Agenda item

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n rhannu'r newyddion diweddaraf mewn perthynas â'r cynigion i aildrefnu ysgolion yn ardal ehangach Pontypridd. 

 

Cofnodion:

Darparodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif a Thrawsnewid ddiweddariad i Aelodau'r Cabinet ar y cynigion i ad-drefnu ysgolion yn ardal Ehangach Pontypridd.

 

Soniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro am y cynigion a ganlyn:

 

·       Newid yr ystod oedran o ddisgyblion y mae modd eu derbyn i Ysgol Gyfun y Cardinal Newman Eglwys Gatholig Rhufain, o 11-19 oed i 11-16 oed, gan arwain at ddileu'r ddarpariaeth chweched dosbarth;

·       Cau Ysgol Uwchradd Pontypridd ac Ysgol Gynradd Cilfynydd a chreu ysgol pob oed 3-16 newydd ar safle presennol Ysgol Uwchradd Pontypridd. Fydd dim darpariaeth chweched dosbarth yn yr ysgol yma;

·       Cau Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen ac Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen a chreu ysgol pob oed 3-16 newydd ar safle presennol Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen ac Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen, gyda dosbarth arbenigol ADY dynodedig yr Awdurdod Lleol wedi'i leoli yn Ysgol Uwchradd y Ddraenen Wen, yn ogystal â throsglwyddo disgyblion sy'n derbyn addysg trwy gyfrwng y Saesneg yn Ysgol Gynradd Heol y Celyn i'r ysgol newydd. Fydd dim darpariaeth chweched dosbarth yn yr ysgol yma;

·       Cau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton ac Ysgol Gynradd Heol y Celyn ac agor ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ar safle presennol Ysgol Gynradd Heol y Celyn.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Dros Dro yr Aelodau at Adran 4 yr adroddiad, a thrafododd y newidiadau a oedd wedi digwydd ers i'r Cabinet roi cymeradwyaeth ym mis Gorffennaf 2019. Esboniwyd, yn dilyn oedi, bod gwaith i symud y cynigion yn eu blaenau wedi ailddechrau a bod ymarfer ail-raglennu wedi'i gynnal, a'i ganlyniad oedd y byddai'r dyddiad gweithredu ar gyfer y 3 chynnig a gafodd gymeradwyaeth y Cabinet yn cael ei ohirio tan fis Medi 2024.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ei bod yn anffodus bod yr Adolygiad Barnwrol wedi gohirio cynnydd y cyfleusterau newydd. Dywedodd yr Aelod o'r Cabinet fod y Cyngor yn gyfrifol am ddarparu safonau addysgol uchel a darpariaeth addysg gynradd, uwchradd a chweched dosbarth effeithlon sy'n gwasanaethu'r gymuned leol, ac a gyflawnir trwy sicrhau bod yr ysgolion cywir, o'r maint cywir, yn y lleoliad cywir, ac yn addas ar gyfer dysgwr yr 21ain Ganrif.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu wrth y Cabinet, pe bai'r adroddiad yn cael ei gymeradwyo, y gofynnir am gytundeb gan y Llywydd i eithrio'r adroddiad o'r cyfnod galw i mewn 3 diwrnod gwaith, er mwyn caniatáu ar gyfer cwblhau a chyflwyno'r Achosion Busnes Amlinellol i Lywodraeth Cymru erbyn Gorffennaf 2021, ar gyfer cam nesaf y cyllid ar gyfer Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi'r wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad;

2.    Nodi effaith yr Adolygiad Barnwrol ar y rhaglen a'r costau;

3.    Gohirio dyddiad gweithredu'r cynigion ym mhob ysgol, ac eithrio Ysgol Gyfun Gatholig Cardinal Newman, hyd at fis Medi 2024; a

4.    Nodi y bydd Achosion Busnes Amlinellol ar gyfer pob un o'r prosiectau yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru i'w hystyried ym mis Gorffennaf 2021, a disgwylir penderfyniad ym mis Awst 2021.

 

 

 

Dogfennau ategol: