Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor  01443 424062

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

10.

Croeso

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb oedd yn bresennol i gyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd gan gyflwyno Mr C Blake a oedd yn bresennol ar ran Croeso i'n Coedwig.

 

11.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.

 

12.

Cofnodion pdf icon PDF 135 KB

Cadarnhau cofnodion cyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2020 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2020 yn rhai cywir.

 

13.

Strategaeth Ddrafft y Cyngor 2021-2025 – Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd pdf icon PDF 222 KB

Trafod adroddiad y Prif Weithredwr, sy'n amlinellu Strategaeth Ddrafft y Cyngor 2021-2025 – Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Weithredwr gyfle i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd drafod Strategaeth Ddrafft y Cyngor - Mynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd, fyddai'n destun ymgynghoriad â thrigolion a busnesau, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cabinet.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod i'r Aelodau bod y gwaith sydd wedi'i gyflawni gan y Gr?p Llywio yn ystod y 18 mis diwethaf wedi'i gyfuno i lunio strategaeth glir er mwyn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, mae hefyd yn mynd law yn llaw â Chynllun Corfforaethol y Cyngor.

 

Tynnodd y Prif Weithredwr sylw'r Gr?p Llywio at Strategaeth Ddrafft Cyngor RhCT - Newid yn yr Hinsawdd ar gyfer 2021-2025, oedd wedi'i chynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad, a chroesawodd unrhyw sylwadau.

 

Dymunodd y Cadeirydd ddiolch i'r Prif Weithredwr am yr adroddiad gan gydnabod ymrwymiad cadarnhaol y Cyngor at gyflawni targedau lleol, cenedlaethol a byd eang mewn perthynas â lleihau lefelau carbon ym mhob un o wasanaethau'r Cyngor ac roedd yn falch o nodi'r targedau uchelgeisiol o ran cyflawni targed Neto Sero 2030.

 

Roedd yr Is-gadeirydd yn gefnogol o'r Strategaeth uchelgeisiol i Fynd i'r Afael â Newid yn yr Hinsawdd a nododd y bydd datblygu'r strategaeth yma'n cyfrannu at y saith nod cenedlaethol, yn benodol o ran Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, Cymru fwy Cydnerth, Cymru Iach a Chymru o gymunedau cydlynus.

 

Nododd un Aelod agwedd uchelgeisiol y Cyngor o ran sefydlu rhwydwaith o fannau gwefru cerbydau trydan ledled y Sir, ysgogi'r farchnad ac ehangu'r ddarpariaeth gwefru, ond roedd yr Aelod hefyd o'r farn y dylai'r Strategaeth ganolbwyntio ymhellach ar gyfleoedd gwefru cerbydau trydan mewn ardaloedd preswyl. Pwysleisiodd yr Aelod bryderon blaenorol a godwyd gan y Gr?p Llywio mewn perthynas â'r anawsterau logistaidd sy'n gysylltiedig â gosod mannau gwefru ar strydoedd sydd heb gyfleusterau parcio oddi ar y stryd a gosod ceblau gwefru ar hyd troedffyrdd.  

 

Roedd yr Aelodau wedi cydnabod y drafodaeth mewn perthynas â'r seilwaith i gefnogi gwaith gosod mannau gwefru cerbydau trydan mewn ardaloedd preswyl gan nodi bod adroddiad manwl wedi'i gynnwys ar yr agenda. Cytunodd yr Aelodau y byddai'r Cyngor yn gweithredu dull cam wrth gam o ganlyniad i'r dechnoleg sy'n newid yn gyson a byddai angen ceisio enghreifftiau  arfer da gan Awdurdodau Lleol eraill yn Y Deyrnas Unedig.

 

Er bod yr adroddiad yn nodi nad oedd unrhyw oblygiadau ariannol a byddai unrhyw fuddsoddiad sydd ei angen i fynd i'r afael â'r blaenoriaethau sy'n destun yr ymgynghoriad yn cael eu hadrodd a'u trafod ar wahân yn rhan o Gynllun Tymor Canolig y Cyngor, aeth un Aelod ati i ganmol y Cyngor am ei fuddsoddiad sylweddol ym maes lleihau Carbon, o ran arbed ynni a gwelliannau i adeiladau.

 

Roedd y Cadeirydd wedi diolch i'r Prif Weithredwr am yr adroddiad gan roi gwybod y bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet yn ystod cyfarfod nes ymlaen yn y mis.

 

PENDERFYNODD Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd:

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad yma a Strategaeth Ddrafft y Cyngor mewn  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu ar Faterion Newid yn yr Hinsawdd pdf icon PDF 985 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, sy'n rhannu'r newyddion diweddaraf am y dull arfaethedig ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu â thrigolion a'r gymuned mewn perthynas â Newid yn yr Hinsawdd. 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu diweddariad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd yngl?n â'r dull o ymgysylltu â'r gymuned a chyfathrebu mewn perthynas â Newid yn yr Hinsawdd. 

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth bwysigrwydd cychwyn sgwrs ehangach gyda'r gymuned mewn perthynas â phwysigrwydd mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd er mwyn annog newid mewn ymddygiad a newid o ran sicrhau cefnogaeth y gymuned, yn ogystal â thargedu sgwrs ynghylch meysydd penodol megis Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd y Cyngor.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth amlinelliad o'r dull rhithwir arfaethedig ar gyfer y drafodaeth barhaus mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd, sydd wedi ystyried yr heriau sy'n gysylltiedig ag ymgysylltu, a oedd wedi codi o ganlyniad i bandemig Covid-19. Rhoddodd y Gr?p Llywio wybod am ddatblygiad y porth Newid yn yr Hinsawdd canolig a'r nod o sefydlu sgwrs barhaus gyda thrigolion, gyda chymorth y Grwpiau Amgylcheddol.

 

Cynigodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth ymgynghoriad 6-8 wythnos o ran Strategaeth Ddrafft y Cyngor mewn perthynas â Newid yn yr Hinsawdd, fyddai'n defnyddio'r dulliau canlynol i godi ymwybyddiaeth:

·       Gwefan 'Dewch i Siarad RhCT', fyddai'n cynnwys dogfennau ar-lein, arolygon, arolygon barn a fideos;

·       Gwefannau cyfryngau cymdeithasol amrywiol;

·       Gweithio mewn partneriaeth gyda grwpiau cymunedol; a

·       Sesiynau ymgysylltu rhithwir amrywiol.

 

Cafodd yr Aelodau wybod am y bwriad i sefydlu cynllun ymgysylltu a chyfathrebu manwl yn gynnar yn ystod Blwyddyn nesaf y Cyngor, fyddai'n cynnwys rhai o ymgyrchoedd y Cyngor wedi'u targedu er mwyn i'r Gr?p Llywio'u trafod.

 

Roedd y Cadeirydd wedi diolch i'r Cyfarwyddwr Gwasanaeth am y Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu a nododd y brwdfrydedd y mae'r trigolion eisoes wedi'i ddangos mewn perthynas â mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Siaradodd y Cadeirydd am y cyfyngiadau cyfredol sydd ar waith o ganlyniad i bandemig Covid-19 a siaradodd am bwysigrwydd sicrhau bod y dull mor hygyrch ag sy'n bosibl ac mor hawdd i'w ddefnyddio ag sy'n bosibl er mwyn sicrhau ei fod yn cyrraedd cynulleidfa ehangach.

 

Siaradodd yr Is-gadeirydd am fanteision cyfathrebu wyneb yn wyneb â thrigolion a defnyddiodd ymgynghoriad y Cyngor mewn perthynas â'r gyllideb fel enghraifft, roedd yn fodlon y byddai'r Cyngor yn defnyddio pob dull posibl i ymgysylltu â'r gymuned ar bwnc pwysig fel hyn. Aeth yr Aelod ymlaen i siarad am strategaeth ymgysylltu flaenorol y Cyngor mewn perthynas ag ailgylchu a phwysleisiodd bwysigrwydd defnyddio'r derminoleg gywir wrth ymgysylltu â thrigolion.

 

Siaradodd un Aelod am bwysigrwydd ymgysylltu â phobl ifanc, y cyfeiriwyd ato yn Adran 4.6 yr adroddiad. Siaradodd yr Aelod am frwdfrydedd a sylwadau gwerthfawr plant a phobl ifanc mewn perthynas ag ymgysylltu ac ailgylchu.

Adleisiodd un Aelod sylw a gafodd ei wneud mewn perthynas â phwysigrwydd ymgysylltu â phobl ifainc, ac awgrymodd rhai meysydd eraill y mae modd i'r Cyngor ei ystyried yn rhan o'r cynllun ymgysylltu:

·       Rhwydwaith llysgenhadon ifainc Cymru ar gyfer newid yn yr hinsawdd;

·       Y potensial i sefydlu Cynulliad Newid yn yr Hinsawdd, fel yr un yn Blaenau Gwent; a'r

·       Cyfle i fanteisio ar becyn hyfforddi Technoleg Amgen ar gyfer  ...  view the full Cofnodion text for item 14.

15.

Isadeiledd Gwefru Cerbydau Trydan: Sbarduno Newid pdf icon PDF 3 MB

Derbyn adroddiad ar y cyd gan Gyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen a Chyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor, sy'n rhannu trosolwg o gynlluniau tymor canolig a hir dymor y Cyngor i ddatblygu isadeiledd gwefru Cerbydau Trydan â'r Gr?p Llywio. Bwriad y cynlluniau yma yw rhedeg ochr yn ochr â gwaith y Fargen Ddinesig mewn perthynas â'r sefyllfa bresennol ynghylch dull arfaethedig RhCT o ran datrysiadau ar gyfer gwefru Cerbydau Trydan ledled y Fwrdeistref Sirol a bydd yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu strategaeth gwefru Cerbydau Trydan ar gyfer y Cyngor.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Eiddo Corfforaethol drosolwg o gynlluniau tymor canolig a hir dymor y Cyngor mewn perthynas â datblygu'r isadeiledd gwefru cerbydau trydan.

 

Yn gyntaf, roedd y Cyfarwyddwr wedi atgoffa'r Gr?p Llywio o'r trafodaethau blaenorol ynghylch adroddiadau sy'n ymwneud â'r sefyllfa o ran allyriadau carbon, trafnidiaeth a'r camau wedi'u nodi i leihau allyriadau o'r fath. Soniodd y Cyfarwyddwr am dystiolaeth yr oedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi'i chyflwyno i Lywodraeth Cymru, a oedd yn rhagweld y bydd nifer y cerbydau trydan trwyddedig yn y DU yn cyrraedd 13.6 miliwn erbyn 2030 ac yn cynrychioli 60% o gyfran y farchnad.

 

Cafodd y Gr?p Llywio wybod am y meysydd gwaith canlynol y mae'r Cyngor eisoes wedi'i gyflawni i leihau allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â Thrafnidiaeth:

·       Briff dylunio ar gyfer yr holl gynlluniau mawr a chynlluniau Band B Ysgolion yr 21ain Ganrif sydd wedi'u diwygio i gynnwys darpariaeth mannau gwefru cerbydau trydan ar gyfer pob cynllun yn y dyfodol;

·       Gosod mannau gwefru cerbydau trydan mewn prosiectau a gwblhawyd yn ddiweddar;

·       Gweithio gydag Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas Ranbarth Caerdydd i gaffael cyllid gwerth £1.3miliwn gan Lywodraeth Cymru yn ystod 2021 i sefydlu rhwydwaith o fannau gwefru cerbydau trydan ar gyfer tacsis ledled y rhanbarth;

·       Gweithio gydag Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas Ranbarth Caerdydd i ddatblygu cynigion i osod mannau gwefru 22KW mewn amrywiaeth o safleoedd sy'n eiddo i'r cyngor ledled y rhanbarth;

·       Arbrofi gyda mannau gwefru hybrid a mannau gwefru cerbydau trydan yn ogystal â monitro'r posibilrwydd ar gyfer datrysiadau tanwydd mewn perthynas â cherbydau fflyd, megis hydrogen; a

·       Archwilio'r posibilrwydd o osod canopïau solar yn y maes parcio yn un o ganolfannau hamdden y Cyngor, gyda'r cyfle i gynnwys mannau gwefru Cerbydau Trydan yn y cynllun os yw'r cynllun yn cael ei weithredu.

 

Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at Adran 5 o'r adroddiad, sy'n nodi manylion y cynnydd sydd wedi'i wneud gan Awdurdodau Lleol cyfagos a'r sector preifat. Mae nifer ohonyn nhw wedi sicrhau darpariaeth o fannau gwefru cerbydau trydan ar gyfer trigolion a chwsmeriaid.

 

Siaradodd y Cyfarwyddwr am yr angen i ddatblygu Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan y Cyngor gyda nodau tymor byr, tymor canolig a hir dymor i fynd i'r afael â gofynion RhCT yn y dyfodol a dywedodd y byddai'r strategaeth yn sefyll ochr yn ochr â pholisïau cynllunio newydd a fabwysiadwyd o fewn y Cyngor ond y byddai angen adolygu a diweddaru'r rhain yn unol â mentrau rhanbarthol a/neu'r galw ar gyfer mannau gwefru cerbydau trydan yn y dyfodol. Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai'r Cyngor, lle bo hynny'n bosibl, yn ceisio archwilio unrhyw gyfleoedd cyllido i gyflawni'r newid yn llwyddiannus.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr a'r swyddogion am yr adroddiad manwl. Soniodd y Cadeirydd am y cynnydd yn y galw am gerbydau trydan ymhlith trigolion ac roedd yn falch o nodi dull rhagweithiol y Cyngor i fodloni gofynion defnyddwyr yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Siaradodd yr Is-gadeirydd yn gadarnhaol am y gwaith y mae'r Cyngor wedi'i wneud i leihau allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â chludiant ac roedd yn arbennig o falch o  ...  view the full Cofnodion text for item 15.

16.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn rhai brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Cofnodion:

 Gyda chytundeb y Cadeirydd, cafodd y diweddariadau canlynol eu rhannu â'r Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd:

 

·       Rhoddodd Mr C Blake ddiweddariad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd mewn perthynas â Phrosiect Rhondda Skyline. Rhoddodd Mr Blake wybod i'r Gr?p Llywio bod y cytundeb cychwynnol i sicrhau 84 hectar o goetir er mwyn i'r gymuned ei ddefnyddio yn rhan o gytundeb rheoli 20 blynedd wedi'i gymeradwyo gan Gyfoeth Naturiol Cymru ond cafodd ei wrthod gan yr Archwilydd Cyffredinol. Yn dilyn trafodaethau pellach, roedd dull newydd wedi'i sefydlu mewn egwyddor, i roi cyfle i'r gymuned ddweud ei dweud yn y broses o ddylunio tirwedd fwy o ran adfywio naturiol. Y gobaith oedd y byddai cyllid grant ar gael gan CNC, gyda'r bwriad o ddarparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i'r gymuned o ran cyflawni rhai o'r cynlluniau rheoli coetir llai.

 

·       Rhoddodd y Pennaeth Rheoli Prosiectau Ynni wybod i'r Aelodau am Weithgor Newid yn yr Hinsawdd, sydd wedi'i ddatblygu i gefnogi'r broses o gyflwyno gwaith Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd. Dywedodd y swyddog fod y gweithgor yn cynnwys y swyddogion perthnasol o bob un o feysydd y Cyngor, a fyddai'n gweithio gyda'i gilydd i nodi, cydlynu a gweithredu'r strategaethau. Roedd cyfarfod cyntaf y Gweithgor wedi'i drefnu ar gyfer yr wythnosau nesaf a byddai diweddariad yn cael ei ddarparu yn ystod cyfarfod nesaf Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion Newid yn yr Hinsawdd.

 

·       Rhoddodd y Pennaeth Rheoli Prosiectau Ynni ddiweddariad i'r Gr?p Llywio ar y Prosiect Ôl-troed Carbon. Cafodd yr Aelodau wybod bod y Cyngor wedi bod yn gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Garbon i gael mewnwelediad i Ôl-troed Carbon RhCT. Cafodd Aelodau wybod y bydd diweddariad cychwynnol yngl?n â'r canfyddiadau yn cael eu cyflwyno yn ystod cyfarfod o'r Gr?p Llywio er mwyn pennu ffordd ymlaen.