Lleoliad: Rhithwir
Cyswllt: Sarah Handy - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol 07385401942
Rhif | eitem |
---|---|
Croeso Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod olaf y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-22. Nododd y Cadeirydd fod y Cynghorydd Rosser yn ymddeol a diolchodd iddi am ei holl waith caled yn rhan o'r Gr?p Llywio.
|
|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol S Rees-Owen a G. Hughes a'r aelod cyfetholedig Mr Coppock.
|
|
Datganiadau o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher y buddiant personol canlynol: "Rwy'n Ymddiriedolwr yr YMCA"
|
|
Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol a gynhaliwyd ar 27 Medi 2021 yn rhai cywir.
Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Medi 2021 yn rhai cywir.
|
|
Y Newyddion Diweddaraf am y Miwni Diweddariad ar gynnydd Canolfan Gelf y Miwni - gwahoddiad i Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen drafod y cynnydd hyd yma.
Cofnodion: Rhoddodd Mr Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, ddiweddariad i'r Aelodau ynghylch trosglwyddo ased cymunedol Canolfan Gelf y Miwni i Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.
Cafodd aelodau'r Gr?p Llywio wybod bod y Cyngor wedi derbyn arian ar gyfer y Miwni yn rhan o gais i'r Gronfa Codi'r Gwastad ym mis Tachwedd 2021. Cafodd yr aelodau wybod bod y Miwni bellach yng ngham 3, sef cam dylunio'r broses. Anelir at gynnal y cam cyflawni yng Ngwanwyn 2022. Ar hyn o bryd mae'r gwaith yn canolbwyntio ar 2 faes; hygyrchedd a chynaliadwyedd. Cafodd yr Aelodau wybod bod y gwaith yn mynd rhagddo'n dda iawn a bod disgwyl i'r gwaith gael ei gynnal yn ystod y flwyddyn nesaf.
Yn dilyn y diweddariad, estynnwyd diolch i Mr Hughes am ddarparu trosolwg o'r gwaith hyd yma i'r Gr?p Llywio. Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr heriau a wynebodd y Cyngor o ran y gronfa codi'r gwastad a nododd ei fod yn falch iawn gyda'r canlyniad.
Cafwyd trafodaeth a nododd nifer o'r Aelodau eu bod nhw’n hapus gyda'r cynnydd hyd yma. Nododd y Cynghorydd Brencher pa mor falch oedd hi i weld bod y Miwni yn dychwelyd i'w nodweddion gwreiddiol a gofynnodd am eglurhad ynghylch a fyddai Awen hefyd yn ymgysylltu â'r YMCA a Chyngor Tref Pontypridd. Nododd y Cynghorydd Brencher y byddai'n fraint gallu bod yn rhan o fwrdd y Miwni, holodd a fyddai cyfle i wneud hynny. Hefyd, nododd y Cynghorydd Brencher fod cyfleusterau parcio yn hollbwysig wrth ddylunio'r Miwni.
Nododd y Cadeirydd bwysigrwydd ymgysylltu â'r gymuned gan ystyried bod y Miwni wedi bod ar gau ers peth amser. Pwysleisiwyd ei bod hi'n bwysig sicrhau bod y cynllun yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Cytunodd Mr Hughes a nododd bwysigrwydd bod yn agored â'r gymuned yngl?n â'r gwaith.
Nododd y Cynghorydd Brencher fod llawer o grwpiau cymunedol gwahanol yn cwrdd ym Mhontypridd a holodd a fyddai modd gweld rhestr o'r grwpiau yr ymgynghorir â hwy mewn perthynas â'r prosiect hwn. Nododd y Cadeirydd mai'r ffordd orau o ymgysylltu â'r prosiect yw drwy ymuno â grwpiau ehangach Pontypridd. Nododd y Rheolwr Strategol - Y Celfyddydau a Diwylliant fod dau gyfle i ymuno â grwpiau ym Mhontypridd a bod gan bartneriaid grwpiau ym Mhontypridd. Mae enghreifftiau o grwpiau sy'n ymwneud â diwylliant ar lawr gwlad hefyd. Mae'r grwpiau yma'n rhannu arfer da ac yn cydweithio. Nodwyd bod llawer o drigolion yn cydweithio â phrosiect y Miwni mewn ffyrdd eraill.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD yr Aelodau nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn perthynas â'r Miwni.
|
|
Cymuned Artis Gwahoddiad i gr?p Cymuned Artis drafod eu darpariaethau ar draws y Fwrdeistref Sirol a datblygiad yr YMCA. Cyflwyniad i ddilyn.
Cofnodion: Rhannodd Jen Angharad, Prif Weithredwr Cymuned Artis, gyflwyniad power point â'r Aelodau mewn perthynas â'r cydweithio rhwng Cymuned Artis ac YMCA Pontypridd.
Roedd y Cadeirydd wedi diolch i'r Prif Weithredwr am ddarparu trosolwg mor fanwl. Nododd y Prif Weithredwr ei diolch arbennig i Ann Hayes a'r Cynghorydd Brencher.
Cafwyd trafodaeth a nododd y Cynghorydd Rosser ei bod wedi bod yn rhan o waith cynnar y prosiect a nododd pa mor braf oedd gweld y cynlluniau'n dod yn fyw. Nododd y Cynghorydd Brencher fod yr YMCA wedi dyfalbarhau trwy'r cyfnodau tywyll a nododd pa mor gyffrous oedd gweld y cynlluniau ar waith heddiw. Pwysleisiwyd hefyd fod Cyngor RhCT yn haeddu llawer o glod gan fod y cyllid a ddarparwyd yn cynrychioli'r gwahaniaeth rhwng methu a llwyddo. Cytunodd nifer o Aelodau gan longyfarch Cyngor RhCT a nodi pa mor werthfawr yw'r gwaith i'r gymuned leol. Nododd y Cadeirydd fod y YMCA yn rhan o gynlluniau adfywio ehangach y Cyngor ar gyfer Pontypridd.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD yr Aelodau nodi'r diweddariad.
|
|
Ystyried y cais am fuddsoddiad gan Gyngor Celfyddydau Cymru. PDF 287 KB Cofnodion: Rhoddodd y Rheolwr Strategol - Y Celfyddydau a Diwylliant ddiweddariad i'r Aelodau mewn perthynas ag Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru a'r hyn y bydd y Gwasanaeth Celfyddydau yn canolbwyntio arno yn y dyfodol.
Yn dilyn y trosolwg, PENDERFYNODD yr Aelodau nodi'r diweddariad yn yr adroddiad.
|
|
Diweddariad ar lyfrgelloedd a chasgliadau yn RhCT Cyflwyniad i ddilyn.
Cofnodion: Rhoddodd y Prif Lyfrgellydd drosolwg o lyfrgelloedd a chasgliadau RhCT trwy ddefnyddio cyflwyniad PowerPoint.
Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddog am ddarparu trosolwg manwl a nododd yr ystod eang o wasanaethau sy'n cael eu cynnig i'r cyhoedd. Siaradodd y Prif Lyfrgellydd am y garfan o staff arbennig ac aeth ymlaen i'w canmol nhw am eu gwaith. Aeth sawl Aelod ati i ganmol y staff, yn enwedig o ran pa mor dda y maen nhw wedi addasu yn ystod y pandemig.
Cafwyd trafodaethau a holodd Aelod beth oedd cynlluniau'r Cyngor o ran cysylltu â'r maes addysg yn y dyfodol. Holodd yr Aelod hefyd am gynlluniau sydd ar y gweill o ran Llyfrgell Tref Pontypridd a’r ?yl lenyddiaeth. O ran plant ysgol, nododd y Prif Lyfrgellydd fod y gwasanaeth wedi bod yn annog rhagor o deuluoedd i ymuno â'r llyfrgell. Yn ogystal â hynny, maen nhw wedi bod wrthi'n sefydlu cysylltiadau newydd ag ysgolion, fodd bynnag, mae nifer o reoliadau yn gysylltiedig â phob ymweliad. Y gobaith yw y bydd rhagor o ymweliadau'n cael eu hannog wrth i gyfyngiadau Covid gael eu llacio. Nodwyd hefyd y bydd Cyngor RhCT yn creu ei gynnwys ar-lein ei hun mewn perthynas â'r system llyfrgelloedd i ysgolion. O ran yr ?yl lenyddiaeth, pwysleisiodd y Prif Lyfrgellydd y bydd gan RCT gyfle i gydweithio â nhw yn y dyfodol pan fydd yr holl gyfyngiadau wedi'u llacio.
Yn dilyn y trosolwg, PENDERFYNODD yr Aelodau nodi'r wybodaeth ddiweddaraf am lyfrgelloedd a chasgliadau yn RhCT.
|
|
Materion Brys Trafod unrhyw eitemau sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.
Cofnodion: Doedd dim materion brys i'w trafod.
|
|
Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben Myfyrio ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.
Cofnodion: Nododd y Cadeirydd mai hwn oedd cyfarfod olaf y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-22. Dymunodd y Cadeirydd ddiolch i’r holl Aelodau am eu cyfraniadau a’u gwaith caled. Nododd y Cadeirydd hefyd fod y Cynghorydd Rosser yn ymddeol a dymunodd bob llwyddiant iddi yn y dyfodol gan ddiolch iddi am ei holl waith caled. Roedd y Cadeirydd hefyd wedi diolch i'r holl swyddogion am eu gwaith caled a'u hymrwymiad.
|