Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor 01443 424062
Cyfryngau
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Gr?p Llywio ar Faterion yr Hinsawdd, a chydnabu na fu cyfarfod ers cryn amser oherwydd y pandemig byd-eang. Manteisiodd y Cadeirydd ar y cyfle i roi sicrwydd Gr?p Llywio, er gwaethaf yr amgylchiadau anodd, bod swyddogion wedi cynnal momentwm o ran yr agenda Newid Hinsawdd ac uchelgais y Cyngor i ddod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M Norris a'r cynrychiolydd Croeso i'n Coedwig.
|
|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd a gynhaliwyd ar 28 Ionawr 2020 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Ionawr, 2020 yn rhai cywir.
|
|
Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned, sy'n rhoi cyfle i'r Gr?p Llywio drafod materion sy'n ymwneud ag Asedau Naturiol a'r argyfyngau o ran yr hinsawdd a bioamrywiaeth.
Cofnodion: Rhoddodd Ecolegydd y Cyngor adroddiad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd, a oedd yn darparu gwybodaeth ar faterion yn ymwneud ag Asedau Natur a'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr wybodaeth ac roedd ganddo ddiddordeb i nodi'r cyfleoedd i wneud y mwyaf o storio carbon trwy'r asedau naturiol, gan nodi bod RhCT yn ddigon ffodus i gael llu o fioamrywiaeth ar ei stepen drws.
Soniodd y Dirprwy Arweinydd am Gr?p Cymunedol lleol, a blannodd 5000 o fylbiau yn lleol yn ystod y flwyddyn flaenorol. Esboniodd yr Aelod o'r Cabinet fod y Gr?p wedi nodi buddion plannu'r bylbiau ac wedi adfywio'r ddaear yn llwyddiannus i ddod â'r blodau gwyllt naturiol, a oedd gynt yn segur, yn eu holau. Serch hynny, soniodd yr Aelod o'r Cabinet am bwysigrwydd sicrhau bod unrhyw goed a blannwyd mewn ardaloedd penodol yn hylaw ac nad ydynt yn effeithio ar y cwrs d?r. Aeth y Dirprwy Arweinydd ymlaen i bwysleisio'r angen i ymgysylltu â'r gymuned a gyda ffermwyr lleol.
Adleisiodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth sylwadau’r Dirprwy Arweinydd o ran cyfathrebu ac ymgysylltu â’r gymuned. Roedd yr Aelod o'r Cabinet yn falch o nodi bod adrannau mewnol y Cyngor, fel Iechyd yr Amgylchedd, yr adran Gynllunio a'r adran Addysg, wedi cydweithio'n dda.
Roedd gan un Aelod ddiddordeb arbennig yn adfywiad naturiol y coetir. Cododd yr Aelod bryderon mewn perthynas â'r difrod a achoswyd i goed ifainc gan danau mynydd a holodd a oedd mesurau lliniaru ar waith i'w hatal. Dywedodd y swyddog wrth yr Aelod am y dull gweithredu ‘Healthy Hillsides Project’, sy'n sicrhau rheoli cadwraeth/pori cadwraeth mewn ardaloedd nad ydynt yn destun problemau tanau gwyllt, er mwyn cynnal y rhedyn a hyrwyddo blodau gwyllt, bywyd gwyllt ac adfywio coetir.
Pwysleisiodd y Cadeirydd bwysigrwydd addysg a soniodd am yr ymgyrchoedd proffil uchel sy'n cynnwys y gwasanaeth tân a'r heddlu, a oedd yn ceisio addysgu pobl ifanc am bwysigrwydd llethrau'r bryniau a'i fywyd gwyllt. Ar ben hynny, roedd y Cadeirydd yn falch o nodi bod potensial i Swyddog Graddedig a Phrentis weithio ochr yn ochr ag Ecolegydd y Cyngor.
Adleisiodd y Cynrychiolydd Allanol sylwadau cynharach mewn perthynas â chynnwys y gymuned a chwestiynu pa ardaloedd yn RhCT a nodwyd ar gyfer gerddi glaw. Dywedodd y swyddog mai'r ardd law a ddatblygwyd ar Mill Street, Pontypridd oedd y cyntaf i gael ei nodi fel safle problemus a'i chymeradwyo i'w hariannu. Dywedodd y swyddog y byddai Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn i ddod i ddyrannu cyllid ar gyfer Gwyrddni Trefol ac, o'r herwydd, byddai safleoedd newydd yn cael eu nodi. Esboniwyd hefyd bod swyddogion yn gyfrifol am ymgorffori seilwaith gwyrdd yn y cynlluniau nodweddion draenio cynaliadwy.
Cydnabu’r Cynrychiolydd Allanol y gwaith a wnaed i wneud y mwyaf o storio carbon naturiol trwy adfer corsydd mawn ar dir cyhoeddus a holodd a oedd cynlluniau tebyg ar gyfer tir dan berchnogaeth breifat. Dywedodd y swyddog fod cyngor a chefnogaeth yn cael ei ddarparu i ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr - Materion Ffyniant a Datblygu, sy'n nodi gofynion y Cynllun Datblygu Strategol (SDP) a'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (CDLl) mewn perthynas â pholisïau ac ymrwymiadau i leihau'r Ôl-troed Carbon.
Cofnodion: Darparodd y Cyfarwyddwr Materion Ffyniant a Datblygu'r adroddiad i'r Gr?p Llywio, a oedd yn nodi'r hyn y mae'n ofynnol i'r Cynllun Datblygu Strategol (CDS) a'r Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig (CDLl) fynd i'r afael â hwy o ran polisïau ac ymrwymiadau i leihau ein hôl troed carbon; a'r cyfleoedd a fyddai'n cyflwyno'u hunain wrth baratoi a llunio'r cynlluniau hyn, (yn enwedig o safbwynt y CDLl), i ehangu ar y gofynion safonol hyn o safbwynt RhCT.
Tynnodd y Cyfarwyddwr sylw'r Aelodau at Adran 6 yr adroddiad ac eglurodd fod nifer o feysydd y gellir ymchwilio ymhellach iddynt mewn perthynas â Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon; dylid hefyd ystyried cynnwys y meysydd hyn yn yr adroddiad. Awgrymodd y Cyfarwyddwr y cwestiynau canlynol i'w hystyried ymhellach gan y Gr?p: · Pa ganran o leoedd parcio ceir ddylai fod â phwyntiau gwefru mewn datblygiadau dibreswyl newydd? · A ddylai fod polisi tebyg ar gyfer datblygiadau preswyl newydd? · A ddylai pob cartref newydd yn RhCT fod yn adeiladau carbon sero? · Beth yw rôl ucheldiroedd RhCT wrth frwydro yn erbyn Newid Hinsawdd? · Beth yw barn y gr?p ar ddwysedd y datblygiad o amgylch nodau'r Metro a pholisïau di-gar ar ddatblygiadau newydd?
Diolchodd y Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr am yr adroddiad a chydnabod faint o waith a wnaed i baratoi'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig. Cydnabu'r Cadeirydd uchelgais Llywodraeth Cymru i Gymru ddod yn Net Sero erbyn 2050 a'r mentrau cadarnhaol eraill fel Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Metro De Cymru, teithio cynaliadwy a ffyrdd cynaliadwy o greu cyflogaeth.
Cwestiynodd y Cynrychiolydd Allanol p'un ai’r bwriad oedd datblygu Strategaeth Newid Hinsawdd ehangach ar gyfer yr Awdurdod Lleol, a allai gyd-fynd â gwaith y CDLl diwygiedig. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai Strategaeth Newid Hinsawdd yn cael ei datblygu, yn dilyn ystyriaeth y Gr?p o amrywiol adroddiadau allweddol mewn perthynas â phynciau fel trafnidiaeth, tai, bioamrywiaeth, plastigau ac ynni. Roedd y Prif Weithredwr yn gobeithio cyflwyno drafft cychwynnol y Strategaeth i'r Gr?p Llywio yn y Flwyddyn Newydd yn barod i ymgysylltu â'r gymuned ehangach.
Esboniodd y Cyfarwyddwr y byddai'r CDLl yn gweithredu fel mynegiant defnydd tir o ddyheadau'r Cyngor, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd a lleihau carbon, sy'n sicrhau bod elfennau allweddol yn cael eu dyrannu. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at argymhelliad y Gr?p am Fawndiroedd yn yr adroddiad blaenorol ar Asedau Natur ac eglurodd y gellid dyrannu'r meysydd blaenoriaeth a nodwyd yn y CDLl diwygiedig.
Hysbysodd y Dirprwy Arweinydd y Gr?p Llywio bod pwyntiau gwefru cerbydau trydanol wedi'u gosod ym maes parcio Tesco a nododd y gallai'r CDLl weithredu fel dogfen berswadiol i ddatblygwyr ystyried opsiynau ecogyfeillgar yn y dyfodol.
Ychwanegodd y Cadeirydd fod Rhanbarth y Ddinas wedi cytuno ar gyllid ar gyfer pwyntiau gwefru cerbydau trydanol ar gyfer gwasanaethau tacsi a chludiant yn y lle cyntaf; a nododd fod swyddogion yn cynnal ymarfer i edrych ar feysydd parcio'r Cyngor i ystyried unrhyw gyfleoedd i osod pwyntiau gwefru.
Nid oedd un Aelod yn cytuno â'r rhagdybiaeth y gellid cynnal y ffordd bresennol o fyw, trwy newid i drydan ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
Lleihau'r defnydd o blastigau un-tro yn holl gontractau ac adeiladau'r Cyngor PDF 474 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr, Adnoddau Dynol, sy'n rhoi gwybod i'r Gr?p Llywio am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r archwiliad manwl ar y categorïau gwariant hynny lle mae plastigau un-tro'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd; a Chynllun Gweithredu sydd â'r nod o leihau neu ddileu'r defnydd o blastigau un-tro (lle bo hynny'n ymarferol) ym mhob rhan o'r Cyngor erbyn diwedd 2020.
Cofnodion: Rhoddodd y Pennaeth Cyflawni – Materion Caffael drosolwg a diweddariad i aelodau'r gr?p yn dilyn yr adroddiad a gyflwynwyd i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd ym mis Rhagfyr 2019.
Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybod i'r Gr?p Llywio am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r archwiliad manwl ar y categorïau gwariant hynny lle mae plastigau un-tro'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd; a Chynllun Gweithredu sydd â'r nod o leihau neu ddileu'r defnydd o blastigau un-tro (lle bo hynny'n ymarferol) ym mhob rhan o'r Cyngor erbyn diwedd 2020.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am y diweddariad a chafodd ei galonogi gan ei fomentwm, er bod cynnydd wedi'i rwystro ychydig yn ystod y misoedd diwethaf oherwydd Covid-19. Nododd y Cadeirydd fod y Cynllun Gweithredu yn ceisio nodi'r meysydd hynny lle mae angen mwy o waith archwilio am ddefnyddio plastigau mewn PPE, sy'n faes newydd sydd wedi deillio o effaith Covid-19.
Siaradodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth am bwysigrwydd cyflwyno’r argymhellion y manylir arnynt yn y cynllun gweithredu i sicrhau bod trigolion a phobl ifainc RhCT yn effro i'r ymrwymiad.
Cwestiynodd un Aelod y dull ar gyfer ysgolion a ph'un a fyddai plant yn cael eu gwahardd i ddefnyddio plastig. Dywedodd y swyddog mai'r uchelgais oedd siarad â chyflenwyr arlwyo a nodi lle mae'r plastig yn cael ei ddefnyddio, er mwyn nodi dewisiadau amgen addas.
PENDERFYNODD Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd: 1. Cydnabod yr effaith y mae Covid-19 wedi'i chael ers yr adroddiad blaenorol i'r Gr?p, ar ein gallu i roi ar waith a gweithredu canlyniadau diriaethol sy'n anelu at leihau'r defnydd o blastigau un defnydd o fewn yr amserlen a nodwyd yn yr adroddiad blaenorol. 2. Cytuno ar y cynllun gweithredu a ddarperir yn Atodiad A sy'n nodi'r trefniadau i ddileu / lleihau'r defnydd o blastigau un defnydd ar draws y Cyngor; a 3. Nodi'r bwriad i gael gwared ar yr holl blastigau un defnydd o gyfleusterau arlwyo'r Cyngor a'r Ysgol erbyn 31 Mawrth 2021 gyda dewis arall sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.
|
|
Caffael Cyflenwadau a Gwasanaethau yn Lleol PDF 273 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr, Adnoddau Dynol, sy'n rhoi diweddariad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd ar y gwaith sydd ar y gweill er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn elwa ar ei drefniadau caffael yn y modd gorau posibl.
Cofnodion: Roddodd y Pennaeth Materion Caffael diweddariad i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd ar y gwaith sydd ar y gweill er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn elwa ar ei drefniadau caffael yn y modd gorau posibl.
Atgoffodd y swyddog y Gr?p Llywio y cytunwyd yn flaenorol y byddai adolygiad manwl o 50 o gyflenwr gorau'r Cyngor (wedi'i leoli y tu allan i RCT) yn cael ei gynnal. Esboniwyd bod y data angenrheidiol wedi'i baratoi a bod yr arolwg wedi'i lunio ond oherwydd y cyfyngiadau symud ledled y wlad, nid oedd yr adolygiad wedi'i gynnal. O'r herwydd, ystyriwyd bellach y byddai'n well treulio'r amser yn edrych tua'r dyfodol a sicrhau bod y canlyniadau cadarnhaol wrth gontractio yn cael eu hystyried yn llawn wrth baratoi dogfennau tendro yn y dyfodol.
Hysbysodd y swyddog y Gr?p o'r gwersi a ddysgwyd o'r pandemig a rhoddodd fanylion am sut y gallai'r Cyngor wneud ei gontractau yn fwy hygyrch i fusnesau. Hysbyswyd yr aelodau bod y Cyngor yn awyddus i drafod defnyddio busnesau bach a chanolig lleol, a'i fwriad i nodi cyfleoedd posibl i'w cyflwyno i'r gadwyn gyflenwi yn y dyfodol.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am y diweddariad a chydnabu bwysigrwydd cefnogi busnesau lleol yn ystod cyfnod mor heriol. Roedd y Cadeirydd yn falch o nodi bod llawer o fusnesau wedi addasu i ddiwallu'r newid mewn anghenion trwy gydol y cyfnod.
Roedd y Cadeirydd yn falch o nodi'r dull contract rhanedig y manylir arno yn Adran 7 yr adroddiad, a fyddai'n lledaenu'r buddion ar draws busnesau lleol. O safbwynt newid yn yr hinsawdd, roedd y Cadeirydd yn hapus i gefnogi busnesau bach a chanolig yn y Fwrdeistref, yn enwedig o ran cadwyni cyflenwi i sicrhau nad yw cynhyrchion yn teithio pellteroedd mawr, a fyddai'n lleihau'r ôl troed carbon ac yn tyfu'r economi leol.
Cyfeiriodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth at y trac athletau yn Aberdâr, lle’r oedd mwyafrif y gweithlu o fewn radiws o 20 milltir ar y mwyaf, a greodd berchnogaeth leol a chymunedol.
PENDERFYNODD Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd: 1. Cytuno â dull y Cyngor o hysbysebu ei dendrau yn gliriach gyda'r farchnad leol, ac i'r Gwasanaeth Caffael herio pob tendr yn gynnar gyda golwg ar sefydlu a fyddai lotio priodol yn berthnasol; a 2. Bod diweddariad yngl?n â'r camau yma yn cael eu cyflwyno yn ôl i'r Gr?p yn y dyfodol.
|
|
Cynhyrchu Ynni a Materion Cysylltiedig PDF 162 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor, sy'n darparu diweddariad dros dro o'r sefyllfa o ran gwaith Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd hyd at 30/09/20. Yn dilyn atal gwahanol gyfarfodydd y Cyngor o ganlyniad i'r Llifogydd a'r Coronafeirws, nid yw'r Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd wedi cyfarfod ers mis Ionawr 2020. Mae'r Adroddiad Diweddaru yma'n nodi manylion y sefyllfa bresennol o ran y gwaith sydd ar y gweill ym maes datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy a materion cysylltiedig eraill.
Cofnodion: Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint, rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor a Phennaeth Rheoli Prosiectau Ynni yr wybodaeth ddiweddaraf i Gr?p Llywio'r Cabinet ar hynt datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy a rhai materion cysylltiedig eraill hyd at 30 Medi 2020.
Amlinellodd y swyddogion strategaethau ynni cyfredol y Cyngor, prosiectau ynni adnewyddadwy cyfredol ac ehangu posibl uchelgeisiau ynni adnewyddadwy.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am y diweddariad a nododd yr amrywiol fentrau cynhyrchu ynni uchelgeisiol a chadarnhaol megis datblygiad Ffynnon Taf, a fyddai'n cynhyrchu ynni ar gyfer yr ysgol a'r ganolfan leol a datblygu Parc Eco ar dir heb ei ddatblygu ym Mryn Pica.
Cyfeiriodd un Aelod at Adran 5.5 yr adroddiad a holi sut yr amcangyfrifwyd y Budd Carbon amcangyfrifedig o 2,323 Tunnell Carbon y flwyddyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr y byddai gwybodaeth bellach yn cael ei chylchredeg yn dilyn y cyfarfod ond eglurodd fod y ffigur wedi'i bennu gan broses gyfrifo safonol ar y cyd â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru. Roedd y cyfrifiad yn canolbwyntio ar yr arbedion carbon a ddefnyddir ar gyfer yr ynni a gynhyrchir yn unig, yn seiliedig ar fuddsoddiad ac nid y carbon gwreiddio wrth gyflawni'r prosiect hyd at y pwynt hwnnw. Cydnabu'r Cyfarwyddwr y byddai angen ystyried y carbon ymgyrfforiedig pe bai'r Cyngor yn honni y byddai'r prosiect yn Net Sero ynddo'i hun.
Cwestiynodd y Cynrychiolydd Allanol ar gyfer beth y byddai d?r glaw sydd wedi'i ailgylchu yn cael ei ddefnyddio yn Ffynnon Taf. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod cynaeafu d?r glaw yn osodiad safonol, a oedd hefyd yn cael ei ddefnyddio yn ysgolion y Cyngor ac mai ei bwrpas oedd fflysio'r toiledau yn yr adeiladau.
Roedd y Cynrychiolydd Allanol yn falch o nodi bod ystod o opsiynau ynni wedi'u harchwilio, megis ynni gwynt, solar a hydro. Dywedodd y Cyfarwyddwr fod RhCT wedi darparu cefnogaeth i Ymddiriedolaeth y Cambrian yn Nhonypandy, i gyflawni ei gynllun hydro.
Diolchodd yr Aelod o’r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden, a Gwasanaethau Treftadaeth i'r swyddogion am yr adroddiad manwl a nododd faint o waith a wnaed yn ei phortffolio Cabinet, mewn perthynas â'r agenda newid yn yr hinsawdd, megis trafnidiaeth, pwyntiau gwefru cerbydau trydan a newidiadau goleuo a wnaed ledled adeiladau'r Cyngor.
PENDERFYNODD Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd: 1. Nodi cynnwys yr adroddiad diweddaru yma'n rhan o waith parhaus Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd; 2. Parhau â thrafodaethau parhaus gyda thrydydd partïon gyda'r bwriad o wneud y mwyaf o gynhyrchu ynni yn amodol ar gyfrifiannell ôl troed carbon terfynol Llywodraeth Cymru; a 3. Derbyn adroddiad pellach yn gynnar yn 2021 yn darparu diweddariad pellach ar y cynnydd.
|
|
Materion Brys Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn rhai brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.
Cofnodion: · Gyda chytundeb y Cadeirydd, rhoddodd Rheolwr Prosiect Rhondda Skyline, Ms M Newton, wybodaeth am gerrig milltir cynnydd allweddol y prosiect i'r Gr?p Llywio: Ø Roedd trafodaethau ar y gweill gyda CNC o ran sut y rheolir stiwardiaeth tir cymunedol, sef dyhead y Prosiect; Ø Llwyddwyd i sicrhau £238,000 o Gronfa Datblygu'r Gronfa Gweithredu ar Hinsawdd, i ddatblygu'r ffrydiau busnes canlynol: - Cefnogi sefydlu'r Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol a'r Cytundeb Stiwardiaeth Cymunedol gyda CNC; - Rhaglen Biochar i edrych ar bren fel deunydd gwastraff a sut y gellir ei ddefnyddio mewn ffyrdd eraill; - Tai ffrâm pren a sut i adeiladu tai cynaliadwy gyda sgiliau lleol; - Garddwriaeth Gymunedol; - Menter Plen (Timber Enterprise) a datblygu safle pren yn hen safle'r bragdy yn Nhreherbert; a - Cerbydau Trydan a ph'un a oes galw am gronfa o gerbydau trydan i'w ddefnyddio gan y gymuned. Ø Pe bai'r mentrau uchod yn cael eu sicrhau, y bwriad oedd cynnig am £2.5M arall o gyllid i roi'r gwaith ar waith. Ø Roedd gan y Gronfa Her Economi Sylfaenol danwariant sylweddol o ganlyniad i Covid-19. O ganlyniad, roedd Skyline yn gweithio gyda Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol fel un o dri chynllun peilot i edrych ar amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig. Y nod oedd sefydlu unedau dros dro ar hen safle tapas, Treherbert ac roedd disgwyl i'r prosiect gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2021.
Canmolodd y Gr?p Llywio Skyline am ei waith a'r mentrau cyffrous sydd wedi'u cynllunio ar gyfer ardal uchaf Cwm Rhondda, sy'n diwallu nifer o anghenion ac uchelgeisiau.
· Hysbysodd y Cadeirydd y Gr?p Llywio y byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ddydd Llun 18 Ionawr 2021 am 2pm a dymunodd Nadolig a Blwyddyn Newydd dda i bawb.
|