Agenda a Chofnodion

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Theatr y Parc a'r Dâr, Station Road, Treorci, CF42 6NL

Cyswllt: Hannah Williams - Uned Busnes y Cyngor - Gwasanaethau Llywodraethol  01443 424062

Eitemau
Rhif eitem

7.

Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb oddi wrth Gynghorydd y Fwrdeistref Sirol S. Rees-Owen a chynrychiolydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Ms M. Dunning.

 

8.

Datgan Buddiant

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Nodwch:

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw.

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

Cofnodion:

Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, doedd dim datganiadau o fuddiant yngl?n â'r agenda.

 

9.

Cofnodion pdf icon PDF 125 KB

Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Gr?p Llywio Diwylliant a Chelfyddydau Strategol a gynhaliwyd ar 18 Medi, 2018 yn gofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Medi, 2018 yn rhai cywir.

 

10.

Cyhoeddiadau

Cofnodion:

Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ganmol y maes gwasanaeth am ei gyflawniadau helaeth ers y cyfarfod diwethaf a gofynnodd i Reolwr Celfyddydau a Diwylliant Strategol roi trosolwg i'r Aelodau. Roedd hyn yn cynnwys trafod y canlynol:

·        Adolygiad 5* ar wefan Wales Online o gynhyrchiad pantomeim Theatrau RhCT, 'Jack and the Beanstalk';

·        Gwahoddiad i ?yl 'Brits Off Broadway' yn Efrog Newydd i gyflwyno'r ddrama 'Exodus', a gynhyrchwyd ar y cyd rhwng Theatrau RhCT a chwmni theatr Motherlode;

·        Dathlu pen-blwydd y Colisëwm yn 80 oed  – roedd llawer o bobl wedi mynd i'r achlysur Gala a oedd yn cynnwys perfformiadau o safon uchel gan unigolion a grwpiau lleol, yn y Gymraeg a'r Saesneg;

·        Cadeirydd Gr?p Llywio Pwyllgor Gweithredu Diwylliant a'r Celfyddydau Strategol yn cyrraedd rhestr fer gwobr 'Hearts for the Arts 2019';

·        Sicrhau rhagor o gyllid Cyfalaf y Cyngor ar gyfer datblygiad y blwch du yn Theatr y Parc a'r Dâr; ac

·        Cyfarfod cadarnhaol gyda Chyngor Celfyddydau Cymru yngl?n â chyllid refeniw – derbyniodd RhCT ganmoliaeth am ei fod yn bodloni blaenoriaethau ei Gynllun Strategol.

 

Roedd trafodaeth yngl?n â'r gwahoddiad i ?yl 'Brits Off Broadway' yn dilyn hyn – cytunodd Aelodau fod angen trefnu achlysuron er mwyn codi'r £25,000 y byddai ei angen erbyn 2020, er y byddai'n rhaid penderfynu a oedd y cyfle yma'n bodloni cynlluniau Strategaeth Ryngwladol Theatrau RhCT.  Ar hyn o bryd, nid yw UDA yn flaenoriaeth yn Strategaeth Ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru.

 

 

11.

Cylch Gorchwyl pdf icon PDF 95 KB

Cymeradwyo Cylch Gorchwyl wedi'i ddiweddaru y Gr?p Llywio fel sy wedi'i amlinellu yng Nghynllun Dirprwyo'r Arweinydd.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD  cymeradwyo Cylch Gorchwyl Gr?p Llywio Pwyllgor Gweithredu Diwylliant a Chelfyddydau Strategol a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Cabinet er gwybodaeth.

 

12.

Rhaglen Waith 2019/20 pdf icon PDF 87 KB

Derbyn y Rhaglen Waith ddrafft ar gyfer Blwyddyn y Cyngor 2019/20        

 

Cofnodion:

Dywedodd Rheolwr Celfyddydau a Diwylliant Strategol wrth y Gr?p Llywio fod y Rhaglen Waith yn ddogfen hyblyg y mae modd ei datblygu yn ôl y galw i weddu i bynciau sy'n bwysig ar wahanol adegau. Yna, cafodd gwybodaeth bellach ei rhoi i'r Gr?p Llywio am y themâu cyfredol sy wedi'u cynnwys yn y Rhaglen Waith.

 

·        Gwasanaethu ein Cymunedau – Cyfle i drafod a chydnabod anghenion y gymuned, y canfyddiad presennol o'r celfyddydau a sut mae modd denu cynulleidfaoedd mwy amrywiol.

 

Roedd y Gr?p Llywio yn cytuno y byddai sefydlu'r Canolfannau Cymuned yn gwella dealltwriaeth y cymunedau o'r celfyddydau ac yn gwneud pobl yn effro i'r ffaith bod y celfyddydau'n cwmpasu mwy na'r theatrau'n unig.

 

·        Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru – Cyfle i drafod y ffordd ymlaen wrth ddatblygu gwasanaeth cynaliadwy o safon uwch.

 

Soniodd yr Aelod Annibynnol am adolygiad Cyngor Celfyddydau Cymru mewn perthynas â dosbarthu cyllid yn y dyfodol yn unol â'r flaenoriaeth yn ei Gynllun Corfforaethol i 'fod o fudd i bawb'. Roedd yr Aelod yn gobeithio y byddai hwn yn gyfle i gynyddu'r cyllid i Awdurdodau Lleol fel RhCT, sydd â'r ail boblogaeth fwyaf yng Nghymru ar ôl Caerdydd.

 

·        Celfyddydau ac Iechyd – Trafod sut mae modd i'r celfyddydau fod o fudd i'r agenda iechyd ehangach.

 

·        Celfyddydau ac Adfywio – Trafod creu cysylltiadau ehangach a sut mae modd dod â phrosiectau yn nes at ei gilydd.

 

 

 PENDERFYNWYD  cymeradwyo Rhaglen Waith Gr?p Llywio Pwyllgor Gweithredu Diwylliant a Chelfyddydau Strategol ar gyfer 2019/20.

 

 

13.

Cynllun Bwrsariaeth y Celfyddydau pdf icon PDF 58 KB

Ystyried proses ymgeisio'r Fwrsariaeth Gelfyddydau ar gyfer 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Gr?p Llywio fod y dogfennau ger eu bron yn esiampl o feini prawf Awdurdod cyfagos ar gyfer ceisiadau am Fwrsariaeth y Celfyddydau, a rhoddodd y cyfle i Aelodau roi sylwadau ar gynnwys fersiwn RhCT cyn ei llunio. Eglurwyd bod grantiau gwerth £500 ar gyfartaledd yn cael eu cyflwyno sy'n rhoi cyfle i unigolion ddechrau hel profiad ym maes y celfyddydau, neu ehangu ar y profiad sydd gyda nhw eisoes yn y maes yma.

 

Roedd aelodau'r Gr?p Llywio yn cytuno y dylai meini prawf RhCT gynnwys naratif yn amlinellu'r gwahanol gyfleoedd y mae'r fwrsariaeth yn eu cynnig a dylen nhw fod yn haws i'w deall, yn unol â'r Cynllun Corfforaethol. Cytunwyd y dylai fod llai o reolau er mwyn sicrhau nad oes unrhyw beth yn rhwystro unigolion rhag gwneud cais.

 

O ran ystod oedran y rheini sy'n gallu gwneud cais am y grant, cafodd yr awgrymiadau canlynol eu gwneud: codi'r ystod oedran hyd at oed TGAU, oherwydd byddai gan bobl ifainc gwell syniad o'r gyrfaoedd yr hoffen nhw eu dilyn; peidio â chael terfyn oedran er mwyn rhoi'r cyfle i drigolion h?n gael eu hailgyflwyno i'r celfyddydau; a gostwng yr oedran mor isel ag 11 mlwydd oed er mwyn rhoi cyfle i bobl ifainc wneud rhywbeth newydd ac i lywio'u gwybodaeth am y celfyddydau o oedran ifanc. Roedd Aelodau o'r farn y byddai'n fuddiol petai cynllun peilot yn cael ei gynnal o ran yr ystod oedran sy'n cael ei dewis, er mwyn sicrhau bod y cynllun yn cyrraedd ei lawn botensial.

 

Soniodd y Gr?p Llywio am yr ymgynghoriad y byddai angen ei wneud gyda gwahanol feysydd gwasanaeth yn y Cyngor fel yr adran gyllid i sicrhau nad yw'n gorgyffwrdd â chyfleoedd cyllido eraill, a'r Gwasanaeth Ymgysylltiad a Chyfranogiad Ieuenctid a'r Gwasanaeth Cerddoriaeth a allai hyrwyddo'r fwrsariaeth i'w defnyddwyr.

 

Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD:

a)     Y bydd fersiwn ddrafft o Gynllun Bwrsariaeth y Celfyddydau Rhondda Cynon Taf yn cael ei dosbarthu i'r Gr?p Llywio i'w chymeradwyo;

b)     Y bydd Cynllun Bwrsariaeth y Celfyddydau terfynol yn cael ei gymeradwyo trwy Benderfyniad Dirprwyedig gan Swyddog.

 

 

 

 

14.

Canolfan Gelf y Miwni

Trafodaeth ar lafar yngl?n â Chanolfan Gelf y Miwni.

Cofnodion:

(Nodwch: Ar y pwynt yma, ymunodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Brencher â'r cyfarfod.)

 

Rhoddodd Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned fanylion i Gr?p Llywio Pwyllgor Gweithredu Diwylliant a Chelfyddydau Strategol am Ganolfan Gelf y Miwni a'r trafferthion llywodraethu ac ariannol a arweiniodd at gau'r Ganolfan yn ddiweddar.

 

Cafodd Aelodau eu hatgoffa bod prydles y Miwni wedi'i rhoi i gr?p cymunedol lleol trwy drosglwyddiad ased cymunedol, yn dilyn penderfyniad RhCT i gau'r adeilad yn 2015. Parhaodd Canolfan Gelf y Miwni i chwarae rhan bwysig a gwerthfawr yn y gymuned gyda chynyrchiadau dawns, cerdd a chelfyddyd lleol yn cael eu cynnal yno'n rheolaidd. Yn anffodus, o ganlyniad i heriau ariannol sylweddol, doedd dim modd i ddeiliaid y brydles barhau i reoli'r adeilad ac o'r herwydd, cafodd yr adeilad ei gau ar 23 Rhagfyr 2018. Ar ôl ystyried y mater yn ofalus, penderfynodd y Cyngor doedd dim modd iddo gynnig cymorth ariannol pellach i'r cwmni preifat yma.

 

Roedd y Cyfarwyddwr yn falch o roi gwybod bod proses 'Mynegiant o Ddiddordeb' wedi cael ei chynnal yn dilyn cau'r Miwni, er mwyn rhoi'r brydles i denant newydd. Roedd y broses yma wedi cau'r diwrnod cyn y cyfarfod yma. Eglurwyd bod chwe mynegiant o ddiddordeb o natur amrywiol wedi dod i law. Cafodd y Gr?p wybod y byddai'n cael y cyfle i gyfrannu at y broses graffu unwaith y bydd cynlluniau busnes wedi'u cyflwyno, cyn i'r Cabinet benderfynu ar y mater yn ystod yr haf.

 

Roedd yr Aelodau'n cytuno bod yr adeilad yn ased cymunedol ac yn destun atgofion pwerus i drigolion lleol. Gwnaeth yr Aelod Lleol sylwadau ar hyfywedd yr adeilad, gan esbonio ei fod yn cael ei ddefnyddio gan bobl o bob oed, ac nad oedd modd gwadu'r niferoedd a oedd yn mynd yno.

 

Roedd y Gr?p Llywio yn cydnabod y trafferthion a fu o safbwynt llywodraethu, ond roedd Aelodau'n hyderus y byddai modd i'r adeilad ddod yn ased diwylliannol i'r gymuned unwaith eto, o ganlyniad i ddatblygu cynllun 'RhCT Gyda'n Gilydd' dros y tair blynedd ddiwethaf a'r diddordeb amlwg yn y broses 'Mynegiant o Ddiddordeb' ddiweddar.

 

Awgrymodd y Cyfarwyddwr y dylai cydweithwyr o'r Adran Adfywio ddod i gyfarfod nesaf Gr?p Llywio Pwyllgor Gweithredu Diwylliant a Chelfyddydau Strategol er mwyn cyflwyno cyd-destun y gwaith adfywio ehangach sy'n digwydd yng nghanol y dref ac i gynnig eglurder ynghylch sut y mae modd i adeiladau fel Canolfan Gelf y Miwni, yr YMCA a phrosiect Dyffryn Taf ategu ei gilydd a hyrwyddo datblygu'r celfyddydau yn y gymuned ehangach.

 

(Nodwch: Ar y pwynt yma, datganodd Cynghorydd y Fwrdeistref Sirol J. Brencher y buddiant personol canlynol "Rwy'n Ymddiriedolwraig y YMCA")

 

Yn dilyn trafodaethau, PENDERFYNWYD nodi diweddariad Cyfarwyddwr Materion Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned.

 

 

15.

Trafod cadarnhau'r Penderfyniad isod:-

“Bod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYDbod y cyfarfod hwn yn cadw aelodau o'r wasg ac aelodau o'r cyhoedd allan o ystafell y cyfarfod, dan Adran 100A(4) o'r Ddeddf Llywodraeth Leol (fel y'i diwygiwyd), yn ystod trafod yr agendwm nesaf, ar y sail y byddai'n debygol o olygu datgelu gwybodaeth eithriedig yn ôl diffiniad paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf.

 

 

16.

Cynllun Busnes Celfyddydol a Chydweithredu Celfyddydol

Ystyried Cynllun Busnes Artistig Theatrau RhCT ar gyfer 2019/20.

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Rhaglen y Theatrau a Datblygu Cynulleidfaoedd Gynllun Busnes Celfyddydol Theatrau RhCT ar gyfer 2019-20 i'r Gr?p Llywio.

 

Tywysodd y swyddog yr Aelodau drwy restr fanwl o'r cynyrchiadau a'r cydgynyrchiadau sydd ar ddod, sy'n cynnwys drama, dawns a cherddoriaeth o safon uchel.

 

Yn dilyn nifer o gwestiynau gan Aelodau, PENDERFYNWYD nodi cynnwys Cynllun Busnes Celfyddydol Theatrau RhCT ar gyfer 2019-20.