cefnogi trefniadau cyllido yn y dyfodol, mae cais wedi'i gyflwyno i Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU; gan nodi Hwb Trafnidiaeth Porth fel prosiect allweddol ar gyfer cyllid.

 

I gloi, nododd yr Arweinydd ei fod wedi cwrdd â Robert Jenrick, yr Ysgrifennydd Gwladol dros faterion Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, yn ddiweddar yn ystod ymweliad â Threorci. Roedd y cyfarfod yn gadarnhaol iawn ac roedd ganddo ddiddordeb yn y cynigion.

 

Cwestiwn ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G.Caple:

“All yr Arweinydd ddweud rhagor am y buddsoddiad ar gyfer ardal Porth yn rhan o’r Strategaeth Canol Tref?”

Dywedodd yr Arweinydd fod yr Hwb Trafnidiaeth yn rhan allweddol o Strategaeth Canol Tref Porth, gan gydnabod y rôl strategol allweddol y mae'r ardal yn ei chwarae fel cyffordd rhwng ardal Cwm Rhondda Fach ac ardal Rhondda Fawr, gan ddarparu profiad gwell o ran trafnidiaeth i ddefnyddwyr y bysiau a'r rheilffyrdd.

Tynnodd yr Arweinydd sylw at gyfres o brosiectau buddsoddi eraill sy'n cael eu gweithredu ar hyn o bryd yn ardal Porth, fel y cynlluniwyd yn Strategaeth Canol Tref Porth:

 

  • Mae'r cyfleuster Parcio a Theithio cyfagos yn cael ei ehangu, gan ategu manteision yr Hwb Trafnidiaeth, trwy gynyddu nifer y mannau parcio ac ychwanegu cyfleusterau gwefru ar gyfer cerbydau trydan.

 

  • Mae Grant Cynnal a Chadw Canol Tref y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus wrth gefnogi nifer o fusnesau i wella blaenau'u siopau er mwyn gwella'r dref, tra bod Wi-Fi am ddim wedi bod ar gael i ymwelwyr a masnachwyr ers mis Medi'r llynedd.

 

  • Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn gweithio i ddefnyddio grant Creu Lleoedd Llywodraeth Cymru yn ardal Porth i sicrhau bod adeiladau gwag yng Nghanol y Dref yn cael eu defnyddio eto.

 

  • Cafodd Plaza'r Porth ei ddatblygu i gynnig lle i ystod eang o swyddogaethau cymorth i'r gymuned a chydnerthedd, gan gynnwys llyfrgell, gwasanaeth IBobUn a chyngor a chymorth cyflogaeth.

 

  • Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynnig lle i ddarpariaeth tai gofal ychwanegol.

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Lewis i Arweinydd y Cyngor – Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“All yr Arweinydd roi diweddariad ar y gwaith i fwrw ymlaen â'r adroddiadau Adran 19 mewn perthynas â llifogydd Chwefror 2019?”

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd fod adroddiadau sy'n ystyried yr ymchwiliadau corfforol a thechnegol a gynhaliwyd ynghyd â gwybodaeth a gasglwyd wrth siarad â'r cyhoedd yn y gymuned yn cael eu llunio ar hyn o bryd, a hynny yn dilyn y gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd a gafodd ei gynnal ledled RhCT ym mis Ionawr 2021 yn ogystal â'r ymateb gan y cyhoedd.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid megis Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ynghylch sut y gellir prosesu adroddiadau yn y dyfodol gan fod angen cwblhau 19 adroddiad o dan Adran 19 o'r Ddeddf Rheoli Llifogydd a D?r. Mae hyn yn gofyn am lawer iawn o amser gan swyddogion yn ogystal ag amser i ymgynghori. Fodd bynnag, cyhoeddodd y bydd y Cyngor yn cyhoeddi'r adroddiad Adran 19 cyntaf ar ddechrau mis Gorffennaf 2021. 

 

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ynghyd ag adroddiad trosolwg sydd hefyd yn cynnwys manylion y gwaith ymchwil mewn perthynas â llifogydd fydd yn cael ei gynnal. 

 

Y bwriad yw cyhoeddi manylion ynghylch yr adroddiadau sy'n weddill yn rheolaidd dros y misoedd nesaf hyd nes y bydd pob adroddiad wedi'i gyhoeddi.  Bydd angen ymgynghori'n fanwl ag Awdurdodau Rheoli Risg eraill mewn perthynas â rhai o'r adroddiadau hyn felly ni allwn gadarnhau trefn cyhoeddi'r adroddiadau.

 

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Lewis:

 

“All yr Arweinydd ddarparu trosolwg o’r buddsoddiad ar gyfer prosiectau sy’n gysylltiedig â llifogydd ers Storm Dennis?”

 

 

 

Amlinellodd yr Arweinydd y buddsoddiad cyllid grant a wariwyd dros y 5 mlynedd diwethaf a chynllun gwaith y cytunwyd arno mewn egwyddor gyda Llywodraeth Cymru.

 

Mae hyn wedi cynnwys buddsoddiad sylweddol ar gyfer Cwm Rhondda, yn benodol, bydd ardal Pentre yn elwa o nifer o gynlluniau, tra bod cynlluniau hefyd wedi'u cyhoeddi ar gyfer ardal Ynys-hir ac ardal Porth yn ddiweddar.

 

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R Yeo ar gyfer yr Aelod o’r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Cymuned i Oedolion a’r Gymraeg, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G.Hopkins:

 

“A wnaiff yr Aelod o'r Cabinet ddatganiad ar drefniadau ymweld â chartrefi gofal ledled y Sir?”

Dywedodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol G Hopkins fod Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau diweddaraf ynghylch ymweld â chartrefi gofal a bod y newidiadau wedi dod i rym ar 24 Mai 2021 - disgwylir y bydd modd ymweld â chartrefi yn dilyn asesiad risg. Mae hyn yn cynnwys ymweliadau awyr agored ac eithrio os bydd achosion yn codi yn y cartref gofal.

Mae'r cyfyngiadau o ran nifer yr ymwelwyr yn gyffredinol wedi'u llacio, mae modd i hyd at ddau berson ymweld â phreswylydd y tu mewn i'r cartref - nid oes angen iddynt fod yn ymwelwyr dynodedig bellach. Mae'r canllawiau hefyd wedi'u diwygio i dynnu sylw at bwysigrwydd hawliau pobl i breifatrwydd yn ystod ymweliadau, a bod angen i ddarparwyr cartrefi gofal fod yn fwy hyblyg o ran pennu amseroedd ymweld ynghyd ag egluro y gall ymweliadau ddigwydd yn ystafelloedd y preswylwyr eu hunain, os nad yw ystafell ymweld ddynodedig ar gael.

Ychwanegodd y Cynghorydd Hopkins fod gallu gweld perthnasau a ffrindiau yn bwysig ar gyfer preswylwyr y cartrefi gofal a'u teuluoedd, a bod y Cyngor a darparwyr cartrefi gofal a gomisiynwyd yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod ymweliadau dan do mor ddiogel â phosibl. Cyn ymweld ag unrhyw gartref gofal, rhaid i berthnasau a ffrindiau gysylltu â'r cartref gofal perthnasol i gadarnhau pa drefniadau sydd ar waith. Roedd y Cynghorydd wedi sôn am yr angen i sicrhau bod ymweliadau'n cael eu gweithredu mewn ffordd sy'n bodloni holl ofynion canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Hopkins fod yn rhaid i berthnasau a ffrindiau gysylltu â'r cartref yn gyntaf a rhaid iddynt gyflawni Prawf Llif Unffordd Covid-19 cyn cael caniatâd i fynd i mewn. Cewch chi'r canlyniad cyn pen 30 munud.

Rhaid gwisgo gorchudd wyneb wrth ddod i mewn i'r cartref, a rhaid i ymwelwyr ddilyn yr holl reolau o ran cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo a Chyfarpar Diogelu Personol lle mae'n debygol y bydd cysylltiad agos sylweddol â'r preswylydd, ac yn enwedig pan fydd risg uwch o ran trosglwyddo'r haint.

Dywedodd y Cynghorydd Hopkins fod yn rhaid i berthnasau a ffrindiau peidio ag ymweld â'r cartref os oes ganddyn nhw symptomau, os ydyn nhw wedi cael prawf positif neu'n aros am ganlyniad prawf, neu'n gyswllt agos ag achos positif o Covid-19. Dylai pawb ddilyn canllawiau hunanynysu Llywodraeth Cymru. Os bydd achos o Covid yn y cartref gofal, dylai'r cartref roi'r gorau i drefnu ymweliadau ar unwaith (ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol fel ymweliad diwedd oes - ac i ddarparwyr gofal hanfodol) i ddiogelu'r preswylwyr, staff ac ymwelwyr sy'n agored i niwed.

I gloi, pwysleisiodd y Cynghorydd Hopkins fod staff yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw'u hanwyliaid a'r preswylwyr yn ddiogel, felly mae'n bwysig bod y cyhoedd yn gweithio gyda nhw i leihau'r perygl.

 

Cwestiwn Ategol gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol R.Yeo:

“Os daw’n amlwg bod pigiadau atgyfnerthu'n gwneud gwahaniaeth, sut ydyn ni'n sicrhau bod ein cartrefi gofal yn cael eu blaenoriaethu?”

Dywedodd y Cynghorydd Hopkins fod Strategaeth Brechu Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud cynnydd rhagorol ac mae'n bwysig dilyn yr un dull synhwyrol a ddilynwyd yn ystod cam 1 a 2. Ychwanegodd ei fod yn rhagweld dull tebyg yn cael ei weithredu ar gyfer Cam 3 o ran sut rydym yn cynnal imiwnedd i amddiffyn pobl a hynny gan ddilyn cyngor gwyddonol.

 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol G. Thomas i Arweinydd y Cyngor, Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Morgan:

 

“A wnaiff yr Arweinydd roi diweddariad ynghylch unrhyw raglenni wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â'r broblem o lifogydd parhaus ar Ffordd y Rhigos?"

 

Roedd yr Arweinydd wedi ymateb drwy nodi fod nifer o broblemau ar Ffordd y Rhigos wedi derbyn sylw ac mae Adrannau Peirianneg y Cyngor wedi bod yn llunio cynigion er mwyn lliniaru'r llifogydd sy'n digwydd yn aml yn ardal Ffordd y Rhigos. 

Mae gwaith llunio'r cynigion yn mynd rhagddo, fodd bynnag, mae'r ffaith fod nifer o gyfleusterau BT yng nghyffiniau'r gwaith yn effeithio ar y rhaglen ar hyn o bryd. O ganlyniad i hynny, bydd gwaith pellach yn cael ei wneud yn ystod y 2-3 wythnos nesaf gyda BT i ganiatáu i'r prif ddarn o waith gychwyn. Y bwriad yw cychwyn gwaith ar y safle yn ystod Hydref 2021.

Dywedodd yr Arweinydd fod y Cyngor wedi gwneud cais i Gronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021/22 a'u bod wedi llwyddo i sicrhau grant ar gyfer 90% o gostau'r prosiect.  

Daeth yr Arweinydd i ben drwy nodi fod stormydd Chwefror 2020 yn cynrychioli digwyddiad storm sy'n digwydd unwaith mewn 100 mlynedd ac ers yr amser hwnnw bu cynnydd o 20% yn yr holl fuddsoddiadau newydd ers Storm Callum.


 

Cwestiwn gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Trask i'r Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth - Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings:

 

“All yr Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Gwasanaethau Treftadaeth wneud datganiad ar strategaeth bioamrywiaeth y Cyngor fel rhan o’i agenda werdd?”

 

Dywedodd y Cynghorydd A Crimmings, ei bod hi'n effro i'r ffaith bod nifer wedi derbyn ymholiadau dros yr wythnosau diwethaf ond y byddai'n manteisio ar y cyfle i ddarparu ateb manwl er budd yr holl Aelodau.

 

Mae gweithdrefn Dyletswydd Bioamrywiaeth y Cyngor wedi nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu a gwella trwy gyflawni swyddogaethau'r Cyngor. Er enghraifft, mae'r amcan o leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd a sefydlu'r Pwyllgor Llywio ar Faterion Newid yn yr Hinsawdd wedi arwain at ddatblygu dull Asedau Byd Natur, lle mae camau gweithredu bioamrywiaeth â blaenoriaeth hefyd yn darparu gweithredu ymarferol a hirdymor i helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

 

Yn gynnar yn 2020, cymeradwyodd Aelodau'r Cabinet y Polisi Rheoli Glaswellt Blodau Gwyllt. Mae'r polisi yma'n cael ei ddefnyddio erbyn hyn i nodi ardaloedd blodau gwyllt wrth ymyl y ffordd, parciau, mynwentydd, cefn gwlad ac ysgolion. Mae ardaloedd blodau gwyllt yn cael eu gadael i flodeuo yn yr haf ac yna mae'r glaswellt yn cael ei “dorri a'i gasglu” yn yr hydref.  Mae'r dull rheoli yma'n creu “dolydd gwair” ac yn darparu'r amodau delfrydol ar gyfer blodau gwyllt brodorol.

 

Trwy newid y dull rheoli, mae lefelau maetholion y pridd yn gostwng, ac mae'r blodau gwyllt brodorol yn ffynnu, sy'n darparu cynefin bwydo a chysylltu pwysig ar gyfer pryfed sy'n peillio. O ganlyniad i hyn, mae'n helpu i leihau effeithiau hirdymor newid yn yr hinsawdd ar fioamrywiaeth leol. Mae modd i natur twmpathog glaswelltiroedd blodau gwyllt hefyd helpu i amsugno ac arafu d?r wyneb ac mae lleihau'r nifer o weithiau y mae'r glaswellt yn cael ei dorri hefyd yn lleihau faint o bridd sy'n cael ei gywasgu.

 

Felly, mae rheoli blodau gwyllt hefyd yn gwella strwythur llystyfiant ac iechyd y pridd, a gall hyn helpu i leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd ar fywyd gwyllt brodorol ac effeithiau glaw trwm.

 

Ar hyn o bryd mae ymgynghoriad ar-lein o'r enw 'Dewch i Siarad RhCT - Blodau Gwyllt' yn gwahodd trigolion lleol i enwebu ardaloedd y maen nhw'n teimlo y gellid eu rheoli gan ddefnyddio'r dull 'dolydd gwair' ac sy'n darparu gwybodaeth ddefnyddiol o ran pa gamau mae modd eu cymryd i helpu cynnal blodau gwyllt a phryfed brodorol yn eu gerddi eu hunain. Mae'r ymgyrch hon yn dilyn yr ymgyrchoedd blaenorol mewn perthynas â cherbydau trydan ac mae'n rhan o'r sgwrs ehangach ynghylch Newid yn yr Hinsawdd y mae'r Cyngor yn ceisio ei chael gyda'i drigolion ar hyn o bryd.

 

Mae datrysiadau eraill Asedau Byd Natur yn cynnwys y potensial i adfer dulliau storio carbon, megis y rheiny sy'n ymwneud â mawnogydd. Mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Castell-nedd Port Talbot i adfer dros 540 hectar o dirwedd hanesyddol rhwng y ddwy Sir. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu'r tirweddau trawiadol sy'n gyfoethog o ran bioamrywiaeth a hefyd yn lleihau llifogydd yn naturiol ac yn atal tân glaswellt, gan ddefnyddio dull naturiol i adfywio coed i gynyddu coetiroedd, a chynyddu nifer y coed sy'n cael eu plannu yn yr amgylchedd trefol.

 

Daeth y Cynghorydd Crimmings i ben drwy nodi bod yr egwyddor o weithio gyda natur i weithredu mewn modd sy'n gwella amodau ar gyfer bioamrywiaeth a phobl trwy roi  rhagor o wydnwch o ran newid hinsawdd yn enghraifft o sut mae cyflawni bioamrywiaeth strategol yn cael ei integreiddio â chamau gweithredu eraill y Cyngor sy'n cael eu blaenoriaethu. Roedd y Cynghorydd wedi diolch i'r staff sy'n arwain ar y darn yma o waith.

 

Dogfennau ategol: