Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhithwir

Cyswllt: Sarah Handy - Gwasanaethau Democrataidd  07385401942

Eitemau
Rhif eitem

1.

Croeso

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod cyntaf y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-22.

 

2.

Datganiadau o Fuddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, cafodd y datganiadau o fuddiant personol canlynol eu gwneud yngl?n â'r agenda:-

 

·       Roedd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Brencher wedi datgan buddiant mewn perthynas ag eitem 4 - "Rydw i'n Gyfarwyddwr ar yr YMCA."

 

3.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Rees-Owen.

 

4.

Cofnodion pdf icon PDF 122 KB

Cadarnhau cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2021 yn rhai cywir.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2021 yn rhai cywir

5.

Rhaglen Waith ar gyfer y Dyfodol 2021-22 pdf icon PDF 204 KB

Rhoi cyfle i Aelodau'r Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol drafod y Rhaglen Waith ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021/22.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Craffu ac Ymchwil i Aelodau adroddiad sy'n

ymwneud â'r Rhaglen Waith i'r Aelodau. Roedd yr adroddiad yma'n rhannu

gwybodaeth ynghylch y materion allweddol a fydd yn cael eu trafod â'r

Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol yn ystod Blwyddyn y

Cyngor 2021/2022 . Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa bod y Rhaglen Waith

yn ddogfen newidiol y mae modd ei diwygio trwy gydol y flwyddyn i

adlewyrchu unrhyw flaenoriaethau sy'n newid.

 

Cafwyd trafodaeth, a holodd Mr Coppock, yr Aelod Cyfetholedig, p'un a

oedd moddcynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb ac mewn gwahanol

leoliadau ledled yFwrdeistref Sirol. Pwysleisiodd y Swyddog Craffu ac

Ymchwil i Aelodau pe byddai eitem benodol ar yr agenda yn gofyn am

ymweliad safle, yna gallai hyn gael ei drefnu yn unol â hynny.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Flaenraglen Waith

ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-22.

6.

Y Newyddion Diweddaraf am y Miwni pdf icon PDF 197 KB

Derbyn adroddiad am gynnydd y Miwni yn ogystal â chyflwyniad gan Ymddiriedolaeth Awen ar gynnydd a strategaeth Canolfan Gelf y Miwni a sut mae'n cefnogi Pontypridd fel cyrchfan ddiwylliannol.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Mr Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, ddiweddariad i'r Aelodau mewn perthynas â throsglwyddo ased cymunedol Canolfan Gelf y Miwni i Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen.

 

Cafodd Aelodau’r Gr?p Llywio gyflwyniad mewn perthynas â’r throsglwyddo'r Miwni, a oedd yn cynnwys nifer o ffotograffau mewn perthynas â dyluniad y Miwni wrth symud ymlaen. Pwysleisiwyd bod angen i'r lleoliad gadw ei hunaniaeth a'i wreiddiau yn y gymuned ond hefyd sefydlu safle newydd yn y farchnad. Nodwyd mai uchelgais y Cyngor yw dathlu asedau diwylliannol ledled y Fwrdeistref Sirol sy'n cynnig cyfle am dwf. Cafodd yr Aelodau gwybod bod y dull o weithio mewn partneriaeth rhwng CBSRhCT ac Awen yn glir yn sgil y cais i Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU. 

 

Cafwyd trafodaethau a dymunodd y Cadeirydd ddiolch i Awen am roi cyflwyniad mor fanwl i'r Aelodau. Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r Aelodau fod yr Awdurdod Lleol yn dal i aros am ganlyniad y cais i Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU. Nododd y Cadeirydd fod y Miwni yn adeilad eiconig a bod y sylfeini ar waith iddo gael ei ddatblygu fel adeilad allweddol ar gyfer twf diwylliannol yn y gymuned.

 

Parhaodd y trafodaethau a holodd Aelod beth fydd yn digwydd i Ffenestr y Rhosyn yn y Miwni. Dywedodd Richard Hughes wrth yr Aelodau fod Ffenestr y Rhosyn yn nodwedd dreftadaeth allweddol o'r Miwni a'i bod yn taflu goleuni yn y festri a rhoddodd sicrwydd i'r Aelodau y bydd hyn yn cael ei gadw.

 

Roedd Aelod arall wedi canmol y cyflwyniad gan nodi y byddai'n hwb anhygoel i ddiwylliant yng Nghymoedd De Cymru. Holodd yr Aelod a fyddai'r trefniadau o ran seddi yn aros fel yr oedden nhw, a fydd oriel yr arcêd yn cael ei defnyddio fel oriel gelf, a fydd mynediad i'r anabl yn rhan o strwythur yr adeilad a gofynnodd a yw Awen wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r YMCA mewn perthynas â'i weledigaeth ar gyfer y Miwni. Dywedodd Richard Hughes wrth yr Aelodau y bydd seddi y gellir eu tynnu'n ôl yn yr awditoriwm a balconi sefydlog. Pwysleisiodd Richard Hughes y bydd mynediad i'r anabl yn rhan allweddol o'r adeilad newydd, yn enwedig o ran gosod lifftiau ym mhob rhan o'r adeilad ac ystafell newid ddynodedig. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwasanaethau Cymuned wybod i'r Aelodau y bydd cyfarfod o sefydliadau diwylliannol yn ardal Pontypridd, mae hyn yn cynnwys yr YMCA. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth sicrwydd i'r Aelodau fod y Cyngor yno i hwyluso'r cyfarfodydd hyn a bod modd adrodd yn ôl i'r Gr?p Llywio mewn perthynas â materion allweddol ar y flaenraglen waith. Rhoddodd Ceri Evans, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, wybod i'r Aelodau y bydd rhaglenni a gynhelir yn y Miwni yn ategu'r asedau diwylliannol sydd eisoes ym Mhontypridd gan bwysleisio'r angen i rannu adnoddau ac i weithio mewn partneriaeth ag eraill. Dywedodd yr Aelod wrth Awen y byddai Trafnidiaeth Cymru yn bartner allweddol i'w ystyried. Diolchodd Ceri Evans i'r Aelod gan bwysleisio i'r Gr?p y byddai Awen yn croesawu unrhyw awgrymiadau sydd  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

Diweddariad gan Gydlynydd Celfyddydau ac Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Derbyn cyflwyniad gan Gydlynydd Celfyddydau ac Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg mewn perthynas â'i strategaeth newydd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-22.

 

Cofnodion:

Derbyniodd yr Aelodau ddiweddariad gan Esyllt George, cydlynydd Iechyd a'r Celfyddydau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) mewn perthynas â'i strategaeth newydd ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2021-22.

 

Cafodd yr Aelodau wybod am bwysigrwydd gwaith partneriaeth a chynhwysiant a'r angen i wella ymrwymiad ac ymgysylltiad y gymuned. Cafodd yr Aelodau wybod bod gweithio mewn partneriaeth wedi arwain at ragnodi cymdeithasol a llwybrau lles yn y gymuned ledled RhCT. Bydd y strategaeth ar gyfer 2022-2025 yn parhau i gryfhau gwaith partneriaeth rhyngddisgyblaethol, amrywiol a chreadigol ac i weithio gyda model o ofal cyfannol i gleifion.  Bydd y Bwrdd Iechyd yn ariannu swydd Cydlynydd Iechyd a'r Celfyddydau o hyn ymlaen gan gydnabod  gwerth y rôl yma o ran darparu'r gwasanaeth i staff a chleifion. Mae'r swydd yma'n cael ei hariannu gan CCC ar hyn o bryd.

 

Cafwyd trafodaethau a dymunodd y Cadeirydd ddiolch i Esyllt am roi cyflwyniad mor fanwl i'r Gr?p Llywio. Rhoddodd Reolwr Strategol - Y Celfyddydau a Diwylliant wybod i'r Aelodau bod meysydd gwasanaeth RhCT yn cwrdd yn aml â sefydliadau'r trydydd sector ac wedi canmol dull partneriaeth y Bwrdd Iechyd.

 

Nododd Aelod arall pa mor bwysig fydd y dull partneriaeth hwn yn dilyn pandemig covid a nododd pa mor falch oedd hi o weld swydd Cydlynydd Iechyd a'r Celfyddydau'r Bwrdd Iechyd. Holodd yr Aelod p'un a oedd y Bwrdd Iechyd wedi ystyried mannau awyr agored yn yr ysbytai i ddarparu mannau agored tawel i gleifion ac ymwelwyr. Rhoddodd Esyllt George, Cydlynydd Iechyd a'r Celfyddydau BIPCTM, wybod i’r Gr?p Llywio bod y Bwrdd Iechyd wedi dechrau edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd ym Mhontypridd h.y. creu unedau yn y gymuned rhwng yr YMCA, Parc Ynysangharad ac ati. Pwysleisiodd y Cydlynydd Iechyd a'r Celfyddydau'r posibilrwydd o sefydlu is-grwpiau gwahanol ar y pwnc ac i gysylltu â'r Rheolwr Diwylliant a Chelfyddydau Strategol yn CBSRhCT i ddatblygu hyn ymhellach.

 

Nododd yr aelod cyfetholedig, Mr Chris Copock, pa mor galonogol yw'r strategaeth hon a nododd pa mor bwysig oedd delweddau creadigol wrth gefnogi iechyd a lles yn y gymuned.

 

Dymunodd y Cadeirydd ddiolch i Esyllt George a Claire Nelson am ddod i'r cyfarfod a phwysleisiodd y gallwn drafod yr eitem hon eto yn ystod cyfarfod yn y dyfodol.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD yr Aelodau nodi'r diweddariad.

8.

Gwasanaethu ein Cymunedau yn ystod Pandemig COVID-19 pdf icon PDF 206 KB

Derbyn y newyddion diweddaraf am y Celfyddydau yn RhCT yn ystod Pandemig COVID-19.

 

Cofnodion:

Rhannodd y Rheolwr Diwylliant a Chelfyddydau Strategol yr wybodaeth ddiweddaraf â'r Aelodau am Raglen waith Gwasanaeth y Celfyddydau RhCT a gynhaliwyd o fis Ionawr 2021 hyd yn hyn.

 

Cafodd yr Aelodau wybod bod Theatrau RhCT yn parhau i fod ar gau i'r cyhoedd ac mae cynlluniau cyfalaf a chynlluniau gwella TGCh yn cael eu cwblhau ar hyn o bryd. Pwysleisiodd y Rheolwr Diwylliant a'r Rheolwr fod y cynnig cyfranogol, 'Cymerwch Ran', yn parhau i gael ei ddarparu yn y gymuned. Mae Carfan y Celfyddydau a Diwydiannau Creadigol wedi parhau i gefnogi plant a phobl ifainc trwy gynnig darpariaeth ar-lein yn achos nifer o feysydd y celfyddydau. Cafodd yr Aelodau wybod hefyd bod Gwasanaeth y Celfyddydau yn gweithio mewn partneriaeth â Taking Flight, Flossy a Boo, Plant y Cymoedd a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru wrth gyflwyno pedwar prosiect Cysylltu a Ffynnu yn RhCT. Pwysleisiwyd y bydd Gwasanaeth y Celfyddydau yn ystyried ei flaenoriaethau wrth symud ymlaen ac yn deall ei gyd-destun gweithredu o fewn y Cyngor a Sector y Celfyddydau a Diwylliant yng Nghymru.

 

Estynnodd y Cadeirydd ddiolch i'r Rheolwr Diwylliant Strategol a'r Celfyddydau am ddarparu adroddiad mor gynhwysfawr. Nododd y Cadeirydd y gwaith rhagorol y mae'r gwasanaeth yn ei wneud mewn perthynas â'r Eisteddfod sydd ar y gweill a nododd bod rhaid canmol y gwasanaeth am ymgorffori’r gwaith yn y Cynllun Corfforaethol newydd.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNODD yr Aelodau nodi'r diweddariad.

 

9.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn rhai brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.

 

Cofnodion:

Doedd dim mater arall i'w drafod.