Agenda

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Y Pafiliynau, Parc Hen Lofa'r Cambrian, Cwm Clydach, Tonypandy CF40 2XX

Cyswllt: J L Nicholls-Democratic Services  01443 424098

Cyfryngau

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiad Buddiant:

Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau, yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.

 

Noder:

 

1.     Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm mae eu buddiant yn ymwneud ag ef a mynegi natur y buddiant personol hwnnw; a

2.     Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.

 

2.

Cofnodion pdf icon PDF 377 KB

Cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu (yn cwrdd yn ei rôl fel Pwyllgor Materion Troseddau ac Anhrefn y Cyngor) a gynhaliwyd ar 17 Mai 2021 yn rhai cywir.

 

3.

Cadw Menywod a Merched yn Ddiogel yn RhCT - trosolwg o'r mesurau newydd sy'n cael eu rhoi ar waith mewn mannau cyhoeddus pdf icon PDF 286 KB

Derbyn diweddariad gan Gyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned mewn perthynas â'r trefniadau yn Rhondda Cynon Taf i gadw menywod a merched yn ddiogel mewn mannau cyhoeddus.

 

4.

Mentrau Perthnasoedd Iach - Blwyddyn Academaidd 2020-21 pdf icon PDF 650 KB

Derbyn adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant mewn perthynas â'r cynnydd a wnaed gan Gyngor Rhondda Cynon Taf wrth ddarparu mentrau perthnasoedd iach priodol hyd at ddiwedd y flwyddyn academaidd 2020-21.

 

5.

Adolygiad y Cadeirydd a dod â'r cyfarfod i ben

Myfyrio ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.

 

6.

Materion Brys

Trafod unrhyw faterion sydd, yn ôl doethineb y Cadeirydd, yn faterion brys yng ngoleuni amgylchiadau arbennig.