Lleoliad: Safle Tirlenwi Bryn Pica, Heol Merthyr, Llwydcoed, Aberdâr CF44 0BX
Cyswllt: Hannah Williams - Busnes Uned y Cyngor 01443 424062
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau am Absenoldeb Cofnodion: Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol M. Webber.
|
|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Noder: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.
|
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2019 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNODD yr Aelodau gymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2019 yn rhai cywir yn dilyn y newid canlynol: · Cofnod Rhif 6 (trydydd paragraff o'r gwaelod) - Newid 'dim cydberthynas' i 'cydberthynas bron yn gyflawn'.
|
|
Ffynnon Dwym Ffynnon Taf PDF 82 KB Derbyn cyflwyniad, ynghyd ag adroddiad, gan Gyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor, sy'n rhoi sylw i'r sefyllfa bresennol o ran y prosiect ynni adnewyddadwy yn Ffynnon Taf.
Cofnodion: Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint, rhoddodd Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor a'r Pennaeth Rheoli Prosiectau Ynni wybodaeth i'r Gr?p Llywio mewn perthynas â'r sefyllfa bresennol o ran Prosiect Ynni Adnewyddadwy Ffynnon Taf a'r ffordd ymlaen.
Esboniodd y swyddogion fod Ffynnon Dwym Ffynnon Taf yn dod i'r amlwg ar lan ddwyreiniol yr Afon Taf yn ne-ddwyrain y fwrdeistref. Dyma'r unig ffynnon dwym naturiol yng Nghymru. Cafodd y Gr?p Llywio wybodaeth gefndirol am y prosiect, a chawson nhw wybod bod carfan 'Ynni' Eiddo'r Cyngor wedi cyflawni gwaith yn unol â dwy astudiaeth ymarferoldeb a gynhaliwyd gan Gyfeillion Ffynnon Taf, sy'n ystyried dulliau amrywiol o ddatblygu potensial ynni adnewyddadwy Ffynnon Taf. Cytunwyd i fwrw ymlaen â'r gwaith ar sail darparu rhwydwaith gwres i ddisodli'r system wresogi gyfredol mewn dau adeilad cyfagos sy'n eiddo i RhCT. Aeth y Swyddog ymlaen i egluro mai'r bwriad ar gyfer Pafiliwn Parc Ffynnon Taf oedd disodli'r system wres drydan bresennol; y bwriad ar gyfer Ysgol Gynradd Ffynnon Taf yw disodli neu integreiddio â'r system nwy gyfredol.
Dywedodd y Swyddog y byddai cost y datblygiad yn annhebygol o fod yn fwy na'r ystod ddisgwyliedig o £250,000 i £300,000 a thrwy strwythuro'r elfennau ariannol er mwyn manteisio i'r eithaf ar y taliad Lwfans Gwres Adnewyddadwy, mae modd lleihau'r ad-daliad ar fuddsoddiad o sawl blwyddyn. Cafodd yr Aelodau wybod bod disgwyl i'r prosiect craidd disgwyliedig cyfredol arbed 37.1 tunnell o CO2.
Cwestiynodd un Aelod a fyddai'r prosiect yn destun cyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol, a chadarnhaodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y byddai'r prosiect yn cael ei gyfathrebu â'r cyhoedd fel holl waith cadarnhaol arall y Gr?p Llywio,
Canmolodd un Aelod y fenter, gan ofyn a fyddai'r gwres yn cael ei bweru gan ynni hydro. Esboniodd y swyddog na fyddai hyn yn hyfyw ar hyn o bryd. Fodd bynnag, efallai y bydd modd ehangu'r prosiect yn y dyfodol.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am yr adroddiad cynhwysfawr. PENDERFYNWYD: 1. Argymell cymeradwyo'r prosiect i'r Cabinet.
|
|
Rhaglen Waith ar gyfer y Dyfodol PDF 91 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd, sy'n nodi'r rhaglen waith ar gyfer Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd yn y dyfodol.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu y rhestr arfaethedig i'r Gr?p Llywio o'r materion y mae angen i Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd eu hystyried yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2019-2020.
Esboniodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth y byddai'r Rhaglen Waith yn sicrhau bod cynnydd yn cael ei fonitro, a bod modd rhoi camau gweithredu gerbron y Cabinet er mwyn ymateb i ymrwymiad y Cabinet i sicrhau bod y Cyngor yn Garbon Niwtral erbyn 2030, yn ogystal â gweithio gyda thrigolion a busnesau yn y Fwrdeistref i sicrhau bod y Fwrdeistref Sirol gyfan yn Garbon Niwtral erbyn 2030 neu mor agos at hynny â phosibl.
Daeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth i ben drwy roi gwybod i'r Gr?p Llywio bod y rhaglen yn hyblyg a, phe hoffai’r Aelodau ychwanegu adroddiadau yn y dyfodol, byddai'r swyddogion yn gweithio gyda nhw i lunio adroddiadau i'w hystyried ar ôl Mawrth 2020.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am yr adroddiad a dywedodd y Gr?p Llywio bod Cyngor Tref Pontypridd yn gwneud darn o waith mewn perthynas â bioamrywiaeth. O ganlyniad i hynny, byddai'r Dirprwy Arweinydd yn ychwanegu'r pwnc fel eitem i'w drafod yng nghyfarfod nesaf Pwyllgor Cyd-gysylltu â'r Gymuned ym mis Ionawr 2020.
Cododd un Aelod bryderon mewn perthynas â'r adroddiad ar ddatblygu seilwaith i gefnogi perchnogaeth cerbydau carbon isel - i'w drafod gan y Gr?p Llywio ym mis Ionawr 2020. Siaradodd yr Aelod am yr anhawster o ran gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan ledled y Fwrdeistref, gyda'r Swyddogion yn cadarnhau y byddai'n cael ei drafod yn fanwl yn y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNODDy Gr?p Llywio: 1. Cymeradwyo Rhaglen Waith Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2019-2020.
|
|
Caffael Cyflenwadau a Gwasanaethau yn Lleol PDF 117 KB Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Adnoddau Dynol, sy'n rhoi trosolwg i Gr?p Llywio'r Cabinet ar faterion yr Hinsawdd o drefniadau contractio'r Cyngor. Cofnodion: Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaeth Caffael drosolwg o drefniadau contractio'r Cyngor ac, yn benodol, sut y mae modd i'r Cyngor ddangos gwariant gyda chyflenwyr lleol o fewn Rhondda Cynon Taf.
Esboniodd y Swyddog fod yr holl waith Caffael Cyhoeddus yn cael ei lywodraethu gan Gyfarwyddebau Caffael yr UE a Rheoliadau Caffael y DU, a bod gan y Cyngor rwymedigaeth i gydymffurfio â'r Fframwaith Cyfreithiol yma.
Rhoddodd y Swyddog drosolwg o'r wybodaeth yn Adran 5 yr adroddiad, sy'n crynhoi'r arian a wariwyd yn lleol yn 2018/19 ac yn ystod chwe mis cyntaf blwyddyn ariannol 2019/20. Cadarnhaodd y swyddog fod y data wedi'i grynhoi gan ddefnyddio cod post pob cyflenwr, ac er mwyn darparu dadansoddiad manylach o ran faint o wariant y Cyngor sydd o fudd i economi leol Rhondda Cynon Taf, caiff adolygiad manylach o'r gwariant ei gynnal gyda 50 cyflenwr gorau'r Cyngor. Cadarnhawyd y caiff y newyddion diweddaraf am y gwaith yma ei adrodd yn ôl i'r Gr?p Llywio ym mis Mehefin 2020.
Yn ogystal â'r adolygiad o'r 50 cyflenwr gorau, cadarnhaodd y Swyddog fod gwaith hefyd yn mynd rhagddo mewn ymgynghoriad â Gwasanaeth Adfywio'r Cyngor, sy'n ceisio mapio'r busnesau hynny sydd wedi'u lleoli o fewn ffin y Cyngor. Bydd canlyniad y gwaith yma'n cael ei ddefnyddio i nodi cyflenwyr nwyddau a gwasanaethau posibl ar gyfer y dyfodol.
Cafwyd trafodaeth ynghylch masnach deg, gydag un Aelod yn cadarnhau bod y Cyngor yn Gyngor masnach deg.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog am yr adroddiad llawn gwybodaeth, a manteisiodd ar y cyfle i sôn am ddarn cadarn o waith a wnaed gan un o Swyddogion Graddedig y Cyngor i ystyried opsiynau ar gyfer sicrhau'r Buddion Cymunedol mwyaf posibl ar sail contractau caffael. Yn dilyn y gwaith yma, cytunodd y Cabinet y bydd Buddion Cymunedol bellach yn cael eu hymgorffori yn yr holl ymarferion caffael perthnasol.
PENDERFYNODDy Gr?p Llywio: 1. Cytuno bod gwaith pellach yn mynd rhagddo i adolygu 50 cyflenwr gorau'r Cyngor, gyda'r nod o ganfod gwerth y trefniadau yma i'n heconomi leol; 2. Nodi'r gwaith sy'n mynd rhagddo i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o'r busnesau sy'n gweithredu yn y Fwrdeistref Sirol; 3. Bod diweddariad yngl?n â'r camau yma yn cael eu cyflwyno yn ôl i'r Gr?p ym mis Mehefin 2020.
|
|
Gwaredu'r defnydd o blastigion un-tro o holl gontractau ac adeiladau'r Cyngor PDF 1016 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, sy'n rhoi trosolwg i'r Gr?p Llywio o'r canllawiau cyfredol sydd ar waith i gefnogi sefydliadau wrth iddynt geisio dod i ben â'u defnydd o blastigion un-tro. Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaeth Caffael drosolwg o'r canllawiau cyfredol sydd ar waith i gefnogi sefydliadau wrth iddynt geisio rhoi'r gorau i ddefnyddio plastigion un-tro.
Cyfeiriodd y Swyddog yr Aelodau at Adran 4 yr adroddiad, lle amlinellwyd yr Hierarchaeth Wastraff, sef hierarchaeth o opsiynau ar gyfer rheoli gwastraff gan gofio beth sydd orau i'r amgylchedd. Clywodd yr aelodau fod y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff (2008) yn darparu hierarchaeth wastraff ddefnyddiol a gwerthfawr ar gyfer adolygu'r defnydd o blastigau un defnydd.
Wedyn, cyfeiriodd y Swyddog yr Aelodau at Adran 5 yr adroddiad, lle nodwyd tabl o'r defnydd cyfredol o blastigion un-tro, ynghyd ag enghreifftiau lle mae cynnyrch un-tro wedi'u disodli gan gynnyrch amgen. Clywodd y Gr?p mai'r cam nesaf oedd cynnal archwiliad manwl a thrylwyr o'r meysydd perthnasol, gyda'r bwriad o nodi faint o blastigion un-tro sy'n cael eu defnyddio, gwerthuso'r trefniadau gwaredu cyfredol sydd ar waith a rhoi egwyddorion yr hierarchaeth wastraff ar waith drwy ymgynghori â chyflenwyr, a hynny er mwyn defnyddio cynhyrchion amgen priodol. Bydd canlyniad y gwaith yma'n cael ei gyflwyno i'r Gr?p Llywio ym mis Ebrill 2020, ynghyd â chynllun gweithredu sy'n ceisio cael gwared ar y defnydd o blastigau un-tro cyn belled ag sy'n ymarferol bosibl erbyn 2020.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Swyddog am yr adroddiad manwl, a nododd ei fod yn dystiolaeth o ddarlun gonest o safle'r Cyngor a'r materion a gododd.
Cafwyd trafodaeth mewn perthynas â defnyddio plastigion un-tro, gydag un Aelod yn nodi y dylai ysgolion fod yn esiampl flaenllaw i'r gymuned. Nododd yr Aelod gynlluniau posibl i gyd-fynd â'r syniad: · Cynllun Gwobrwyo ar gyfer defnyddio cynhwysydd mae modd ei ailddefnyddio mewn ysgolion; · Gorsafoedd d?r i ail-lenwi poteli yn lle peiriannau gwerthu; · Ymgysylltu â Phwyllgorau Eco mewn ysgolion
Bu aelodau'r gr?p hefyd yn trafod yr egwyddor o addysgu'r holl staff yngl?n â'r mater pwysig yma, ac roedden nhw'n cytuno â hynny.
Mewn perthynas â gorsafoedd d?r, cadarnhaodd Cyfarwyddwr Cyfadran Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen fwriadau'r Cyngor i ystyried lleoliadau posibl ar gyfer gosod y rhain yng nghanol prif drefi'r Cyngor. Ar ben hynny, mae gwaith yn digwydd i nodi lle y gellir darparu gorsafoedd ail-lenwi drwy ymgynghori â busnesau lleol.
Diolchodd y Cadeirydd i Aelodau'r Gr?p am eu mewnbwn.
PENDERFYNODD y Gr?p Llywio ar Faterion yr Hinsawdd: 1. Nodi cynnwys yr adroddiad, yn benodol pwysigrwydd sicrhau bod egwyddorion yr Hierarchaeth Wastraff yn cael ei defnyddio wrth ganfod cynnyrch amgen i ddisodli plastigau un-tro; 2. Nodi y bydd adroddiad sy'n darparu canlyniad yr archwiliad yn cael ei ddarparu i'r Gr?p ym mis Ebrill 2020.
|
|
Ailgylchu yn Rhondda Cynon Taf PDF 110 KB Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr y Gyfadran – Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen, yn rhoi diweddariad i'r Gr?p Llywio ar gyflawniad ailgylchu ar gyfer 6 mis cyntaf 2019/20, y Cyfleuster Adennill Deunydd newydd, datblygiadau ym Mryn Pica yn y dyfodol a newidiadau deddfwriaethol posibl. Cofnodion: Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Cyfadran – Ffyniant, Datblygu a Gwasanaethau Rheng Flaen, sy'n rhoi diweddariad i'r Gr?p Llywio ar Faterion yr Hinsawdd yngl?n â chyflawniad ailgylchu ar gyfer 6 mis cyntaf 2019/20, y Cyfleuster Adennill Deunydd newydd, datblygiadau ym Mryn Pica yn y dyfodol a newidiadau deddfwriaethol posibl.
Esboniodd y Cyfarwyddwr Cyfadran fod gan y Cyngor darged ailgylchu statudol o 64%, a osodir gan Lywodraeth Cymru. Byddai methu â chyrraedd y targed yn golygu bod y Cyngor yn derbyn dirwy sylweddol.
Cyfeiriwyd yr aelodau at Adran 4 yr adroddiad, a oedd yn amlinellu cyflawniad RhCT yn ystod 6 mis cyntaf y flwyddyn ariannol ac yn tystio bod RhCT wedi cyflawni'r targed a nodwyd gan Lywodraeth Cymru, a bod y Cyngor mewn sefyllfa dda am weddill y flwyddyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran mai'r targed nesaf ar gyfer y Cyngor fyddai targed 2024/2025 o 70%. Roedd e o'r farn y byddai modd newid y targed yma i 80%. Aeth ymlaen i drafod sut mae modd cyflawni'r targed trwy wella'r perfformiad cyfredol a thrwy ddarparu'r Cyfleuster Ailgylchu Matresi newydd ym Mryn Pica. Soniodd y Cyfarwyddwr Cyfadran am yr angen i greu ymgyrch farchnata i roi gwybod i drigolion y byddai camau gorfodi yn cael eu cymryd os nad ydyn nhw'n ailgylchu, pe bai'r Aelodau'n argymell y newid i'r Cabinet.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Cyfadran at y mentrau sydd ar waith gan RhCT i wella ailgylchu, fel y ganolfan addysg ryngweithiol ym Mryn Pica, y Cyfleuster Treulio anerobig, y Cyfleuster Ailgylchu Matresi a'r Gwaith Trin Trwytholch. Clywodd yr Aelodau mai'r uchelgais oedd datblygu Parc Eco ar y safle, a fyddai'n arwain at ddatblygu proses ailgylchu ar gyfer plastig caled lle mae plastigau'n cael eu malu a'u golchi er mwyn naill ai gwerthu'r deunydd neu'i droi'n gynnyrch ar y safle.
Diolchodd y Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr Cyfadran am yr adroddiad cynhwysfawr a chanmolodd ddull casglu ailgylchu syml RhCT o'i gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill.
Cafwyd trafodaethau ynghylch gwastraff bagiau du a'r potensial i leihau nifer y dyddiau casglu ymhellach. Dywedodd Cyfarwyddwr Cyfadran na fu cynnydd yn nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon ar ôl i'r Cyngor leihau nifer y bagiau duon yr oedd e'n ei gasglu - er bod y Cyngor wedi rhagweld y gallai hynny ddigwydd. Cadarnhaodd nad oedd unrhyw gynlluniau ar y gweill i leihau’r casgliad ymhellach, ond dywedodd fod angen addysgu’r gymuned yngl?n â'r gwastraff priodol sydd i’w waredu yn y bagiau du.
Siaradodd y Cadeirydd yn gadarnhaol am y cynnig a nododd y byddai RhCT yn arwain y ffordd fel yr Awdurdod Lleol cyntaf yng Nghymru i osod targed o 80%.
PENDERFYNODD y Gr?p Llywio: 1. Argymell i'r Cabinet newid y targed ailgylchu i 80% erbyn 2024/25
|
|
Materion Brys Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn rhai brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.
Cofnodion: · Manteisiodd y cynrychiolydd o sefydliad Croeso i'n Coedwig ar y cyfle i roi gwybodaeth i'r Gr?p Llywio am brosiect dichonoldeb, o'r enw 'Skyline', a ariannwyd gan y Sefydliad Friends Provident. Soniodd y cynrychiolydd am y gwaith a wnaed ledled cymunedau lleol i archwilio hanes, ystyr a gweledigaethau pob cwm.
Rhoddwyd taflenni gwybodaeth manwl yngl?n â'r prosiect i'r Aelodau, a chytunwyd derbyn diweddariadau pellach yng nghyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.
Diolchodd y Cadeirydd i'r cynrychiolydd am yr wybodaeth a siaradodd am bwysigrwydd Grwpiau Trydydd Sector o ran arwain y ffordd ar fentrau allweddol.
· Cytunwyd y byddai'n fuddiol i'r Gr?p Llywio fynd ar daith o amgylch Bryn Pica yn yr haf.
|