Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor  01443 424062

Eitemau
Rhif eitem

18.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a chafodd pawb eu cyflwyno er budd y swyddogion newydd.

 

Daeth ymddiheuriadau am golli'r cyfarfod oddi wrth Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol A. Crimmings a S. Belzak.

 

19.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Noder:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

20.

Cofnodion pdf icon PDF 131 KB

Cadarnhau cofnodion cyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2019 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2019.

 

21.

Newid i Drefn yr Agenda

Cofnodion:

Cytunodd y Gr?p Llywio y byddai'r agenda yn cael ei hystyried mewn trefn wahanol yn unol â'r manylion yn y cofnodion isod.

 

 

22.

Meithrin Cysylltiadau â'r Gymuned pdf icon PDF 1016 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu, yn amlinellu'r dull arfaethedig o ymgysylltu â thrigolion, a chyfathrebu â nhw, mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd. Amlinellir hefyd ddull arfaethedig o weithio gyda grwpiau amgylcheddol yn lleol ac yn genedlaethol, trigolion a busnesau i godi ymwybyddiaeth ac annog newid cadarnhaol o ran ymddygiad tuag at yr amgylchedd.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Materion Polisi Corfforaethol ac Ymgynghori yr adroddiad, a oedd yn ceisio rhoi gwybod i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd am y dulliau arfaethedig o ymgysylltu a chyfathrebu â'r gymuned, a hynny er mwyn sicrhau bod yr holl randdeiliaid allweddol yn llywio'r gwaith o godi ymwybyddiaeth o arfer gorau ac annog trigolion i newid eu hymddygiad.

 

Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at Adran 5 yr adroddiad, sy'n nodi'r prif feysydd sydd angen ffocws:

A)    Cyfathrebu a gweithgarwch ar y Cyfryngau Cymdeithasol;

B)    Datblygu ymgyrch newid ymddygiad;

C)    Hwyluso Cyfranogiad;

D)    Ymgysylltu â chenedlaethau'r dyfodol.

 

Cynigiodd y swyddog y dylai porth rhyngrwyd Newid Hinsawdd Canolig gael ei sefydlu, fel bod modd cyfeirio trigolion a rhanddeiliaid ato i godi ymwybyddiaeth o brosiectau cyfredol, arfer gorau, achlysuron lleol a chenedlaethol, ac astudiaethau achos. 

 

Yn Adran 5.18 yr adroddiad, roedd rhestr o grwpiau ac unigolion sydd wedi'u nodi'n rhai i ymgysylltu a nhw yn rhan o'r agenda ehangach. Nododd y swyddog y byddai'n hanfodol ehangu'r rhestr yma a chreu cronfa ddata o'r grwpiau/unigolion allweddol sy'n hyrwyddo newid ac yn cael effaith yn lleol.

 

Rhoddodd y swyddog enghraifft i'r gr?p llywio o'r gwaith ymgysylltu a gynhaliwyd gyda thrigolion mewn perthynas â Chynllun Corfforaethol y Cyngor. Soniodd am ddosbarthu 'pecynnau cymryd rhan' i rai unigolion, sy'n rhoi cyfrifoldeb iddyn nhw dros ymgysylltu â grwpiau llai.

 

O ran cyfathrebu newid mewn ymddygiad, rhoddodd y swyddog enghreifftiau o ymgyrchoedd ailgylchu proffil uchel blaenorol, sydd wedi hyrwyddo newid cymdeithasol cadarnhaol yn y Fwrdeistref.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad trylwyr, a nododd fod angen i'r Cyngor, Grwpiau Amgylcheddol a'r gymuned ehangach weithio gyda'i gilydd.

 

Soniodd un cynrychiolydd am y prosiect 'skyline vision' Croeso i'n Coedwig, sy'n ceisio nodi sut mae modd i gymuned newid er mwyn lleihau ei hôl-troed carbon, a dywedodd y byddai'r wybodaeth yn cael ei rhannu yn dilyn y cyfarfod. Aeth y Gr?p Llywio ati i gydnabod y byddai newidiadau bach a datrysiadau arloesol, fel nodi maint ôl-troed carbon unigolion a'i leihau, yn grymuso trigolion ac yn eu galluogi i gymryd perchenogaeth. Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at y 4000 o fylbiau a blannwyd gan gr?p cymunedol yn Rhydfelen. Roedd hyn wedi cyfrannu at y newid, a hefyd wedi bod o fudd cadarnhaol i'r cyfranogwyr.

 

Cafodd y Gr?p Llywio sgwrs am addysg a'r effaith gadarnhaol y mae modd i'r cyfryngau cymdeithasol a'r porth rhyngrwyd ei chael ar bobl ifainc. 

 

Roedd y Cynrychiolwyr Allanol yn gefnogol o'r dull ac yn falch o gyfeirio'r Cyngor ar grwpiau llai, a oedd wedi dangos ymrwymiad i wneud gwahaniaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.    Cefnogi'r pedwar maes ffocws arfaethedig:

a)    Cyfathrebu a gweithgarwch ar y Cyfryngau Cymdeithasol

b)    Datblygu ymgyrch newid ymddygiad

c)    Hwyluso Cyfranogiad

d)    Ymgysylltu â chenedlaethau'r dyfodol;

2.    Cytuno i'r swyddogion weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid a grwpiau amgylcheddol allweddol er mwyn datblygu'r dull yma ar gyfer y dyfodol, a gofyn iddyn nhw gydweithio â ni ar weithgarwch cyfathrebu ac ymgysylltu penodol;

3.    Derbyn diweddariadau ar y cynnydd mewn cyfarfodydd yn  ...  view the full Cofnodion text for item 22.

23.

Trafnidiaeth – sut ydyn ni'n lleihau ein hallyriadau carbon a newid ein dulliau teithio? pdf icon PDF 87 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gyfadran Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng-flaen, sy'n rhoi gwybod i'r Gr?p Llywio am y sefyllfa bresennol o ran allyriadau carbon a thrafnidiaeth, er mwyn nodi'r camau y mae modd eu cymryd i leihau'r allyriadau hyn.

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau'r Rheng Flaen wybod i'r Gr?p Llywio am y sefyllfa gyfredol o ran allyriadau carbon a thrafnidiaeth, er mwyn nodi'r camau y mae modd eu cymryd i leihau'r allyriadau hyn.

 

Nododd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth fod twf trafnidiaeth ynghlwm â'r economi, a phan mae'r economi'n tyfu, mae'r galw o ran teithio'n cynyddu hefyd. Soniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth am gynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o ran datgarboneiddio, sy'n cynnwys buddsoddi mewn cerbydau trydan fel ceir, tacsis a bysys. Eglurwyd fod camau y mae modd i gynghorau unigol eu cymryd i ddatgarboneiddio trafnidiaeth, ac y bydd camau o'r fath yn fwy effeithiol os cân nhw eu darparu o dan strategaeth gydlynol ar lefel ranbarthol neu genedlaethol, lle mae pawb yn canolbwyntio ar wireddu'r un nod. Cafodd y Gr?p Llywio wybod fod RhCT yn rhagweithiol o ran hybu prosiectau sy'n benodol ar gyfer RhCT, tra hefyd yn gweithio ar lefel ranbarthol drwy Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ac Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.

 

Tynnodd y swyddog sylw'r Aelodau at Adran 3.11 yr adroddiad, sy'n amlinellu rhestr o raglenni ymgysylltu amrywiol RhCT sydd â goblygiadau cadarnhaol o ran lleihau allyriadau. Roedd y rhain yn cynnwys y Rhaglen Gwneud Defnydd Gwell, Llwybrau Diogel i'r Ysgol/Llwybrau Diogel mewn Cymunedau, Ehangu Coridorau, Gorfodi Parcio, Gwasanaethau bws â chymhorthdal

Parcio a Theithio a Teithio Llesol

 

Aeth y swyddog ymlaen i ddarparu manylion yngl?n â chyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer RhCT i'r Gr?p Llywio:

·         Metro - 

·         Cerbydau Trydanol ac Isadeiledd Gwefru

·         Rheoli'r Galw

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, o ganlyniad i'r adroddiad, fod Llywodraeth Cymru wedi gwahodd ceisiadau i ddatblygu isadeiledd ar gyfer Cerbydau Allyriadau Isel Iawn yn ogystal â menter anogol sy'n canolbwyntio ar dacsis a cherbydau llogi preifat. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn gweithio gyda Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd/Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddiogelu'r cyllid yma, gyda chyllid cyfatebol gan Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Cafwyd trafodaethau yngl?n â'r dull rhanbarthol o gyflwyno isadeiledd Cerbydau Trydanol ar draws safleoedd strategol sy'n eiddo i'e Cyngor yn ogystal â'r strategaeth i sicrhau bod pob tacsi yn gerbyd trydanol erbyn dyddiad targed Llywodraeth Cymru 2028. Er bod y Gr?p Llywio'n teimlo'n gadarnhaol am y fenter yma, cododd y gr?p nifer o bryderon, yn arbennig yngl?n â'r isadeiledd cyfredol yn RhCT a'r heriau a fyddai ynghlwm â gosod mannau gwefru ar strydoedd cul gyda thai teras. Cytunodd y Cyfarwyddwr Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen â hyn, gan nodi y byddai hi'n synhwyrol i ni osgoi cymryd unrhyw gamau sylweddol ar hyn o bryd. Yn hytrach, dylen ni edrych ar danwyddau mwy cynaliadwy wrth i'r farchnad ar gyfer ceir addas dyfu ac wrth i ddatrysiadau mwy addas i'r diben ddod i'r amlwg. O ran cerbydau fflyd y Cyngor, dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran wrth y Gr?p Llywio fod canlyniadau ymarfer costau yn dangos ei bod hi'n rhatach llogi cerbydau yn hytrach na'u prynu. O ganlyniad i hyn, bydd y Cyngor yn ceisio llogi cerbydau fflyd yn y tymor byr. Ychwanegodd bod y  ...  view the full Cofnodion text for item 23.

24.

Pa gamau y mae modd eu cymryd yn yr ardaloedd rheoli ansawdd aer, er mwyn sicrhau bod ansawdd aer yn gwella ledled y Fwrdeistref Sirol? pdf icon PDF 269 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned sy'n rhoi cyfle i'r Gr?p Llywio drafod pa gamau y mae modd eu cymryd yn yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, er mwyn sicrhau bod ansawdd aer yn gwella ledled Bwrdeistref y Sir.

 

Cofnodion:

Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint, cyflwynodd y Rheolwr Diogelwch yr Amgylchedd a Safonau Tai yr adroddiad i'r Aelodau, gyda'r bwriad o drafod y camau y mae modd eu cymryd mewn Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer, a hynny er mwyn sicrhau bod ansawdd aer yn gwella ledled y Fwrdeistref Sirol.

 

Rhoddwyd enghreifftiau i'r Gr?p Llywio o'r 16 ardal Rheoli Ansawdd Aer a nodwyd yn Rhondda Cynon Taf ac roeddent yn falch o nodi'r farn bod y rhan helaeth o'r Fwrdeistref yn profi ansawdd aer da a bod yr ardaloedd hynny a nodwyd yn fannau ynysig. Clywon nhw y gall amgylchiadau lleol penodol iawn arwain at lefelau Nitrogen Deuocsid a allai fod yn uwch nag Amcan Ansawdd Aer.

 

Aeth yr Aelodau ati i gydnabod bod potensial i Newid Hinsawdd gael effaith negyddol ar ansawdd aer yn y dyfodol a bod angen gweithredu i ddarparu atebion cynaliadwy.

 

Cyfeiriwyd y Gr?p Llywio at Atodiad 1 yr adroddiad, lle rhestrwyd y Cynlluniau Gweithredu Ansawdd Aer unigol. Ystyriwyd bod nifer o'r gwelliannau yn ymarferol o ran cyflawni gwelliant tymor byr mewn ansawdd aer yn yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer. Fodd bynnag, roedd y Gr?p Llywio yn cydnabod na fyddai'r materion a'r seilwaith cyfredol sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth o fewn RhCT yn cefnogi rhai o'r camau cynaliadwy, tymor hir a nodwyd mewn modd digonol. Roedd barn y dylid cynnal trafodaethau rhwng Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned a'r Cyfarwyddwr Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen i nodi'r gweithredoedd hyfyw, hirdymor o Dabl B yr adroddiad, i'w cynnwys yn Rhaglen Cyfalaf Priffyrdd y Cyngor ar gyfer ystyriaeth gan y Cabinet.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch ymgysylltu â'r gymuned yngl?n â'r Diwrnod Aer Glân, sy'n cael ei gynnal ar 20 Mehefin 2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac sy'n rhan o'r ymgyrch Diwrnod Aer Glân ehangach ledled y DU. Teimlai'r Gr?p Llywio y byddai cyfranogiad y Cyngor yn y fenter yn hyrwyddo neges gadarnhaol i'w drigolion ond cytunwyd y byddai angen cyfleu'r neges gywir, boed hynny o ran rhannu ceir, beicio i'r gwaith neu blannu coed.

 

Mewn perthynas â'r cyllid grant, a ddefnyddiwyd i ddarparu gwell goleuadau stryd i wasanaethu'r llwybr mynediad teithio llesol i Ysgol Uwchradd Pontypridd, cydnabuwyd bod y dull deilliannau amlasiantaeth wedi bod yn hanfodol a'i fod wedi bod o fudd i nifer o agendâu, gan gynnwys ymgysylltu lleol, teithio llesol, ansawdd aer, newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth.

 

Diolchodd y Cadeirydd  i'r swyddog am yr adroddiad. PENDERFYNWYD:

 

1.    Nodi cynnwys yr adroddiad;

2.    Argymell y canlynol i'r Cabinet:

               I.        Parhau i symud ymlaen gyda'r camau tymor byr ac ymarferol a nodwyd yn Nhabl B yr adroddiad;

              II.        O ystyried amgylchiadau lleol cyfredol, bod y Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned yn gweithio gyda'r Cyfarwyddwr Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen i nodi'r gweithredoedd hyfyw, hirdymor o Dabl B yr adroddiad, i'w cynnwys yn Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd y Cyngor, i'w ystyried gan y Cabinet;

            III.         Bod y Cyngor yn ceisio ymgysylltu â thrigolion yngl?n â'r Diwrnod Aer Glân, sy'n cael  ...  view the full Cofnodion text for item 24.

25.

Ymgynghoriad ar ddrafft Polisi Rheoli Glaswellt Blodeuog Rhondda Cynon Taf pdf icon PDF 159 KB

Derbyn adroddiad ar y cyd Cyfarwyddwr y Gyfadran Ffyniant, Datblygu a Rheng-flaen a'r Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned, sy'n ceisio ymgynghori â'r Gr?p Llywio ar ddrafft Polisi Rheoli Glaswellt Blodeuog Rhondda Cynon Taf.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Cymorth Technegol adroddiad i'r Gr?p Llywio ar y Polisi Rheoli Glaswellt Blodeuog drafft ar gyfer Rhondda Cynon Taf.

 

Er bod bioamrywiaeth wedi'i golli mewn rhai rhannau o'r DU, clywodd y Gr?p fod Rhondda Cynon Taf yn ffodus bod ystod eang o flodau gwyllt brodorol yn tyfu'n naturiol yn ei gaeau, ei ymylon a'i goetiroedd.  Mae'r holl blanhigion wedi'u haddasu'n berffaith i'r pridd, yr hinsawdd a'r cynefin ac maent yn rhan o'r ecosystem sy'n darparu bwyd, nid yn unig i beillwyr ond i lawer o bryfed ac anifeiliaid eraill hefyd. 

 

Esboniodd y swyddog mai nod polisi rheoli bioamrywiaeth glaswelltir ac ymylon glaswellt arfaethedig Rhondda Cynon Taf yw 'cynyddu arwynebedd a maint cynefin glaswelltir cyfoethog blodau gwyllt yn y Fwrdeistref Sirol i gefnogi Dyletswydd Bioamrywiaeth y Cyngor a 'Gweithredu dros Natur: Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol'' a thynnodd sylw'r Aelodau at Adran 4.6 yr adroddiad, lle amlinellwyd egwyddorion allweddol y Polisi.

 

Roedd y Gr?p Llywio o blaid y cynigion i gynyddu nifer y safleoedd ym maes rheoli blodau gwyllt ac i sefydlu gwefan Bioamrywiaeth, a fyddai’n cael ei defnyddio i ymgysylltu â’r gymuned trwy ddarparu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth. Teimlwyd y byddai angen hyrwyddo neges glir i sicrhau bod cymunedau'n gwbl ymwybodol bod y glaswellt heb ei dorri yn fesur cadarnhaol. O'r herwydd, roedd yr Aelodau o'r farn y byddai angen gosod arwyddion priodol ar y safleoedd.

 

Cafwyd trafodaethau ynghylch yr ymgyrch 'Grab a Rake', a ddyfeisiwyd i gynnwys y gymuned leol wrth reoli rhai o'r ymylon glaswellt a adawyd ar gyfer bioamrywiaeth. Siaradodd yr Aelodau'n gadarnhaol am gynnwys y gymuned yn yr ymgyrch a'r gwerth addysg ychwanegol, gan nodi bod perchnogaeth gymunedol yn hanfodol wrth godi ymwybyddiaeth. Siaradodd un Aelod o’r Gr?p Llywio am ei phrofiadau ei hun gyda mentrau cymunedol tebyg a chydnabu fod cynlluniau llai, cost-effeithiol yn cyfrannu at yr agenda ehangach.

 

PENDERFYNODD y Gr?p Llywio:

 

1.    Wneud sylwadau ar y Polisi Rheoli Glaswellt Blodeuog drafft, a

2.    Bod adborth a sylwadau Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd yn cael eu hadrodd i'r Cabinet i lywio ei benderfyniad mewn perthynas â'r polisi.