Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Sarah Handy - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol  07385401942

Eitemau
Rhif eitem

10.

Croeso ac Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Aelodau'r Gr?p Llywio Pwyllgor Gweithredu Diwylliant a Chelfyddydau Strategol i'r cyfarfod a nododd y derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Bwrdeistref Sirol J Rosser.

 

11.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J Brencher y buddiant personol canlynol:

"Rwy'n Ymddiriedolwr yr YMCA"

 

12.

Cofnodion pdf icon PDF 132 KB

Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2021 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2021 yn rhai cywir.

 

13.

Gwasanaethu ein Cymunedau yn ystod Pandemig COVID-19

Derbyn y newyddion diweddaraf am y Celfyddydau yn RhCT yn ystod Pandemig COVID-19.

 

 

Cofnodion:

Rhannodd Rheolwr Strategol - Y Celfyddydau a Diwylliant ddiweddariad llafar ar sefyllfa'r Gwasanaethau Celfyddydau yn ystod pandemig Covid-19. Hysbysodd yr Aelodau am aelodau staff ychwanegol a oedd wedi ymuno â'r garfan yn ystod y cyfnod, ac eglurodd sut roedd y gwasanaeth wedi parhau i gynnig y ddarpariaeth dros y 18 mis diwethaf.

 

Rhannodd y Rheolwr Datblygu a Gweithrediadau’r Theatrau yr wybodaeth ddiweddaraf am y Theatrau a rhoi gwybod i'r Aelodau am y cynllun i fabwysiadu dull gofalus o ailagor. Mae'n cydnabod bod lefelau uchel o achosion yn parhau yn Rhondda Cynon Taf ac yn ymwybodol o’r effaith y gallai ailagor unrhyw beth ar raddfa fawr ei chael ar niferoedd yr achosion a'r niferoedd sy'n mynd i'r ysbyty. Amlinellodd fanylion cynlluniau i ailagor darpariaethau sinema mewn ffordd sy'n cynnal cadw pellter cymdeithasol tuag at ddiwedd mis Hydref 2021, er mwyn caniatáu i'r gwasanaeth brofi systemau a rhoi prosesau ar waith i sicrhau bod gwesteion a staff yn cadw'n ddiogel wrth drefnu darpariaeth barhaus tuag at Nadolig, gan gynnwys ffilmiau Nadoligaidd.

 

Parhaodd i amlinellu'r bwriad ar gyfer trefnu sioeau byw gan roi gwybod i'r Aelodau o'r bwriad i ddechrau cynnwys 400-600 o bobl yn y gynulleidfa o fis Chwefror 2022 ymlaen, er y nodwyd y byddai lefelau CO2 yn cael eu monitro er mwyn parhau i sicrhau diogelwch pob un wrth i niferoedd aelodau'r gynulleidfa gynyddu. Roedd cymhlethdod darparu sioeau byw mewn amgylchedd diogel hefyd wedi'i grybwyll gan y Rheolwr Datblygu a Gweithrediadau’r Theatrau, a manylodd ar sut y bydd angen cynnal trafodaethau i bennu maint castiau a chriw cefn llwyfan ac elfennau ymarferol, gan gynnwys polisïau ad-daliad. Gorffennodd trwy roi gwybod i'r Aelodau o'r bwriad i ddarparu dull gofalus o ailafael mewn perfformiadau gan sicrhau bod iechyd a diogelwch y cyhoedd bob amser wrth wraidd penderfyniadau.

 

Hefyd, darparodd y Rheolwr Datblygu Rhaglenni'r Theatrau a Chynulleidfaoedd ddiweddariad llafar i'r Aelodau am arlwy'r Gwasanaeth dros y Nadolig a sôn am fanylion y Pantomeim. Dywedodd er eu bod yn rhwystredig bod amserlenni wedi'u symud o 2020 i 2022, mae asiantau allanol wedi bod yn gefnogol i'r penderfyniadau a wnaed. Fodd bynnag, roedd hi hefyd yn cydnabod awydd y darparwyr yma ddychwelyd i ddarparu achlysuron â chapasiti llawn. Hysbysodd yr Aelodau fod ffilmio ar gyfer y Pantomeim Nadolig eleni yn dod yn ei flaen yn dda gyda'r amserlen yn dod i ben yr wythnos yma. Diolchodd i bawb a fu'n ymwneud â'r Pantomeim ac roedd yn falch o adrodd bod y cynhyrchiad hyd yma wedi cynnig gwaith i 24 o weithwyr llawrydd. Bydd Iaith Arwyddion Prydain a chapsiynu ar gael yn rhan o'r cynhyrchiad.

 

Hefyd, rhannodd Rheolwr y Celfyddydau a'r Diwydiannau Creadigol ddiweddariad â'r Aelodau yn manylu ar y gefnogaeth a ddarparwyd ganddyn nhw'n rhan o'r Rhaglen Gwella Gwyliau'r Ysgol yn ystod yr Haf. Rhannwyd deilliannau cadarnhaol y cynllun 'Haf o Hwyl' gyda'r Aelodau, sef cyfres o weithdai a gynhaliwyd yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr. Rhoddwyd gwybodaeth fanwl i'r Aelodau am brosiectau amrywiol ar y cyd â rhaglen Cymunedau am Waith a phrosiectau Canol Trefi  ...  view the full Cofnodion text for item 13.

14.

Diweddariad gan yr Eisteddfod

Gwahoddiad i'r Eisteddfod i drafod eu prosiect ymgysylltu â'r gymuned yn RhCT.

 

Cofnodion:

Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint, rhannodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am Eisteddfod 2024, fydd yn cael ei chynnal yn Rhondda Cynon Taf. Darparodd wybodaeth gefndirol am yr Eisteddfod, gan dynnu sylw mai hi yw'r ?yl ddiwylliannol fwyaf i'w chynnal yn Ewrop gan ddenu dros 175,000 o ymwelwyr yn flynyddol. Amlinellodd nodau’r Eisteddfod heddiw i ddathlu iaith a diwylliant Cymru drwy gynnal achlysur bywiog a chroesawgar. Amlinellodd y Prif Weithredwr bwysigrwydd cael dylanwadau lleol ar yr Eisteddfod a'r cyfle i ardal Rhondda Cynon Taf roi ei stamp ei hun ar yr achlysur. Tynnodd sylw at bwysigrwydd gweithio gyda'r Awdurdod Lleol i sicrhau bod pob cymuned yn cael ei chynnwys ac i gyflawni'r deilliannau a ddymunir wrth annog trigolion lleol ac ymwelwyr i ddod i'r Eisteddfod. Rhannodd fanylion gyda'r Aelodau am saith gwaddol posibl yr Eisteddfod, sef gwaddol cymunedol, diwylliannol, ieithyddol, economaidd, digidol, cynhwysol a gwaddol gwirfoddolwyr. 

 

Parhaodd Pennaeth Cyfathrebu'r Eisteddfod â'r cyflwyniad gan amlinellu i Aelodau fanylion Prosiect Cymunedol yr Eisteddfod gan gynnwys croesawu Swyddog Prosiect ymroddedig o Rondda Cynon Taf. Rhannodd fanylion y cynllun strategol i greu fforwm cymunedol a gweithio gyda grwpiau yn yr ardal leol i roi blas o'r Eisteddfod. Rhoddwyd manylion y 2 gam o waith i'r Aelodau yn amlinellu'r camau a gymerir i ymgysylltu â grwpiau ledled y sir.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Brif Weithredwr yr Eisteddfod am y cyflwyniad a phwysleisiodd y cyffro ar draws Rhondda Cynon Taf o ran cynnal Eisteddfod 2024 a chefnogodd y cynllun strategol ar gyfer cynnwys cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol. Adleisiodd yr Aelodau’r cyffro yma a chroesawu’r cyfle i gynnal Eisteddfod sy'n agored i'r holl drigolion. Gofynnodd un Aelod am gynlluniau ar gyfer y cyhoeddiad am leoliad y Maes ar gyfer yr Eisteddfod. Dywedodd y Prif Weithredwr wrth yr Aelodau fod cynlluniau a thrafodaethau ynghylch safleoedd penodol yn dal i gael eu cynnal.

 

Daeth y Cadeirydd â'r trafodaethau i ben trwy ddiolch unwaith eto i’r Swyddogion am ddod i’r cyfarfod heddiw i ddarparu’r cyflwyniad ac adleisio cefnogaeth yr Aelodau i Eisteddfod gynhwysol sy'n pontio'r cenedlaethau yn Rhondda Cynon Taf yn 2024.

 

 

15.

Trafod cadarnhau’r cynnig isod yn benderfyniad:

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod Eitem 5, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

16.

Diweddariad am Brosiectau Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Cofnodion:

 Rhannodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth - Gwasanaethau Cymuned ddiweddariad â'r Gr?p Llywio mewn perthynas â Phrosiectau Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

 

Yn dilyn trafodaeth hir gan y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol am y crynodeb a'r asesiad, PENDERFYNWYD nodi'r diweddariad a gynhwysir yn yr adroddiad.