Lleoliad: Virtual Meeting
Rhif | eitem |
---|---|
5 swyddogaeth statudol graidd Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Atgoffir aelodau'r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu, fel y nodir yn ei gylch gorchwyl, bod eu swyddogaethau statudol craidd yn cynnwys: -
• Adolygu neu graffu ar y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan y Bwrdd neu'r camau mae'r Bwrdd yn eu cymryd; • Adolygu neu graffu ar drefniadau llywodraethu'r Bwrdd; • Paratoi adroddiadau neu wneud argymhellion i'r Bwrdd ynghylch ei swyddogaethau neu'i drefniadau llywodraethu; • Ystyried materion sy'n ymwneud â'r Bwrdd fel y gall Gweinidogion Cymru gyfeirio atyn nhw, ac adrodd i Weinidogion Cymru yn unol â hynny; • Cyflawni swyddogaethau eraill mewn perthynas â'r Bwrdd sydd wedi'u gosod arno gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
|
|
Datganiad o Fuddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau o'r Pwyllgor yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Nodwch: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e, a mynegi natur y buddiant personol hwnnw: a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
|
|
Cadarnhau cofnodion o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2020.
|
|
Croesawu Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Croesawu Mr Mark Brace, Cadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a fydd yn rhannu diweddariad am gynnydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus o ran ymateb, gwaith adfer a ffocws ar gyfer y dyfodol â'r Pwyllgor.
|
|
Amcan Cynllun Llesiant Cwm Taf - Economi Gref Rhannu trosolwg o'r cynnydd sydd wedi'i wneud yn unol ag Amcan 'Economi Gref' Cynllun Llesiant Cwm Taf mewn perthynas â 'chyflogaeth a sgiliau' a 'chaffael' (diweddariad ar lafar a chyflwyniad Powerpoint) â'r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu.
Bydd aelodau'n cael cyfle i fonitro cynnydd yn y maes yma a nodi unrhyw wybodaeth bellach y mae'r Pwyllgor yn dymuno'i thrafod wrth gefnogi'r broses o gyflawni'r Cynllun Llesiant.
|
|
Adolygiad y Cadeirydd a Dod â'r Cyfarfod i Ben Adlewyrchu ar y cyfarfod a'r camau gweithredu i'w dwyn ymlaen.
|
|
Unrhyw Faterion Eraill Trafod unrhyw faterion eraill y mae'r Cadeirydd yn eu gweld yn briodol.
|