Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwllgor 1, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor  01443 424099

Eitemau
Rhif eitem

1.

Croeso

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i gyfarfod agoriadol y Gr?p Llywio ar Faterion yr Hinsawdd.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r Aelodau gyflwyno eu hunain a nododd y bydd y Gr?p Llywio yn gweithio fel fforwm i'r Cyngor ddod yn fwy uchelgeisiol, a hynny drwy ailosod targedau a herio sut mae'r Cyngor yn gweithredu ac yn mynd i'r afael â heriau yn y dyfodol er mwyn dod yn Gyngor Carbon Niwtral erbyn 2030.

 

 

2.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodyn:

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw.

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

3.

Cylch Gorchwyl pdf icon PDF 67 KB

Cymeradwyo Cylch Gorchwyl y Gr?p Llywio.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r aelodau gymeradwyo Cylch Gorchwyl y Gr?p. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu yr Aelodau at y Cylch Gorchwyl atodedig, a nododd fod y telerau wedi'u cytuno gan y Cabinet ar 17Hydref 2019. Clywodd yr Aelodau fod y Gr?p Llywio yn cynnwys aelodaeth drawsbleidiol, ac fe’i sefydlwyd o dan gynllun dirprwyo’r Arweinydd.

 

Atgoffodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau mai nod y Gr?p yw sicrhau consensws ynghylch dull y Cyngor o ddod yn Gyngor Carbon Niwtral erbyn 2030. Mae Gr?p Llywio'r Cabinet wedi'i sefydlu i sicrhau dull gweithredu cyson ledled yr Awdurdod o ran materion newid yn yr hinsawdd, ac i sicrhau y bydd y Cyngor yn dod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030. Bydd aelodau'r gr?p yn gosod cyfeiriad strategol a byddan nhw'n ystyried unrhyw bolisïau lleol ynghylch newid yn yr hinsawdd a materion cysylltiedig. Bydd yr Aelodau'n ystyried sut y gall y Cyngor gefnogi newidiadau yn ymddygiad preswylwyr, cyflawni'r camau angenrheidiol i ymateb yn rhagweithiol i newid yn yr hinsawdd ac, wrth wneud hynny, helpu busnesau, cymunedau a thrigolion i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wrth yr Aelodau y bydd Gr?p Llywio'r Cabinet yn rhoi cyfle iddyn nhw drafod a gwneud cynnydd wrth gyflawni gweithredoedd sy'n deillio o'r Cynllun Corfforaethol. Nod y rhain yw ceisio goresgyn yr heriau mae'r Cyngor yn eu hwynebu o ran newid yn yr hinsawdd a lleihau ei ôl troed carbon.

 

Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth hefyd bwysigrwydd gwahodd grwpiau lleol i fynychu cyfarfodydd y Gr?p Llywio er mwyn sicrhau bod preswylwyr a chymunedau yn chwarae rhan lawn ac uniongyrchol wrth lywio'i waith.

 

Roedd trafodaeth i ddylyn, a nododd Aelod fod gwahaniaeth sylweddol rhwng 'Net Zero' a 'Zero Carbon'. Pwysleisiodd bwysigrwydd nodi'r gwahaniaeth yma wrth symud ymlaen.  Atgoffodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth yr Aelodau nad yw'r cylch gorchwyl wedi'i osod mewn carreg, ac y gellir ei newid yn unol â hynny.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo Cylch Gorchwyl Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd. 

 

4.

Rhaglen Waith ar gyfer y Dyfodol pdf icon PDF 189 KB

Derbyn adroddiad y Prif Weithredwr, sy'n amlinellu sefyllfa bresennol y Cyngor mewn perthynas â'r newid yn yr hinsawdd a'r rhaglen waith arfaethedig ar gyfer y dyfodol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr ei adroddiad i'r Aelodau mewn perthynas â Rhaglen Waith y Gr?p Llywio ar gyfer y dyfodol.

 

Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa fod Cabinet y Cyngor wedi ailedrych ar ei ymrwymiad i ddod yn Gyngor Carbon Niwtral, ac wedi gosod targed uchelgeisiol o gyflawni hyn erbyn 2030, ynghyd â thrigolion a busnesau'r Fwrdeistref Sirol.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr wrth yr Aelodau fod y rhaglen waith yn gosod targed uchelgeisiol, a phwysleisiodd fod y Cyngor yn croesawu mewnbwn gan sefydliadau ac unigolion eraill wrth helpu i gyrraedd targed 2030.

 

O ran amlder, clywodd yr Aelodau y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn fisol er mwyn rhoi cyfle i'r Gr?p Llywio ystyried y camau sydd eu hangen ar y Cyngor mewn perthynas â'r Cynllun Corfforaethol a thargedau Net Zero 2030.

Esboniodd y Prif Weithredwr y gallai aelodau allanol y Gr?p Llywio hefyd gyflwyno eitemau i'w hystyried ar yr agenda, a bod amser wedi'i ddyrannu yng nghyfarfod mis Mawrth i ystyried yr eitemau hyn. Pe bai'r ddau aelod allanol yn dymuno cyflwyno unrhyw eitemau ar yr agenda, byddai swyddogion y Cyngor yn barod i weithio gyda'r ddau aelod i gynnal unrhyw ymchwil neu ysgrifennu adroddiadau drafft i'w cefnogi. Croesawodd y Prif Weithredwr eu cyngor yngl?n â'r ffordd orau i ymgysylltu ag ystod eang o grwpiau cymunedol sydd â diddordeb uniongyrchol mewn diogelu'r amgylchedd lleol.

 

Cafwyd trafodaethau a nododd Aelod fod yn rhaid i'r Cyngor rymuso ei gymunedau. Pwysleisiodd yr Aelod bwysigrwydd rhannu gwybodaeth a modelau arfer da, yn ogystal â phwysigrwydd trosglwyddo gwybodaeth i'r genhedlaeth nesaf. Cafodd yr Aelodau eu cyfeirio at y gymuned yn Rhydfelen a sut mae preswylwyr wedi cael eu hannog i blannu dros 7000 o fylbiau yn yr ardal yn ystod Blwyddyn y Cyngor 2019/20.

 

O ran polisi ailgylchu'r Cyngor, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i bob awdurdod lleol ailgylchu o leiaf 70% o'i wastraff cartrefi erbyn 2025. Clwyodd yr Aelodau fod y Cyngor eisoes yn agos iawn at gyflawni'r targed hwn. Fodd bynnag, mae'r Cyngor eisiau cynyddu'r lefel yma i o leiaf 80% o'r holl wastraff cartref erbyn 2030. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Cyfadran – Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen nad oes modd i'r Cyngor gyrraedd y targed o 80% heb ymrwymiad ein preswylwyr ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol.

 

Aeth y trafodaethau ymlaen a rhoddodd nifer o Aelodau bwyslais ar y cyfleoedd sydd ar gael i rymuso cymunedau lleol. Cytunodd y Prif Weithredwr, a phwysleisiodd bwysigrwydd rhoi cyhoeddusrwydd i waith parhaus y Cyngor i ddod yn Gyngor 'Net Zero'. Cytunodd yr Aelodau y bydd angen i'r Cyngor weithio ar y cyd â grwpiau cymunedol lleol a chynghorwyr tref a chymuned. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu bwysigrwydd cynnwys fforymau ieuenctid cymunedol hefyd. Cytunodd y Gr?p y bydd addysg ac ymgysylltu yn rhan allweddol o strategaeth y Cyngor. 

 

O ran ynni adnewyddadwy, nododd un Aelod nad oes cydberthynas ar hyn o bryd rhwng y defnydd o ynni a CDG. Pwysleisiodd Aelod arall bwysigrwydd rheoli adnoddau ar  ...  view the full Cofnodion text for item 4.

5.

Y Ddyletswydd o ran Bioamrywiaeth pdf icon PDF 58 KB

Derbyn cyflwyniad ar y cyd ag adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned, sy'n ceisio rhoi diweddariad i'r Aelodau yngl?n â'r cynnydd wrth gyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth y Cyngor a cheisio cymeradwyaeth i gyflwyno'r adroddiad diweddaru gofynnol i Lywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau gyflwyniad ar y cyd ag adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned, gan roi diweddariad i'r Aelodau yngl?n â'r cynnydd wrth gyflawni Dyletswydd Bioamrywiaeth y Cyngor.

 

Atgoffwyd yr aelodau ei bod yn ofynnol i'r Cyngor adrodd i Lywodraeth Cymru ar y cynnydd wrth gyflawni ei ddyletswydd bioamrywiaeth. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau at Atodiad 1 a 2, a oedd yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol a gofynnwyd i'r Aelodau ystyried a chymeradwyo'r adroddiad i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Derbyniodd yr Aelodau gyflwyniad mewn perthynas â bioamrywiaeth gan Ecolegydd y Cyngor a chafwyd trafodaethau.

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned yr Aelodau i Ecolegydd y Cyngor, a aeth ati, gyda chymorth Power Point, i amlygu meysydd allweddol y cynllun lleol, Mae'r cynllun yma'n nodi'r cynnydd o ran gweithredu'r ddyletswydd bioamrywiaeth yn Rhondda Cynon Taf a'i arwyddocâd ar lefel leol a chenedlaethol. Roedd y cyflwyniad yn cyfeirio at waith y Cyngor mewn perthynas â pheillwyr, a sut y rheolir tir sy'n eiddo i'r Cyngor, sy'n adnodd cyfoethog o flodau glaswellt a gweiriau.

 

Yn dilyn y cyflwyniad, diolchodd y Cadeirydd i'r Ecolegydd am ddarparu gwybodaeth mor fanwl a nododd fod y cyflwyniad yn dangos sut mae ein tirwedd wedi newid dros amser.

 

Roedd trafodaeth i ddilyn a nododd nifer o Aelodau fod angen rheoli bioamrywiaeth, yn ogsytal â phwysleisio pwysigrwydd creu ymdeimlad o berchnogaeth mewn cymunedau lleol. Cytunodd yr Aelodau y bydd y Cyfryngau Cymdeithasol yn chwarae rhan hanfodol wrth gyfleu'r neges i breswylwyr lleol. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Cyfadran – Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen bwysigrwydd cael cydbwysedd priodol mewn perthynas â pholisi ehangach y Cyngor a nododd bwysigrwydd creu datrysiad rheoli cynaliadwy.

 

Cododd un Aelod ymholiad mewn perthynas â cholli nifer sylweddol o bryfed ledled RhCT dros y blynyddoedd diwethaf. Nododd yr Ecolegydd y bu colled sylweddol, fodd bynnag, pwysleisiodd fod yr hinsawdd yn RhCT yn fwy tymherus ac o ganlyniad mae'r effaith yn RhCT wedi bod yn llai nag mewn ardaloedd eraill.

 

Yn dilyn y cyflwyniad manwl gan Ecolegydd y Cyngor, a ymatebodd i lawer o gwestiynau a godwyd, canmolodd yr Aelodau'r gwaith sy'n cael ei wneud ym mhob rhan o RhCT.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

1.    Cymeradwyo'r adroddiad diweddaru ar y camau a gymerwyd gan RhCT i hyrwyddo'r 'Ddyletswydd Bioamrywiaeth'; a,

2.    Cytuno i'r adroddiad gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, yn amodol ar y sylwadau a gynigiwyd gan y Gr?p Llywio ar Faterion yr Hinsawdd.    

6.

Diweddariad gan Wasanaeth Eiddo'r Cyngor ynglŷn â Lleihau Ynni a Charbon pdf icon PDF 42 KB

Derbyn adroddiad Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yngl?n â lleihau ynni a charbon.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor adroddiad i'r Aelodau mewn perthynas â datblygiadau perthnasol i Leihau Ynni a Charbon.

 

Atgoffwyd yr Aelodau y dylid ystyried yr adroddiad fel rhan o'r brif 'Bapur Trafod - Rhaglen Waith ar gyfer Gr?p Llywio'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd'.

 

Atgoffodd y Cyfarwyddwr yr Aelodau fod y rhaglen Buddsoddi Ynni i Arbed ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2020/21 wrthi'n cael ei chwblhau, ond rhagwelir y bydd yn ymrwymo'r Cyngor i fuddsoddi o leiaf £1.4 miliwn arall ar welliannau lleihau ynni a charbon. 

 

Cafwyd trafodaethau a chyfeiriodd un Aelod y Gr?p at y buddsoddiad sylweddol a wnaed gan y Cyngor i Oleuadau Stryd mwy effeithlon o ran ynni. Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa bod yr holl oleuadau stryd yn y Fwrdeistref Sirol bellach wedi cael eu trosi yn rhai LED, ac mae hyn, ynghyd â pholisïau pylu a lleihau goleuadau gyda'r nos, wedi arwain at ostyngiad o 75% yn yr ynni a ddefnyddir.

 

Cyfeiriodd Aelod arall y Gr?p at y £7 miliwn a fuddsoddwyd gan y Cyngor mewn mesurau Lleihau Ynni a'r gostyngiadau ynni amcangyfrifedig o dros 18 miliwn MW o ynni. Dywedodd yr Aelod y byddai'n ddefnyddiol derbyn gwybodaeth am yr oriau MW sydd wedi'u harbed o ganlyniad uniongyrchol i fesurau lleihau ynni.

 

Parhaodd y trafodaethau a phwysleisiodd un Aelod bwysigrwydd dangos i'r cyhoedd pa gamau y mae RhCT wedi'u cymryd dros y deng mlynedd diwethaf i fuddsoddi mewn mesurau lleihau ynni. Cyfeiriodd yr Aelod y Gr?p at bolisi gweithio hyblyg y Cyngor a'i ddull o ddefnyddio llai o bapur. Yn hyn o beth, holodd un Aelod pa gamau a gymerwyd gan y Cyngor i osod pwyntiau gwefru trydan ledled y Fwrdeistref Sirol. Dywedodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor fod y Cyngor wedi cytuno i ychwanegu pwyntiau gwefru Cerbydau Trydan newydd ar gyfer pob prosiect newydd gan y Cyngor wrth symud ymlaen.

 

O ran gweithio'n hyblyg, holodd un Aelod a oedd y defnydd cynyddol o offer TG yn dda i'r amgylchedd. Dywedodd yr Aelod y gallai gweithio'n hyblyg arwain at ragor o ddefnydd o ynni. Cafwyd trafodaethau a chytunodd nifer o Aelodau fod gweithio hyblyg ar y cyfan yn defnyddio llai o ynni a'i fod yn gam cadarnhaol tuag at leihau ynni a charbon. 

 

Nododd yr Aelodau fod angen i'r Cyngor hyrwyddo'r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud gan yr Awdurdod mewn perthynas â lleihau carbon ac ynni, a phwysleisiwyd pwysigrwydd rhannu gwybodaeth. Nodwyd mai RhCT yw'r Awdurdod Lleol cyntaf i ffurfio Gr?p Llywio ar Faterion yr Hinsawdd i fynd i'r afael yn benodol â'r argyfwng Newid Hinsawdd, a chytunwyd bod angen cymryd camau rhagweithiol wrth symud ymlaen fel Awdurdod Lleol. 

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyfadran – Ffyniant, Datblygu, a Gwasanaethau Rheng-flaen wrth yr Aelodau bod gwaith sylweddol yn cael ei wneud mewn perthynas â pholisi fflyd y Cyngor a bod y Cyngor yn defnyddio cerbydau hybrid ac yn annog pobl i rannu ceir. Fodd bynnag, pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Cyfadran hefyd fod technoleg yn y maes hwn yn dal i gael ei datblygu a bod cryn dipyn  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Gwneud defnydd cymunedol o dir heb ei ddefnyddio/gwag sy'n eiddo i RhCT pdf icon PDF 72 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Materion Eiddo'r Cyngor, sy'n cyflwyno gweithdrefn ddrafft symlach i'r Aelodau sy'n ymwneud â gwneud defnydd cymunedol o dir heb ei ddefnyddio/gwag sy'n eiddo i RhCT.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Eiddo'r Cyngor ei adroddiad mewn perthynas â phroses symlach i ganiatáu i Gymunedau wneud cais am dir gwag nad yw'n cael ei ddefnyddio/sy'n eiddo i'r Cyngor at ddibenion defnyddio gerddi i gefnogi Strategaeth Newid Hinsawdd y Cyngor.

 

Atgoffwyd yr aelodau bod y Cyngor yn derbyn llawer o geisiadau gan aelodau'r cyhoedd i ddefnyddio ardaloedd bach o dir ar gyfer gwahanol fathau o weithgareddau garddio. Daw'r ceisiadau hyn gan unigolion a grwpiau, ac

mae'r tir dan sylw fel arfer yn fach ei natur ac heb ei ddefnyddio, yn eistedd yn wag ac yn aml yn denu ymddygiad digroeso fel tipio anghyfreithlon.

 

Er mwyn amddiffyn safbwynt y Cyngor o ran yswiriant; adennill meddiant o'r tir yn y dyfodol; atal camddefnydd/defnydd amhriodol o'r tir; atal y tir neu'r eitemau a osodwyd arno 

rhag bod mewn cyflwr gwael, dywedodd y Cyfarwyddwr ei bod hi'n bwysig bod dogfen ffurfiol yn cael ei chysylltu â'r trydydd parti, ni waeth pa mor fach yw'r darn o dir. Serch hynny, byddai'n fuddiol creu proses symlach ar gyfer y ffordd yma o ddefnyddio tir.

 

Clywodd yr Aelodau fod y weithdrefn sydd ar waith ar hyn o bryd wedi cael ei hadolygu gan ystyried yr uchod, a lluniwyd ffurflen gais symlach i symleiddio'r broses o graffu ar allu'r ymgeisydd/ymgeiswyr i ymgymryd â'r

prosiect.

 

Cafwyd trafodaethau a phwysleisiodd yr Aelodau bwysigrwydd cynnwys preswylwyr yn y broses a rhoi perchnogaeth i gymunedau.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

 

1.    Cytuno i ymgynghori â phartïon allanol i ystyried cynnwys y weithdrefn arfaethedig ac ymgorffori adborth/sylwadau lle bo hynny'n briodol;

2.    Derbyn adroddiad yn y dyfodol i argymell yn ffurfiol i'r Cabinet gymeradwyo'r weithdrefn newydd i symleiddio'r broses ar gyfer defnydd Cymunedol o dir gwag neu eiddo gwag sy'n eiddo i'r Cyngor.

8.

Sylwadau cloi'r Cadeirydd

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau am fod yn bresennol a chadarnhaodd y bydd y Gr?p Llywio ar Faterion yr Hinsawdd yn parhau i gwrdd yn fisol.