Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX
Cyswllt: J Nicholls, Principal Scrutiny Officer 01443 424098
Rhif | eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Daeth ymddiheuriad am absenoldeb gan Gynghorwyr y Fwrdeistref Sirol M Forey, L Walker a W Jones.
|
|
Datganiad o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Gynghorwyr, yn unol â gofynion Cod Ymddygiad y Cyngor.
Nodwch:
1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
Cofnodion: Yn unol â Chod Ymddygiad y Cyngor, ni wnaethpwyd unrhyw ddatganiadau mewn perthynas â'r Agenda.
|
|
Croeso a Chyflwyniadau Cofnodion:
Estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb a oedd yn bresennol gan gynnwys yr Arolygydd Michael Rudall a'r Arolygydd Benjamin Rowe o Heddlu De Cymru |
|
Cadw Menywod a Merched yn Ddiogel yn RhCT - Trosolwg o'r Trefniadau Cyfredol ar gyfer Mannau Cyhoeddus.
Cofnodion: Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned ei hadroddiad, a oedd yn rhoi cyfle i'r Pwyllgor gael diweddariad ar y trefniadau cyfredol sydd ar waith yn Rhondda Cynon Taf er mwyn cadw merched a menywod yn ddiogel mewn mannau cyhoeddus, sydd yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer y Cyngor.
Yn ogystal â'r adroddiad, rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod y bydd Swyddogion Heddlu De Cymru yn cynnig trosolwg o'r gwaith cenedlaethol a gwaith ledled y DU sy'n cael ei gyflawni i gryfhau polisïau strategol yn y maes yma, gan gynnig data lleol mewn perthynas â throseddau megis stelcio, aflonyddu a thrais yn erbyn menywod a merched yn ardal Heddlu De Cymru.
Yn rhan o'u cyflwyniad, amlinellodd Heddlu De Cymru y penawdau fel a ganlyn:
Ø Prif Ganfyddiadau - Covid Ø Pryder wrth Galon y Llywodraeth Ø Beth yw stelcio? Ø Stelcio ac aflonyddu Ø Troseddau Stelcio ac Aflonyddu - Dadansoddiad (Morgannwg Ganol) Ø Tueddiadau Cenedlaethol - Stelcio ac Aflonyddu Ø Trais gydag anaf - Data Ø RhCT Ø Rhoi Gwybod am Drosedd v Prawf Tystiolaethol Ø Strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Merched Gwasanaeth Erlyn y Goron (‘CPS’) Ø Beth sydd Nesaf? - Yn fras Ø Mentrau Ø Crynodeb
I gloi, rhoddodd y Pwyllgor wybod bod Heddlu De Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â RhCT ar sawl menter i gadw trigolion yn ddiogel a datblygu'r mesurau sydd ar waith yn barod.
Cyflwynodd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned nifer o benawdau allweddol yn ei hadroddiad. Mae pob un o'r rhain yn cefnogi'r Heddlu i gadw trigolion a chymunedau yn ddiogel fel y rhwydwaith teledu cylch cyfyng helaeth ledled RhCT a chefnogi nifer o fentrau ar lawr gwlad. Mae hyn yn cynnwys StoreNet a Pubwatch yn rhan o gynllun gydweithio â nifer o bartneriaid, y fasnach drwyddedu, busnesau lleol a'r fasnach letygarwch.
Cafodd y Pwyllgor wybod am y mentrau ehangach yn y gymuned sydd wedi'u datblygu i fynd i'r afael â phroblemau megis alcohol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn rhan o'r Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ac atal y niwed i bobl ifainc gan alcohol drwy sefydlu dwy ardal Partneriaeth Alcohol Gymunedol yn ardal Porth a Phontypridd.
Roedd Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned wedi cydnabod pwysigrwydd dull addysg gyfan o ran hyrwyddo perthynas iach yn yr ysgolion er mwyn torri'r patrwm o ymddygiad a diwylliant o fewn teuluoedd gan amlinellu sut caiff y sesiynau yma'u cyflwyno yn yr ysgolion. Mae'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid wedi bod yn rhan hollbwysig o ddarparu gweithgareddau i bobl ifainc yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ddefnyddio cylchoedd trafod ac arolygon er mwyn i ni ddeall sut maen nhw'n teimlo yn eu cymunedau. O ganlyniad i hynny, mae'r carfanau o weithwyr ieuenctid ar y stryd wedi cael eu gweithredu ledled RhCT o fis Hydref 2020 er mwyn ymateb i anghenion y bobl ifainc.
Yn dilyn y cyflwyniadau, holodd Aelodau’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu gwestiynau gan rannu pryderon â Swyddogion y Cyngor a Heddlu De Cymru. ... view the full Cofnodion text for item 4. |