Agenda item

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant, sy'n trafod effaith y posibilrwydd o ymestyn y cynllun Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd sydd ar waith mewn chwe ysgol uwchradd/ysgol pob oed i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â phresenoldeb

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant adroddiad sy'n trafod effaith y posibilrwydd o ymestyn y cynllun Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd sydd ar waith mewn chwe ysgol uwchradd/ysgol pob oed ar hyn o bryd i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud ag ymgysylltu ag addysg.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr, yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ar 13 Chwefror 2020 i ariannu cynllun peilot mewn chwe ysgol uwchradd/po boed, fod rôl y Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd wedi bod yn amhrisiadwy ac wedi cefnogi gwelliant mewn nifer o feysydd allweddol fel presenoldeb a lles dysgwr a theuluoedd. Dywedodd y Cyfarwyddwr, oherwydd pandemig Covid-19, ei bod yn anodd caffael data mewn perthynas ag effaith y rôl ar bresenoldeb ac felly ni ofynnwyd am gyflwyno'r rôl yn llawn, ond roedd y Cyfarwyddwr yn teimlo y byddai'n fuddiol ystyried effaith y rolau yn rhai o'r lleoliadau cynradd gyda disgyblion o ardaloedd amddifadedd uchel sydd â phresenoldeb hanesyddol isel.

 

Yn seiliedig ar system raddio/sgorio syml o'r rheiny sydd â'r ganran uchaf o ddisgyblion sy'n byw yn yr 20% uchaf o gymunedau difreintiedig fel y'u nodwyd ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru, a'u presenoldeb cyffredinol yn y flwyddyn academaidd gyflawn ddiwethaf yn 2018/19 , cynigiodd y Cyfarwyddwr y dylid cynnwys yr ysgolion cynradd canlynol yn y cynllun peilot:

·       Ysgol Gynradd Pont-y-gwaith;

  • Ysgol Gynradd Pen-y-waun;
  • Ysgol Gynradd Gymuned Perthcelyn;
  • Ysgol Gynradd Trealaw;
  • Ysgol Gynradd Gymuned y Maerdy;
  • Ysgol Gynradd Pen-rhys;
  • Ysgol Gynradd Pontrhondda;
  • Ysgol Gynradd Tref-y-rhyg;
  • Ysgol Gynradd Tylorstown;
  • Ysgol Gynradd Heol y Celyn;
  • Ysgol Gynradd Pengeulan;
  • Ysgol Gynradd Pen-pych;
  • Ysgol Gynradd Penrhiw-ceiber;

 

Manteisiodd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ar y cyfle i ddiolch i'r swyddogion am yr adroddiad manwl. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o'r fenter a chydnabu, er gwaethaf yr anallu i fesur gwelliannau mewn presenoldeb oherwydd y pandemig, nododd pob un o'r chwe ysgol uwchradd rywfaint o welliant o ran presenoldeb ac ennyn diddordeb disgyblion.

 

Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn cefnogi'r rhesymeg y manylwyd arni yn yr adroddiad a nododd fod angen parhau â'r rolau yn y sector uwchradd, er mwyn gwella lefelau presenoldeb ac i gefnogi lles. Gan gyfeirio at Atodiad 2 yr adroddiad, roedd yr Aelod o'r Cabinet o'r farn bod cyfiawnhad dros dreialu'r rolau mewn ysgolion cynradd, yn enwedig yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, lle mae'r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar bresenoldeb.

 

Roedd y Dirprwy Arweinydd yn cefnogi'r cynigion a holodd pryd y byddai'r ysgolion ychwanegol yn cael gwybod am y peilot yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Cabinet y cysylltwyd â'r ysgolion a chytunwyd ar yr arian cyfatebol mewn egwyddor, hyd nes y byddai'r Cabinet yn penderfynu.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Blant fod diffyg presenoldeb yn aml yn gysylltiedig â theuluoedd agored i niwed a phwysleisiodd bwysigrwydd y rôl wrth fynd i'r afael â'r gwahanol sefyllfaoedd a brofir gan deuluoedd, a allai wedyn effeithio ar bresenoldeb a lles.

 

PENDERFYNODD y Cabinet:

1.    Nodi'r wybodaeth oedd wedi ei chynnwys yn yr adroddiad;

2.    Cytuno i ymestyn cynllun peilot y Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd mewn chwe ysgol uwchradd/bob oed am gyfnod ychwanegol o 12 mis tan Awst 2021; a

3.    Cytuno i gyflwyno cynllun peilot cynradd am 24 mis mewn tair ar ddeg o ysgolion cynradd.

 

 

Dogfennau ategol: