Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Adeiladau'r Cyngor, Parlwr y Maer, Heol Gelliwastad, Pontypridd, CF37 2DP.

Cyswllt: Sarah Handy - Council Business Unit, Democratic Services  01443 424099

Eitemau
Rhif eitem

19.

Croeso

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod a chroesawodd y Cynghorydd G. Hughes i'w gyfarfod cyntaf o'r Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr Aelodau y byddai'r agenda yn cael ei thrafod mewn trefn wahanol oherwydd natur gyfrinachol rhai eitemau, ac y byddai Eitem 8 yn cael ei thrafod yn gyntaf.

 

20.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Noder:

1.    Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.    Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Brencher y buddiant personol canlynol: "Rwy'n Ymddiriedolwr yr YMCA

21.

Cofnodion pdf icon PDF 123 KB

Cadarnhau cofnodion cyfarfod Gr?p Llywio Pwyllgor Gweithredu Diwylliant a Chelfyddydau Strategol a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2019 yn rhai cywir.

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2019 yn rhai cywir

22.

DATBLYGU FFRAMWAITH AR GYFER DARPARU ASEDAU DIWYLLIANNOL YM MHONTYPRIDD pdf icon PDF 76 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned gyflwyniad i'r Aelodau yngl?n ag adfer Canolfan Gelf y Miwni a'r cydgysylltu posibl o ran datblygiad yr YMCA.

 

Amlinellodd y cyflwyniad strwythur Canolfan Gelf y Miwni a'r cyfleoedd y mae ei ddyluniad pensaernïol gwreiddiol yn eu cynnig, er enghraifft, gwneud y Miwni yn fwy ynni effeithlon trwy ddefnyddio d?r sy'n casglu ar y to. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr fod trafodaethau manwl wedi cael eu cynnal rhwng y Cyngor ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen i lunio cynllun gwaith cyfalaf, a chynnig gweledigaeth hirdymor uchelgeisiol ar gyfer y Miwni, gan gynnwys adfer y bensaernïaeth wreiddiol a gwneud gwelliannau sylweddol er mwyn creu lleoliad celf ac adloniant o bwysigrwydd rhanbarthol.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Gr?p Llywio bod y Cabinet wedi cytuno ar gyfraniad refeniw o £105,000 ar gyfer 2020/21 er mwyn adfer Canolfan Gelf y Miwni.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cymunedol ymlaen i roi cyflwyniad i'r Gr?p Llywio yngl?n â chynlluniau'r Cyngor i ailddatblygu adeilad yr YMCA ym Mhontypridd. Bydd y lleoliad yma'n cynnwys gofod perfformio hefyd, er y bydd yn dal nifer llai o bobl na'r Miwni. Pwysleisiodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth bwysigrwydd sicrhau bod y ddau leoliad yn cefnogi ei gilydd, a phwysigrwydd diogelu adeiladwaith yr adeilad. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaeth wrth yr Aelodau am y cynlluniau ailddatblygu, fel y bwriad o greu theatr stiwdio, caffi ac oriel.

 

Cafwyd trafodaethau, ac aeth nifer o'r Aelodau ati i ganmol y cynlluniau cyffrous ac uchelgeisiol. Pwysleisiodd un Aelod bwysigrwydd sicrhau y bydd mynedfa i'r anabl ar du blaen adeilad yr YMCA. Pwysleisiodd un Aelod hefyd fod cyfleoedd enfawr ar y gweill, yn enwedig o ran y metro a'r cyfle i ddenu ymwelwyr i'r cymoedd. Cytunodd y Gr?p Llywio y bydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2022 yn gyfle enfawr i ddenu ymwelwyr i'r rhanbarth, ac y bydd y metro a'r Miwni yn rhoi cyfle i'r Cyngor fanteisio ar y cyfleoedd yma.

 

Rhybuddiodd Aelod o'r Gr?p Llywio nad yw asedau diwylliannol yn gweithio oni bai fod sylfaen economaidd i'w cefnogi, a nododd pa mor bwysig yw sicrhau bod yr ailddatblygiadau'n cael cefnogaeth gadarn gan y Cyngor. Aeth y sgwrs yn ei blaen, a phwysleisiodd Aelodau’r Gr?p Llywio bwysigrwydd manteisio ar nifer yr ymwelwyr a’r myfyrwyr i’r Brifysgol ym Mhontypridd, a’r buddion diwylliannol y gallai hyn eu cynnig i’r rhanbarth. 

 

Pwysleisiodd y Cadeirydd fod gweithio ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Awen mewn perthynas â'r Miwni yn weledigaeth hirdymor uchelgeisiol, a bod yr ailddatblygiad yn cyd-fynd â strategaeth ailddatblygu strwythurau canol tref ehangach y Cyngor. Pwysleisiodd y Cadeirydd fod y Cabinet wedi ymrwymo i gynnal ei weledigaeth hirdymor ar gyfer Canolfan Gelf y Miwni ac adeilad yr YMCA.

 

Canmolodd y Gr?p Llywio’r cynlluniau uchelgeisiol, fodd bynnag, pwysleisiodd un Aelod bwysigrwydd sicrhau bod seilwaith trafnidiaeth ar waith ledled y cymoedd er mwyn cefnogi strategaeth y Cyngor.

 

Cytunodd y Gr?p Llywio bod y ddemograffig yn newid ym Mhontypridd, a chytunwyd bod yn rhaid i'r Cyngor fanteisio i'r eithaf  ...  view the full Cofnodion text for item 22.

23.

Diweddariad o ran y Rhaglen ac Uchafbwyntiau Tymor y Gwanwyn yn Theatrau RhCT

Derbyn diweddariad ar lafar.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Datblygu Rhaglenni'r Theatrau a Chynulleidfaoedd ddiweddariad i'r Aelodau mewn perthynas â thymor y theatr hyd yma, yn ogystal â'r achlysuron sydd i ddod yn theatrau RhCT.

 

Clywodd yr Aelodau fod Theatrau RhCT wedi cyd-gynhyrchu taith gydag AdLib Cymru, sef 'An Evening with Shane Williams' a bod nifer o theatrau wedi nodi cynnydd yn nifer y bobl sy'n prynu tocynnau am y tro cyntaf, ac yn dweud ei wedi bod yn dymor llwyddiannus hyd yma. Clywodd yr Aelodau fod gan docynnau fel hyn ffi o £20 y tocyn, ac roedd aelodau'r gymuned leol o'r farn fod hyn yn resymol. Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu Rhaglenni'r Theatrau a Chynulleidfaoedd at berfformiad diweddar Theatrau RhCT 'The Night Porter', a dywedodd wrth y Gr?p Llywio ei fod wedi cael croeso mawr gan aelodau'r gymuned. Cafodd tri pherfformiad ei gynnal yn Theatr y Parc a'r Dâr, gan ddenu 170 o ymwelwyr o bob cwr o Gymru ac o gefndiroedd amrywiol iawn. Dywedodd y Rheolwr wrth y Gr?p Llywio fod y gwasanaeth wedi derbyn 74 o ffurflenni adborth gwerthuso yn dilyn y perfformiadau yma, sy'n dangos bod y perfformiadau wedi ennyn ymateb da.

 

Parhaodd y trafodaethau a chyfeiriodd Rheolwr Datblygu Rhaglenni'r Theatrau a Chynulleidfaoedd at y cynnydd cadarnhaol o ran lansio Stiwdio 1 ddiwedd mis Chwefror yn Theatr y Parc a'r Dâr. Cafodd y Gr?p Llywio hefyd ei atgoffa am Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2022, a'r gwaith y mae Theatrau RhCT yn ei wneud er mwyn paratoi ar ei chyfer. I gloi, aeth y Rheolwr ati i atgoffa'r Gr?p Llywio o'r tymor sydd i ddod a'r rhaglen achlysuron sydd ar y gweill.

 

Cafwyd trafodaeth, a gofynnodd un Aelod a oedd gan Theatrau RhCT unrhyw gynlluniau i annog athrawon i ymgysylltu â'r rhaglen gelf leol. Dywedodd Rheolwr Datblygu Rhaglenni'r Theatrau a Chynulleidfaoedd wrth y Gr?p y bydd Theatrau RhCT yn parhau i weithio'n agos i ddatblygu rhaglen bellach o achlysuron gydag ysgolion yn y Fwrdeistref Sirol.

 

I gloi, diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr am y diweddariad, gan nodi ei fod e'n edrych ymlaen at weld arlwy'r gwanwyn yn Theatrau RhCT.

 

24.

Trafod cadarnhau'r cynnig isod yn benderfyniad:-

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod Eitem 5, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

25.

Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned, sy'n darparu gwybodaeth i Gr?p Llywio Pwyllgor Gweithredu Diwylliant a Chelfyddydau Strategol am gais Gwasanaethau'r Celfyddydau mewn perthynas ag Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru a'r ffocws yn y dyfodol.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwr Strategol - Y Celfyddydau a Diwylliant adroddiad i'r Gr?p Llywio yngl?n â chais Gwasanaeth y Celfyddydau am Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru a'r hyn y bydd y gwasanaeth yn canolbwyntio arnyn nhw yn y dyfodol.

 

Yn dilyn trafodaeth hir, PENDERFYNODD y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol y byddai adborth a sylwadau'r Gr?p Llywio yn cael eu hadrodd i'r Cabinet yn ei gyfarfod ym mis Mawrth er mwyn llywio ei benderfyniad.

 

26.

Prosiect Forté

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr – Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned, sy'n rhoi gwybodaeth i Gr?p Llywio Pwyllgor Gweithredu Diwylliant a Chelfyddydau Strategol am ddatblygiad Prosiect Forté yn y dyfodol.

 

 

Cofnodion:

Rhoddodd Cydlynydd y Diwydiant Cerdd adroddiad i'r Gr?p Llywio ar gynnydd Prosiect Forte a chynlluniau ar gyfer y dyfodol er mwyn gwella ei gyrhaeddiad a'i effaith.

 

Yn dilyn trafodaeth hir, PENDERFYNODD y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol nodi cynnwys yr adroddiad ynghylch Prosiect Forte a'i ddatblygiad yn y dyfodol.

 

27.

Chairs Closing Remarks

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau am ddod, yn ogystal â'u hatgoffa bod croeso iddyn nhw ymweld â Pharlwr y Maer i weld ei bensaernïaeth wreiddiol ar ôl i'r holl waith ddod i ben.