Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Cyswllt: Kate Spence (Democratic Services)  07747485566

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

179.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.

 

Nodwch:

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant canlynol eu gwneud:

 

Datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Lewis fuddiant personol a rhagfarnus mewn perthynas â Chais 21/1453 – Newid defnydd o swyddfa i glinig milfeddygol.

Swyddfa Plaid Lafur y Rhondda, T? Rhydychen, Stryd Dunraven, Tonypandy

 

“Mae'r ymgeisydd yn frawd i mi”

 

 

180.

DEDDF HAWLIAU DYNOL 1998 A PHENDERFYNIADAU RHEOLI DATBLYGU

Nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu materion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi y dylai Aelodau o'r Pwyllgor, wrth benderfynu ar faterion rheoli datblygu ger eu bron, roi sylw i'r Cynllun Datblygu ac, i'r graddau y bo hynny yn berthnasol, i unrhyw ystyriaethau perthnasol eraill. Rhaid i Aelodau, wrth ddod i benderfyniadau, sicrhau nad ydyn nhw'n gweithredu mewn modd sy'n anghyson â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel y'i hymgorfforwyd mewn deddfwriaeth gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998.

 

 

181.

DEDDF LLESIANT CENEDLAETHAU’R DYFODOL (CYMRU) 2015

Nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i gynnal datblygiadau cynaliadwy yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy, ac i weithredu mewn modd sy'n anelu at sicrhau y caiff anghenion y presennol eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion nhw.

 

 

182.

COFNODION 02.12.21 pdf icon PDF 475 KB

Cadarnhau cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr, 2021.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2021 yn rhai cywir.

 

183.

NEWID I DREFN YR AGENDA

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor y byddai'r agenda yn cael ei hystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.

 

 

 

184.

CAIS RHIF: 21/1198 pdf icon PDF 302 KB

Adeiladu 4 t? ar wahân a gwaith cysylltiedig (Derbyniwyd cynllun ffin llinell goch diwygiedig 14/12/21)

Tir ger Meddygfa'r Parc, Stryd Windsor, Trecynon, Aberdâr

 

 

Cofnodion:

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD gohirio'r cais er mwyn cynnal Ymweliad Safle gan y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu, er mwyn ystyried effaith y datblygiad arfaethedig o ran parcio a diogelwch y priffyrdd cyfagos.

 

 

 

 

185.

CAIS RHIF: 21/1480 pdf icon PDF 168 KB

Gosod adeilad ystafell ddosbarth dros dro.

Ysgol T? Coch, Buarth-y-Capel, Ynys-y-Bwl, Pontypridd

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

186.

CAIS RHIF: 21/0874 pdf icon PDF 190 KB

Ailraddio tir i ddarparu man gwastad ar gyfer hyfforddi ceffylau'r Ymgeisydd

Tir y tu ôl i 8 Brynderwen, Cilfynydd, Pontypridd

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

 

187.

CAIS RHIF: 21/1453 pdf icon PDF 152 KB

Newid defnydd o swyddfa i glinig milfeddygol.

Swyddfa Plaid Lafur y Rhondda, T? Rhydychen, Stryd Dunraven, Tonypandy

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth Materion Cynllunio y cais i'r Pwyllgor. Ar ôl trafod y cais, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu.

 

(Nodwch: Ar yr adeg yma, gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Barton y cyfarfod 3.25pm)

 

(Nodwch: Ar ôl datgan buddiant yn y cais uchod (Cofnod Rhif 179), gadawodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol W. Lewis y cyfarfod ar gyfer yr eitem yma.)

 

 

188.

GWYBODAETH I AELODAU SY'N YMWNEUD Â'R CAMAU GWEITHREDU WEDI'U CYMRYD O DAN BWERAU DIRPRWYEDIG pdf icon PDF 98 KB

Rhoi gwybod i'r Aelodau am y canlynol, am y cyfnod 03/01/2022 – 14/01/2022

 

Penderfyniadau Cynllunio a Gorfodi – Apeliadau a Dderbyniwyd.

Penderfyniadau Dirprwyedig, Ceisiadau wedi'u Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda Rhesymau.

Trosolwg o Achosion Gorfodaeth.

Gorfodi Penderfyniadau Dirprwyedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNODD yr Aelodau dderbyn adroddiad Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Materion Cynllunio – mewn perthynas â Phenderfyniadau Apeliadau Cynllunio a Gorfodi a oedd wedi dod i law, Ceisiadau wedi eu Cymeradwyo a'u Gwrthod gyda rhesymau trwy'r drefn Penderfyniadau wedi'u Dirprwyo, Crynodeb o'r Achosion Gorfodi a Phenderfyniadau Gorfodi trwy'r drefn Ddirprwyo ar gyfer y cyfnod 03/01/2022 hyd at 14/01/2022.