Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

10.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â'r

Cod Ymddygiad.

Nodwch:

1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr eitem mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

Cofnodion:

Doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â’r agenda.

 

11.

Dolenni Ymgynghori

Gwybodaeth mewn perthynas ag ymgynghoriadau perthnasol i'w hystyried gan y Pwyllgor.

Cofnodion:

Rhoddodd y Blaen Swyddog Craffu wybod i'r Aelodau am yr ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd er mwyn i Aelodau ddarparu adborth os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny.  Nododd hefyd bod modd i Aelodau gysylltu â'r Garfan Craffu os ydyn nhw'n dymuno cael rhagor o wybodaeth.

 

12.

Cofnodion pdf icon PDF 120 KB

Derbyn cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 04.07.2022 a 20.07.2022 i'w cymeradwyo

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD: Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2022 a 20 Gorffennaf 2022 fel cofnod gwir a chywir o’r cyfarfod

 

13.

Adroddiad Cyflawniad y Cyngor - Chwarter 1 (2022/23) pdf icon PDF 2 MB

Cyflwyno Adroddiad Cyflawniad Chwarter 1 y Cyngor (hyd at 30 Mehefin 2022)

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu adroddiad i'r Aelodau. Roedd yr adroddiad yma'n rhoi cyfle i Aelodau graffu ar gyflawniad ariannol a gweithredol y Cyngor yn ystod Chwarter 1 (hyd at 30 Mehefin 2022)

 

Yna, tynnodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella sylw at bwyntiau allweddol yr adroddiad. Rhoddodd wybod i Aelodau bod y sefyllfa o ran y Gyllideb Refeniw yn y chwarter cyntaf yn rhagamcanu gorwariant o £10.45miliwn, sydd llawer yn uwch na blynyddoedd blaenorol.  Ychwanegodd fod y rhagamcaniad yn ystyried y cynnydd amcangyfrifiedig ar gyfer gwasanaethau megis y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, costau chwyddiant ychwanegol megis gwasanaethau cludiant ysgol a llai o bobl yn manteisio ar wasanaethau, megis y Gwasanaethau Hamdden, wrth i bobl barhau i ymadfer yn dilyn effaith pandemig Covid-19 ac argyfwng costau byw’r DU.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella ymlaen i ddweud bod y buddsoddiad Cyfalaf ar 30 Mehefin 2022 yn cyfateb i £13.842miliwn, gyda nifer o gynlluniau yn cael eu hail-broffilio yn ystod y chwarter i adlewyrchu'r newid o ran costau ac amserlenni cyflawni wedi'u diweddaru, mae cyllid grant allanol newydd sydd wedi'i gymeradwyo yn ystod y chwarter hefyd wedi'i gynnwys yn rhan o'r rhaglen. Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ati i drafod yr adroddiad yn ei gyfanrwydd ac yna croesawodd sylwadau a chwestiynau gan Aelodau.

 

Cyfeiriodd Aelod at golli staff y Gwasanaethau Cymuned gan holi pam eu bod nhw wedi gadael.  Gofynnodd Aelod arall am eglurhad ynghylch sut y byddai modd cyflogi staff newydd (yn lle'r staff sydd wedi gadael) gan ystyried yr arbedion cyllidebol sydd eu hangen.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella fod staff wedi gadael oherwydd salwch ac ymddeoliad, neu'n syml, maen nhw wedi dewis gadael y sefydliad.  Cadarnhaodd fod gweithdrefnau AD ar waith pan fydd aelod o staff yn gadael, mae'r rhain yn cynnwys cyfweliadau ymadael fel bod modd i'r sefydliad ddysgu o brofiadau'r unigolion yma. Aeth ymlaen i ddweud bod y Cyngor yn ystyried dulliau mwy effeithlon o weithio o hyd, gan gynnwys dulliau trawsnewid digidol a gweithdrefnau gweithio gartref.  Roedd yn cydnabod bod hyn yn anoddach mewn lleoliadau fel ysgolion oherwydd nifer yr athrawon a natur eu gwaith, felly yn gyffredinol caiff athrawon newydd eu penodi yn lle'r athrawon sy'n gadael.  Dywedodd wrth yr Aelodau fod trefniadau gwych ar waith o ran cynllunio'r gweithlu, ac mae'r Cyngor yn ymgysylltu â'n prentisiaid, swyddogion graddedig, ysgolion a phrifysgolion yn barhaus gan weithredu dull sy'n canolbwyntio ar feithrin talent yn fewnol.  Ychwanegodd y byddai modd defnyddio asiantaethau lle bo angen.  Fodd bynnag, aeth ymlaen i gydnabod bod y bwlch yn y gyllideb yn golygu y bydd y Cyngor yma'n wynebu heriau yn y dyfodol. Mae'r Cyngor yn cyfathrebu â Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Awdurdodau Lleol eraill ar y mater yma.  Aeth ymlaen i ddweud bod y carfanau cyllid hefyd yn gweithio gyda phob deiliad cyllideb i nodi arbedion cyllidebol posibl ar gyfer pob Cyfadran, ynghyd ag adolygiad o ffioedd a chostau.

 

Nododd Aelod fod yna gr?p llywio  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

Diweddariad ar Gynnydd y Cyngor - Archwilio Cymru: Adroddiadau Llamu Ymlaen (Rheoli Asedau’n Strategol a Chynllunio'r Gweithlu) pdf icon PDF 491 KB

Rhannu adroddiadau diweddaraf Archwilio Cymru mewn perthynas â gwasanaethau'r Cyngor â'r Aelodau a rhoi cyfle i Aelodau adolygu'r cynnydd y mae'r Cyngor wedi'i wneud hyd yn hyn o ganlyniad i roi'r argymhellion ar waith.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr adroddiad i'r Aelodau. Roedd yr adroddiad yma’n cyflwyno adroddiadau diweddaraf Archwilio Cymru i'r Pwyllgor mewn perthynas â gwasanaethau'r Cyngor ac yn rhoi cyfle i'r Aelodau adolygu'r cynnydd y mae'r Cyngor wedi'i wneud hyd yn hyn o ran rhoi'r argymhellion ar waith.

 

Yn 2021/22, cynhaliodd Archwilio Cymru archwiliad o drefniadau a dulliau cyffredinol pob Cyngor mewn perthynas â thrawsnewid, addasu a chynnal y gwasanaethau sy'n cael eu darparu.  Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar sut mae'r Cyngor yn mynd i'r afael â hyn mewn perthynas â rheoli'i asedau a'i weithlu mewn modd strategol.

 

Er gwybodaeth, nid oedd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio wedi nodi unrhyw faterion i'w cyfeirio yn ôl at y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ystod ei gyfarfod ar 7 Medi 2022

 

Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella ymlaen i nodi manylion yr adroddiad a oedd yn trafod un argymhelliad gan Archwilio Cymru.  “Mae angen i'r Cyngor sicrhau bod yr egwyddor datblygu cynaliadwy yn llywio ei ddull mewn perthynas â'i holl asedau.  Er enghraifft, dylai'r Cyngor ddatblygu dull gweithredu mwy hirdymor mewn perthynas â'i asedau; a bydd angen i'r Cyngor integreiddio ei weithlu a'i strategaethau digidol yn llawn yn rhan o'r cynlluniau tymor hwy ar gyfer ei asedau”.  Cyfeiriodd yr Aelodau at Atodiad 1a sy'n nodi sut mae'r Cyngor yn ymgymryd â'r camau a fydd yn mynd i'r afael â'r argymhelliad yma.  

 

Holodd Aelod gwestiwn ynghylch pa Bwyllgor sy'n derbyn gwybodaeth am y Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Cyllid a Gwasanaethau Gwella fod gwybodaeth am y mater yma'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu o bryd i'w gilydd wrth iddo gael ei adnewyddu.  Gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol, caiff ei gyflwyno fel eitem eithriedig. 

 

Dywedodd Aelod y byddai modd adolygu dulliau rheoli asedau'r Cyngor, yn enwedig mewn perthynas â dulliau gweithio hybrid a sut caiff hyn ei reoli o ran unigedd a llesiant staff.  Ychwanegodd Aelod arall at hyn a phwysleisiodd bwysigrwydd cadw mewn cysylltiad â staff, yn enwedig y rhai sydd mewn perygl o gael eu hynysu wrth weithio gartref a sicrhau bod eu lles yn cael ei flaenoriaethu.

 

Ymatebodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth trwy ddweud y bydden ni'n disgwyl gweld egwyddorion sy'n cynnwys manteisio i'r eithaf ar asedau ein canol trefi yn rhan o'n Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol i gefnogi adfywiad ein canol trefi.  Gan gyfeirio at Llesiant staff, rhoddodd wybod i'r Aelodau bod gwaith ymgysylltu parhaus yn cael ei gynnal gyda staff, megis arolygon ynghylch gweithio gartref ac yn y swyddfa ac ymgysylltu â charfanau unigol.  Mae meysydd gwasanaeth gwahanol yn rhannu adeiladau ac rydyn ni'n ceisio adborth gan staff yn gyson i sicrhau bod y dull yma'n parhau i fanteisio i'r eithaf ar adnoddau'r Cyngor ac adnoddau o ran staff.

 

Holodd Aelodau a fydd yr Awdurdod yn adolygu'r proffil Cymuned i sicrhau bod asedau'n cael eu dosbarthu'n deg, a hefyd a fyddai lefelau tlodi plant yn cael eu hystyried wrth adolygu'r proffil yma fel bod  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Materion Brys

Cofnodion:

Dim