Lleoliad: Ty Trevethick, Abercynon, CF45 4UQ
Cyswllt: Sarah Handy (Graduate Scrutiny Research Officer) and Sarah Daniel (Senior Democratic Services Officer) 01443 424099
Rhif | eitem |
---|---|
5 swyddogaeth statudol graidd Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Atgoffir aelodau'r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu, fel y nodir yn ei gylch gorchwyl, bod eu swyddogaethau statudol craidd yn cynnwys: -
• Adolygu neu graffu ar y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan y Bwrdd neu'r camau mae'r Bwrdd yn eu cymryd; • Adolygu neu graffu ar drefniadau llywodraethu'r Bwrdd; • Paratoi adroddiadau neu wneud argymhellion i'r Bwrdd ynghylch ei swyddogaethau neu'i drefniadau llywodraethu; • Ystyried materion sy'n ymwneud â'r Bwrdd fel y gall Gweinidogion Cymru gyfeirio atyn nhw, ac adrodd i Weinidogion Cymru yn unol â hynny; • Cyflawni swyddogaethau eraill mewn perthynas â'r Bwrdd sydd wedi'u gosod arno gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
|
|
Datgan Buddiant Derbyn datganiadau o fuddiannau personol gan Aelodau o'r Pwyllgor yn unol â gofynion y Cod Ymddygiad.
Noder: 1. Mae gofyn i Aelodau ddatgan rhif a phwnc yr agendwm y mae eu buddiant yn ymwneud ag e, a mynegi natur y buddiant personol hwnnw: a 2. Lle bo Aelodau'n ymneilltuo o'r cyfarfod o ganlyniad i ddatgelu buddiant sy'n rhagfarnu, mae rhaid iddyn nhw roi gwybod i'r Cadeirydd pan fyddan nhw'n gadael.
|
|
Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Chwefror 2020 yn rhai cywir.
|
|
Derbyn Mr Christian Hanagan, Cyfarwyddwr Gwasanaeth – Gwasanaethau Democrataidd a Chyfathrebu Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a fydd yn diweddaru'r Aelodau o ran cynnydd y Rhaglen Waith ar gyfer 2019/20.
|
|
Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf Derbyn yr Athro Marcus Langley, Cadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cwm Taf (PSB), a fydd yn rhoi diweddariad am gynnydd y Bwrdd i'r Pwyllgor.
|
|
Cymunedau sy'n Ffynnu PDF 64 KB Ystyried meysydd i'w datblygu er enghraifft cynaliadwyedd, integreiddio, partneriaeth a gwerthuso'r fenter.
|
|
Trafod unrhyw eitemau eraill y mae'r Cadeirydd yn eu gweld yn briodol. |
|
Adroddiadau er gwybodaeth D.S. Mae modd gweld Adroddiadau er Gwybodaeth trwy'r dolenni canlynol:-
· COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS CWM TAF.
(I'r Aelodau gydnabod yr wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr adroddiad(au). Mae modd anfon unrhyw ymholiadau sy'n ymwneud â'r eitem i Craffu@rctcbc.gov.uk)
|