Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Council Business Unit  01443 424062

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

1.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd a derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings a M. Norris.

 

2.

DATGAN BUDDIANT

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

3.

Cofnodion pdf icon PDF 204 KB

Cadarnhau cofnodion cyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2021 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2021 yn rhai cywir.

 

4.

Strategaeth Ddrafft - Newid yn yr Hinsawdd (2021-2025) Ymatebion i'r Ymgynghoriad pdf icon PDF 169 KB

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr, sy'n nodi canfyddiadau'r ymgynghoriad diweddar mewn perthynas â Strategaeth Ddrafft - Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd y Rheolwr Materion Ymgynghori a Pholisi Corfforaethol ganfyddiadau'r ymgynghoriad diweddar ar  Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Ddrafft y Cyngor â'r Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd.

 

Datblygwyd Strategaeth ddrafft y Cyngor i fynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd i osod cyfeiriad cyffredinol y Cyngor dros y pum mlynedd nesaf, gan ddisgrifio ei weledigaeth, ei bwrpas a'i uchelgais mewn perthynas ag ôl troed carbon y Cyngor a'r ôl troed carbon ar gyfer y Fwrdeistref Sirol. Nodwyd bod y Strategaeth Ddrafft wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus cynhwysfawr dros ddeufis tan 31 Mai 2021.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad a chydnabod y gwaith a wnaed i sefydlu'r Strategaeth gadarn sydd wedi ymgorffori'r pynciau allweddol gafodd eu trafod yng nghyfarfodydd y Gr?p:

·         Bioamrywiaeth;

·         Gwneud defnydd cymunedol o dir heb ei ddefnyddio/tir gwag;

·         Strategaeth Rheoli D?r;

·         Caffael Cyflenwadau a Gwasanaethau yn Lleol;

·         Dod i ben â'r defnydd o blastigion un-tro yn holl gontractau ac adeiladau'r Cyngor;

·         Ffynnon Dwym Ffynnon Taf; 

·         Teithio/Cludiant;

·         Ansawdd Aer;

·         Cynhyrchu Ynni;

·         Asedau Natur; a

·         Cynlluniau Datblygu Strategol a Lleol.

Roedd un Aelod yn siomedig o nodi lefel ymgysylltiad trigolion, a hynny er gwaethaf yr offer a llwyfannau ar-lein amrywiol mae'r Cyngor yn eu defnyddio ond fe wnaeth gydnabod bod cyfyngiadau i broses ymgynghori ddigidol yn ystod pandemig. Siaradodd yr Aelod am bwysigrwydd cynnal ymgynghoriad wyneb yn wyneb â thrigolion yng nghanol trefi er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach pan fydd hi'n ddiogel gwneud hynny.

 

Siaradodd yr Aelodau am bwysigrwydd ystyried llwyfannau amrywiol ar y cyfryngau cymdeithasol, e.e. Instagram, Facebook, Twitter, ynghyd â defnyddio dulliau mwy traddodiadol, megis e-byst a llythyrau i ymgysylltu ag ystod eang o breswylwyr.

 

Nodwyd bod 100% o ymatebwyr wedi nodi eu pryder am effaith Newid yn yr Hinsawdd yn eu hardal leol a bod 81.9% o ymatebwyr yn teimlo nad oedd gyda nhw ddigon o wybodaeth am effaith newid yn yr hinsawdd. Unwaith eto, fe wnaeth yr Aelodau gydnabod nad oedd yr holl breswylwyr wedi cymryd rhan yn yr arolwg i roi darlun llawn ond cytunwyd y byddai'r wybodaeth yn sylfaen gadarnhaol i'r Cyngor adeiladu arni wrth i'r ddealltwriaeth gyffredinol o newid yn yr hinsawdd ddatblygu.

 

Pwysleisiodd yr Aelodau bwysigrwydd parhau i ymgysylltu, addysgu a chynnwys preswylwyr wrth drafod Newid yn yr Hinsawdd.

 

PENDERFYNODDGr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd:

1.    Nodi a thrafod yr adborth a ddaeth i law ar gyfer Strategaeth ddrafft y Cyngor i fynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd; a

2.    Gofyn i Swyddogion ddefnyddio'r adborth i lywio datblygiad y Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd derfynol.

 

5.

Cynllun Ôl troed Carbon y Cyngor - Y Diweddaraf pdf icon PDF 145 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor, sy'n rhoi diweddariad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd mewn perthynas â'r gwaith sydd ar y gweill o ran prosiect i feithrin dealltwriaeth o Ôl-troed Carbon gweithgarwch Cyngor Rhondda Cynon Taf a sut mae'n berthnasol i ymrwymiadau ehangach y Cyngor o ran Net Sero a Lleihau Carbon. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Pennaeth Rheoli Prosiectau Ynni roi diweddariad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd mewn perthynas â'r gwaith sydd ar y gweill o ran prosiect i feithrin dealltwriaeth o Ôl troed Carbon gweithgarwch Cyngor Rhondda Cynon Taf a sut mae'n berthnasol i ymrwymiadau ehangach y Cyngor o ran cyrraedd Sero Net a Lleihau Carbon. 

 

Tynnodd y swyddog sylw'r Aelodau at Adran 4 yr adroddiad, a oedd yn manylu ar y camau a gymerwyd i gyfrifo proffil Ôl troed Carbon Cyngor RhCT yn ystod y Flwyddyn Ariannol 2019-2020. Cafodd yr Aelodau wybod bod cyfanswm amcangyfrifedig yr ôl troed ar gyfer Rhondda Cynon Taf (RhCT) yn ystod y Flwyddyn Ariannol 2019/20 yn 105,257tCO2e a bod modd ei rannu'n dri maes, yn ôl y Protocol Nwyon T? Gwydr:

 

·         Maes 1: Allyriadau uniongyrchol sy'n gysylltiedig â defnyddio nwy naturiol mewn adeiladau, tanwydd a ddefnyddir gan gerbydau'r Cyngor, ac oeryddion a thanwydd eraill (17,888 tCO2e);

·         Maes 2: Allyriadau anuniongyrchol sy'n gysylltiedig â thrydan wedi'i brynu mewn adeiladau (6,360 tCO2e); a

·         Maes 3: Allyriadau anuniongyrchol sy'n gysylltiedig ag allyriadau deunyddiau, gan gynnwys nwyddau a gwasanaethau sydd wedi'u caffael, nwyddau cyfalaf, gweithwyr yn cymudo, teithio ar gyfer busnes, allyriadau cychwynnol o weithgareddau Maes 1 a 2, adeiladau ar brydles a'r defnydd o dd?r yn ystod Blwyddyn Ariannol 19/20 (81,009 tCO2e).

 

Cafodd yr Aelodau wybod am y bwriad ar gyfer y camau nesaf a nodwyd y byddai diweddariadau pellach yn cael eu rhannu â'r Gr?p Llywio yn y dyfodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am y diweddariad ar ddata Ôl troed Carbon y Cyngor. Gofynnodd y Gr?p Llywio am y data yma mewn cyfarfod blaenorol. Dywedodd y Cadeirydd fod y data yn onest ac y byddai'n chwarae rhan annatod wrth leihau'r ôl troed carbon yng ngwahanol feysydd y Cyngor.

 

Gan gyfeirio at y 'Canllaw sector cyhoeddus Cymru ar gyfer adrodd ar garbon sero-net' sylweddol gan Lywodraeth Cymru, nododd un Aelod y byddai'r broses ar gyfer adrodd yn ffurfiol â goblygiadau sylweddol i rwymedigaethau adrodd Carbon Cyngor RhCT yn y dyfodol a hefyd i rai agweddau ar y prosiect Ôl troed Carbon. Holodd a oedd cyfle i rannu arfer gorau ag Awdurdodau Lleol eraill. Dywedodd y swyddog fod y gwahanol ddyddiadau cau yn y canllawiau ar gyfer adrodd yn cael eu hystyried yn anymarferol gan lawer o Awdurdodau Lleol a'r gobaith oedd y byddai'r rhain yn cael eu diwygio yn y dyfodol agos. Sicrhawyd yr Aelodau bod swyddogion yn cwrdd yn rheolaidd â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru ac yn mynychu cyfarfodydd Consortiwm Awdurdodau Lleol Cymru ar gyfer awdurdodau De Ddwyrain Cymru, sy'n caniatáu i gymheiriaid gwrdd yn rheolaidd a rhannu gwybodaeth ar draws y 22 Awdurdod Lleol.

 

Roedd un Aelod yn falch o nodi bod allyriadau anuniongyrchol sy'n gysylltiedig ag allyriadau corfforedig wedi'u cynnwys. Cwestiynodd yr Aelod a oedd y Cyngor yn ystyried pob prosiect a siaradodd am y costau ynghlwm â defnyddio ynni sy'n gysylltiedig â gweithredu mesurau tawelu traffig 20MPH ledled y Fwrdeistref Sirol yn ddiweddar. Teimlai'r Aelod  ...  view the full Cofnodion text for item 5.

6.

Cynlluniau Allweddol ar gyfer Cynhyrchu Ynni a Materion Cysylltiedig pdf icon PDF 138 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor sy'n darparu diweddariad pellach i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd mewn perthynas â'r gwaith sydd ar y gweill o ran datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy a rhai materion eraill sy'n gysylltiedig â Lleihau Carbon.

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor ddiweddariad pellach i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd mewn perthynas â'r gwaith sydd ar y gweill o ran datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy a materion eraill sy'n gysylltiedig â Lleihau Carbon.

 

Darparodd y Cyfarwyddwr fanylion i'r Gr?p Llywio mewn perthynas â'r prosiectau canlynol:

·         Gosod Fferm Solar 5MW;

·         Ffynnon Dwym Ffynnon Taf;

·         Her y Cynllun Arloesi ar gyfer Datgarboneiddio drwy Ymchwil Busnesau i’r System Gyfan (WBRID);

·         Tyrbin Gwynt 1.5MW;

·         Ffermydd Gwynt 9MW;

·         Fferm Wynt 3MW;

·         Prosiect Cerbydau Allyriadau isel iawn (ULEV)

·         Rhaglen Lleihau Carbon; a'r

·         Prosiect Ôl troed Carbon.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr am y diweddariad cynhwysfawr ac roedd yn falch o nodi gweithgorau mewnol y swyddogion sy'n gweithio y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod adroddiadau'n cael eu rhannu â Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd.

 

Roedd y Cadeirydd hefyd yn falch o nodi bod y Cyngor yn edrych ar gyfleoedd i fuddsoddi mewn nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy. Gan gyfeirio at brosiect Ffynnon Dwym Ffynnon Taf, awgrymodd y Cadeirydd y byddai'n fuddiol i'r Gr?p Llywio ymweld â'r prosiect yn y dyfodol, pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.

 

Siaradodd yr Is-gadeirydd yn gadarnhaol am y prosiectau sydd wedi'u nodi yn yr adroddiad. Cwestiynodd yr Aelod a oedd cyfle i'r Cyngor ailedrych ar brosiectau hydro a gafodd eu diystyru yn y gorffennol yn sgil diffyg gwybodaeth a thechnoleg ar y pryd. Cytunodd y Cyfarwyddwr, gyda thechnoleg newydd, y byddai'n bwysig edrych eto ar y prosiectau gafodd eu diystyru a dywedodd y byddai swyddogion yn adolygu'r rhestr ac yn rhoi diweddariad i'r Gr?p Llywio yn y dyfodol.

 

Er ei fod yn gefnogol i gynnwys yr adroddiad, mynegodd un Aelod bryderon na fyddai prosiectau o'r fath yn darparu digon o ynni a soniodd am y dirywiad araf mewn enillion ynni ledled y byd.

 

PENDERFYNODD y Gr?p Llywio:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad yma a'i ddiweddariadau yn rhan o waith parhaus Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd.

2.    Derbyn adroddiad pellach ar Gynllun Arloesi ar gyfer Datgarboneiddio drwy Ymchwil Busnesau i’r System Gyfan (WBRID) os yw'n llwyddiannus yn y cam nesaf; a

3.    Derbyn adroddiadau pellach gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn 2021.

 

7.

Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan a Gweithredu'r Strategaeth pdf icon PDF 125 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor, sy'n rhoi diweddariad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd mewn perthynas â'r gwaith sydd ar y gweill o ran llunio Strategaeth Gwefru Ceir Trydanol a sut mae'n berthnasol i ymrwymiadau ehangach y Cyngor o ran Net Sero a Lleihau Carbon. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Fe wnaeth y Pennaeth Rheoli Prosiectau Ynni roi diweddariad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd mewn perthynas â'r gwaith sydd ar y gweill o ran llunio Strategaeth Gwefru Ceir Trydanol a sut mae'n berthnasol i ymrwymiadau ehangach y Cyngor o ran Sero Net a Lleihau Carbon.

 

Clywodd y Gr?p Llywio bod ymgynghoriad digidol wedi'i gynnal rhwng 19 Ebrill 2021 a 31 Mai 2021 gyda chyfanswm o 325 ymateb i'r arolwg ar-lein, ynghyd â 122 o ymatebion i'r arolwg. Yn ôl y prif ganfyddiadau:

·         Nodwyd 222 o leoedd yn bwyntiau gwefru ceir trydan posibl yn RhCT, trwy'r teclyn ar y wefan;

·         Ar hyn o bryd mae 80% o'r rhai ymatebodd i'r arolwg yn berchen ar 2 gerbyd neu lai;

·         Mae gan 55% o'r rhai ymatebodd i'r arolwg le parcio preifat oddi ar y stryd, ac mae 42% yn parcio ar y stryd;

·         Ar hyn o bryd, nid yw 83% o'r bobl sydd wedi ymateb yn berchen ar gerbyd trydan, a does dim un yn gysylltiedig â'u cartref.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am y diweddariad a nododd y byddai canlyniadau'r ymgynghoriad cychwynnol yn sylfaen ddefnyddiol o ran mesur canfyddiad y cyhoedd o ddyfodol Gwefru Ceir Trydanol.

 

Nododd y Cadeirydd fod y bobl a wnaeth ymateb wedi codi llawer o'r pryderon gafodd eu codi o'r blaen gan y Gr?p Llywio megis dichonoldeb a llawer o heriau sy'n gysylltiedig â gosod pwyntiau gwefru ar draws y Fwrdeistref Sirol. Siaradodd y Cadeirydd am y potensial ar gyfer model 'hybiau' yng nghanol trefi mewn lleoliadau amlwg megis canolfannau hamdden a meysydd parcio a seilwaith cyfagos y lleoliadau i sicrhau'r defnydd gorau o'r pwyntiau.

 

Cododd yr Aelodau bryderon ynghylch y costau ariannol a llygredd sy'n gysylltiedig â cherbydau trydanol ac ar ben hynny, fe wnaeth yr Aelodau drafod y pryderon ynghlwm â phrynu cerbydau trydanol yn sgil y diffyg seilwaith ategol sydd ar gael ar hyn o bryd. Fe wnaeth y swyddog gydnabod y pryderon a phwysleisiodd bwysigrwydd offer gwefru cyflym, a fyddai’n sicrhau bod cerbydau trydan yn gallu cael eu gwefru o fewn cyfnod byr o amser, yn unol â rhoi petrol / diesel mewn cerbyd. Pan ofynnwyd iddo faint o amser, fel arfer, mae'n ei gymryd i wefru cerbyd trydan, dywedodd y swyddog ei bod hi'n dibynnu ar faint y gwefrydd. Esboniwyd y byddai gwefrydd 22KW yn cymryd sawl awr i wefru cerbyd, ond byddai 'gwefrydd cyflym' 50KW yn cymryd tua 15 munud.

 

Gan gyfeirio at y 222 o leoliadau a nodwyd gan breswylwyr yn bwyntiau gwefru ceir trydan posibl yn RhCT, cwestiynodd un Aelod sut y byddai hyn yn cael ei drafod. Dywedodd y swyddog y byddai'r broses gychwynnol yn cynnwys dewis y lleoliadau mwyaf synhwyrol a thargedu'r adnoddau i weddu orau i anghenion y Fwrdeistref Sirol.

 

PENDERFYNODDGr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad diweddaru yma ynghylch y Strategaeth Gwefru Ceir Trydanol yn rhan o waith parhaus Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd; a

Derbyn  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

Cynllun Canopi Gwyrdd y Frenhines 2021-22 pdf icon PDF 143 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned, sy'n rhannu gwybodaeth mewn perthynas â Chynllun Canopi Gwyrdd y Frenhines â'r Aelodau ac sy'n ceisio cefnogaeth y Cyngor er mwyn iddo gymryd rhan yn y fenter hon i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines yn 2022.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhannodd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned fanylion am Gynllun Canopi Gwyrdd y Frenhines gyda Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd a gofynnodd am gymorth i annog y Cyngor i gymryd rhan yn y fenter i ddathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines yn 2022.

 

I nodi'r Jiwbilî platinwm yn 2022, roedd Ei Mawrhydi y Frenhines wedi lansio Canopi Gwyrdd y Frenhines (QGC)i ddathlu 70 mlynedd o wasanaeth i'r Genedl. Mae'r ymgyrch yn canolbwyntio ar rôl coed a choetiroedd o ran gwella'r amgylchedd ac mae'n cynnwys elfennau o blannu cynaliadwy a gwarchod coetir hynafol a choed hynafol.

 

Roedd yr aelodau o blaid y fenter plannu coed unigryw yma a grëwyd i nodi Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi ac yn cydnabod y byddai'r Cyngor yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at flaenoriaeth newid yn yr hinsawdd y Cyngor petai'n cymryd rhan yn y cynllun.

 

Siaradodd aelodau’r Gr?p am yr angen i swyddogion weithio gydag unigolion a grwpiau cymunedol i anfon neges glir bod ardaloedd a nodwyd ar gyfer plannu coed yn briodol ar gyfer eu trin a gofalu amdanyn nhw yn y dyfodol.

 

Soniodd un Aelod am yr angen i ymgysylltu â chymunedau i drafod buddion posibl gwahanol rywogaethau o goed, megis lefelau atafaelu carbon, y gallu i fod yn gynefin i fywyd gwyllt yn y dyfodol a'r gallu i ddarparu bwyd i bobl.

 

Awgrymodd yr Aelodau y dylid ystyried Parc Coffa Ynysangharad yn faes blaenoriaeth, gan fod yr ardal wedi colli llawer o goed.

 

Yn ystod trafodaethau blaenorol, roedd Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd wedi nodi bod amddiffyn y coetir presennol, gan gynnwys coetir hynafol, o fewn RhCT yn flaenoriaeth.  Teimlwyd y dylid parhau i wneud hyn a phlannu coed newydd yn RhCT gan ganolbwyntio ar ardaloedd trefol a sicrhau'r buddion o ran hinsawdd mwyaf i drigolion lleol, heb fygwth elfennau storio carbon pwysig a chynefinoedd bioamrywiol yng nghefn gwlad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad. PENDERFYNODD y Gr?p Llywio:

1.    Drafod y cynnig sydd wedi'i nodi yn yr adroddiad a chynnig sylwadau; a

2.    Bod yr adborth gan y Gr?p Llywio yn cael ei adrodd i'r Cabinet i'w drafod.